Module Information

Cod y Modiwl
DD33830
Teitl y Modiwl
YMARFER CYNHYRCHU 1
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
neu DD21610

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Cyfnod ymarfer i'w ddilyn gan gyfnod perfformio cyhoeddus
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau a'r prosesau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn cyflwyno cynhyrchiad theatraidd llwyddiannus. Fe fydd yn cynnwys dosbarthiadau ar waith technegol ac ymarferol mewn nifer o wahanol feysydd, ochr yn ochr a phrofiad ymarferol llawn o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad dros gyfnod o saith wythnos.

Dylid nodi nad oes modd i fyfyrwyr gymryd mwy na 60 credyd o fodiwlau Ymarfer Cynhyrchu yn ystod Rhan 2 i gyd, sef Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3.

Nod

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i ymarfer y sgiliau hynny a gyflwynwyd iddynt yn ystod y modiwlau Semester 1 ar actio, cyfarwyddo a dylunio, a hynny yn yr amgylchfyd mwyaf priodol, sef cynhyrchiad theatraidd llawn. Fe fyddant yn derbyn cyngor a hyfforddiant ymarferol ar nifer o agweddau o gynhyrchu yn y theatr, gan gynnwys perfformio, cyfarwyddo, rheoli llwyfan, goleuo, cynllunio set, cynllunio sain a chynllunio gwisgoedd. Wedi gwneud hynny, fe fyddant yn darganfod sut i gydweithio er mwyn cyrraedd nod a bennir gan gyfarwyddwr y prosiect, gan ddysgu sut i ymateb i ofynion creadigol y cynhyrchiad trwy ddulliau ymarferol a thechnegol. I fyfyrwyr yn ei hail flwyddyn, fe fydd y modiwl hwn yn hwb creadigol ar gyfer gwaith pellach ar destunau dramataidd a theatr gorfforol a gynigir yn Semester 3 o'u gradd, ac hefyd yn dangos iddyn sut i baratoi ac ymateb yn greadigol i her y cynyrchiadau ymarferol a gynigir yn ystod Semester 4.

Wrth greu'r modiwl hwn, dymuna'r Adran roi cyfle mwy trylwyr a strywuthuredig i'r myfyrwyr ddadansoddi ac ol-fyfyrio ar eu profiad o'r prosiect cynhyrchu ymarferol. Wrth wneud hyn, dymuna'r Adran gynnwys agweddau pwysig ar yr Adolygiad ar Gynnydd Academaidd a Phersonol (APPR) o fewn strwythur y modiwl a'u gwneud yn elfennau gorfodol. Cyflawnir hyn trwy gynnal seminarau wythnosol lle fydd myfyrwyr yn adolygu ac ol-fyfyrio ar eu profiad a'i asesu'n feirniadol. Ar ol sesiwn adborth 2.5 awr ar ddiwedd y prosiect, fe fydd gofyn i'r myfyrwyr sefyll arholiad hwn yn cael ei gynnal gan arweinydd y prosiect yngyd ag un aelod ychwanegol o'r staff. Gofynnir hefyd i Arholwr Allanol yr Adran ar gyfer gwaith ymarferol fynychu o leiaf 10% o'r arholiadau llafar hyn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6