Module Information
Cod y Modiwl
DD24220
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I DDYLUNIO
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd: os methir yr aseiniad ymarferol, gosodir prosiect ymarferol damcaniaethol newydd | |
Asesiad Semester | 1 x aseiniad ymarferol | 50% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd ysgrifenedig (2,500 o eiriau) | 30% |
Asesiad Semester | 1 x llawlyfr nodiadau a deunyddiau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/myfyrwraig sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:
1. arddangos mestrolaeth sylfaenol o'r sgiliau technegol a ddysgwyd wrth ddewis maes arbenigol (e.e. dylunio sain, goleuo, gwisg neu set)
2. arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng gwahanol fathau o waith dylunio a gwahanol ddigwyddiadau theatraidd
3. cymhwyso'u gwybodaeth o egwyddorion y broses o ddylunio er mwyn trafod testunau dramataidd a chynyrchiadau theatraidd yn fwy awdurdodol
4. creu cofnod o'r gwahanol brosesau ymarferol a'r posibiliadau creadigol sy'n gysylltiedig a digwyddiad theatraidd neilltuol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Un o elfennau canolog y modiwl hwn fydd creu a darganfod ffyrdd o gyflwyno ymateb i waith creadigol trwy ddulliau gweledol a chlywedol cymharol anghyfarwydd. O ran hynny, ac o ran yr angen i son am y profiad o ddatblygu¿r deunydd ymarferol hwn mewn llawlyfr nodiadau a thraethawd, fe fydd pwyslais pendant ar ddatblygu medrau cyfathrebu yn ystod y modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Fe all y gwaith ymarferol a gyflawnir yn y modiwl hwn gyfri fel cam cyntaf tuag greu portffolio o brofiadau ac enghreifftiau o waith ymarferol i¿r myfyrwyr hynny a fydd yn ymddiddori mewn dylunio ar gyfer y theatr fel gyrfa. Fodd bynnag, ni ddatblygir y medrau hyn yn ffurfiol fel rhan o¿r modiwl. |
Datrys Problemau | Un o¿r medrau pwysicaf i¿w ddatblygu yn ystod y modiwl hwn fydd gallu¿r myfyrwyr i ddychmygu a sylweddoli canlyniadau ymarferol a thechnegol eu hymateb creadigol i destun dramataidd a pherfformiad llwyfan. Yn hynny o beth, fe fydd datrys problemau yn ganolog i¿r modiwl ac i¿w aseiniadau. |
Gwaith Tim | Fe fydd y modiwl yn canolbwyntio ar allu¿r myfyrwyr i ddatblygu syniadau ac ymatebion unigol i¿r testun/ perfformiad canolog, ac felly ni ddatblygir sgiliau neilltuol o ran gweithio mewn grwpiau yma. Fodd bynnag, fe fydd y profiad o wylio grwpiau eraill o fyfyrwyr ar waith a thrafod y gwaith hynny yn cymell y myfyrwyr i sylwi¿n fanwl ar natur gydweithredol cynhyrchiad theatraidd. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Modiwl rhagarweiniol i faes dylunio fydd hwn, ac felly ni ddatblygir y sgiliau hyn yn neilltuol ag eithrio trwy gyflwyno profiadau a gwybodaeth dechnegol newydd a fydd yn ddefnyddiol i¿r myfyrwyr wrth gwblhau¿r modiwl hwn a modiwlau ymarferol eraill. |
Rhifedd | Ni ddatblygir y medrau hyn fel rhan o¿r modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Medrau penodol yn ymwneud â sgiliau technegol arbenigol (e.e. mewn dylunio gwaith sain, goleuo, gwisg neu set ar gyfer y theatr). |
Sgiliau ymchwil | Pwysleisir gallu'r myfyrwyr i ddatblygu ystod eang o wahanol fathau o ddeunydd mewn ymateb i¿r testun neu'r perfformiad y dewisir ei drafod. Fe fydd ymchwilio i'r testun/perfformiad hwn, ynghyd â chael deunydd enghreifftiol priodol, yn elfennau pwysig o waith y myfyrwyr felly. |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddatblygir y medrau hyn fel rhan o¿r modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5