Module Information

Cod y Modiwl
DD20710
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I DDYLUNIO
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
SG21120
Elfennau Anghymharus
SG21220
Rhagofynion
Llwyddiant i gwblhau Rhan 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Rhaid ailgyflwyno'r gwaith a fethwyd  100%
Asesiad Semester 1 x Cofnod o Ymarferion Dosbarth a Deunyddiau  20%
Asesiad Semester 1 x Traethawd Ysgrifenedig (3,000 o eiriau)  80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng gwahanol fathau o waith dylunio a gwahaol digwyddiadau theatraidd.

2. Cymhwyso'u gwybodaeth o egwyddorion y broses o ddylunio er mwyn trafod testunau dramataidd a chynyrchiadau theatraidd yn fwy awdurdodol.

3. Creu cofnod o'r gwahanol brosesau ymarferol a'r posibiliadau creadigol sy'n gysylltiedig a digwyddiad theatraidd neilltuol.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Seminarau/Gweithdai:

1. Dadansoddi'r Testun
2. Pensaerniaeth y Theatr Fodern (1): Y Theatr Broseniwm
3. Pensaerniaeth y Theatr Fodern (2): Y Theatr Stiwdio
4. Pensaerniaeth y Theatr Fodern (3): Safleodd Penodol
5. Sylfeini Dylunio (1): Lliw a Llinell
6. Sylfeini Dylunio (2): Goslef a Dirgyniant
7. Elfennau Dylunio Set
8. Elfennau Dylunio Gwisgoedd
9. Elfennau Dylunio Goleuo
10. Elfennau Dylunio Sain

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i'r myfyrwyr i rai o'r elfennau sylfaenol ar gyfer dylunio yn y theatre fodern, gan diffinio, dadansoddi ac archwilio amryw swyddogaethau'r dylunydd yn y theatr honno. Yn ystod y seminarau/gweithdai ymarferol, rhoddir cyfle i'r myfyrwyr gyflawni ymarferion a fydd yn gofyn iddynt ddatrys problemau damcaniaethol o ran llwyfannu; a bydd cyfle ysbeidiol hefyd iddynt glywed cyflwyniadau gan ddylunwyr proffesiynol ar ymweliad, ymweld a chynyrchiadau theatraidd neilltuol, ac i arsylwi ar gyfarfodydd cynhyrchu ar gyfer cynyrchiadau'r drydedd flwyddyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr baratoi a chyflwyno eu gwaith ysgrifenedig ac hefyd wrth iddynt gyflwyno'u hatebion i'r problemau gosodedig yn y sesiynau dysgu. Mae cyfathrebu, wrth gwrs, yn elfen allweddol bwysig mewn unrhyw weithgarwch theatraidd, a disgwylir i'r myfyrwyr ddangos ymwybyddiaeth gynyddol soffistigedig o'r modd y mae theatr yn trin a gwyro dulliau a chonfensiynau cyfathrebu.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe all y modiwl hwn osod sail ar gyfer cyfleoedd gyrfaol ym maes dylunio ar gyfer y theatr, gan ei fod yn cyflwyno medrau neilltuol mewn perthynas a phroffesiwn parod. Fodd bynnag, gan mai modiwl rhagarweiniol yw hwn, nid oes yma ymrwymiad ffurfiol i gynllunio gyrfa. Fel pob modiwl arall a gyflwynir yn yr Adran, rhydd y deunydd cwrs gyfle i'r myfyrwyr ddatblygu'n bersonol wrth ymroi i her a hwyl y gwaith.
Datrys Problemau Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn ystod sesiynau dysgu'r modiwl wrth i'r myfyrwyr geisio datrys problemau ymarferol enghriefftiol yn ymwneud a dylunio ar gyfer y theatr fodern.
Gwaith Tim Rhoddir cyfle ysbeidiol i'r myfyrwyr weithio fel tim yn ystod y sesiynau dysgu wrth iddynt drafod a cheisio datrys y tasgau ymarferol a roddir iddynt. Heblaw am y rheini fodd bynnag, ni ddatblygir y medrau hyn yn ystod y modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gan fod hwn yn fodiwl 10 credyd yn unig, ni roddir cyfle neilltuol i'r myfyrwyr adfyfyrio ar eu perfformiad eu hunain yn y modiwl hwn. Ond, mae yna berthynas agos rhwng y modiwl hwn a'r modiwl craidd DD33830 a fydd yn ei ddilyn yn Semester 2, ac fe fydd y ddau fodiwl hwn at ei gilydd yn rhoi cufle i'r myfyrwyr ystyried a gwella ei perfformiad eu hunain.
Rhifedd Ni ddatblygir nac asesir y medrau hyn fel rhan ffurfiol o'r modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Fe gyflwyna'r modiwl fedrau neilltuol mewn perthynas a dylunio ar gyfer y theatr, sy'n cynnwys trin deunydd gweledol a chlywedol yn aeddfed soffistigedig; sylweddoli potensial gwahanol deunyddiau ar gyfer gwaith creadigol, ac ystyried natur y cynhyrchiad theatraidd fel amgylchfyd creadigol.
Sgiliau ymchwil Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr baratoi eu traethodau ysgrifenedig ar gyfer y modiwl hwn. Fe fydd y traethawd yn gofyn iddyn nhw ol-fyfyrio ar y dulliau cynhyrchu a pherfformio hanesyddol a gyflwynwyd iddynt yn ystod y darlithoedd.
Technoleg Gwybodaeth Fel sy'n wir am bob un o fodiwlau'r Adran, disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno'u gwaith ysgrifenedig wedi'i brosesu'n eiriol: ac mae'n dra thebyg y bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn dewis cyflwyno delweddau fel rhan o'r gwaith hwnnw. Fodd bynnag, mater i'r myfyrwyr unigol yw hyn, ac ni ddatblygir nac asesir y medrau hyn fel rhan ffurfiol o'r modiwl.

Rhestr Ddarllen

Dylid Ei Brynu
Svboda, Josef (1993) The Secret of Theatrical Space Applause Theatre Books Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Adcock, Craig and James Turrell (1990) The Art of Light and Space University of California Chwilio Primo Albers, Josef (1975) Interaction of Colours Yale University Press Chwilio Primo Baugh, Christopher (2005) Theatre, Performance and Technology Palgrave Macmillan Chwilio Primo Beacham, Richard C. (1994) Adolphe Appia, Artist and Visionary of the Modern Theatre Harwood Chwilio Primo Brook, Peter (1968) The Empty Space Penguin Chwilio Primo Burian, J.M. (Ed) (1990) The Secret of Theatrical Space Applause Theatre Books Chwilio Primo Gregory, R.L. (1997) Eye and Brain Oxford University Press Chwilio Primo Harbison, Robert (2000) Eccentric Spaces MIT Press Chwilio Primo Howard, Pamela (2001) What is Scenography? Routledge Chwilio Primo Huxley, Michael and Noel Witts (Eds) (1996) The Twentieth Century Performance Reader Routledge Chwilio Primo Kaye, Nick (1996) Art into Theatre Harwood Chwilio Primo Kaye, Nick (2000) Site-Specific Art: Performance, Place and Documentation Routledge Chwilio Primo Laurie, Alison (2000) The Language of Clothes Owl Books Chwilio Primo Parker & Wolf (1996) Scene Design and Stage Lighting Harcourt Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5