Module Information

Cod y Modiwl
DD34030
Teitl y Modiwl
YMARFER CYNHYRCHU 3: DYFEISIO THEATR
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
DD33830 neu DD32820
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Cyfnod ymarfer i'w ddilyn gan gyfnod perfformio cyhoeddus
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Nod

Fe fydd y modiwl hwn yn roi cyfle i'r myfyrwyr ddyfeisio darn o theatr ar gyfer cynulleidfa darged neilltuol. Mae'n wahanol i'r modiwlau arfaethedig newydd ar Ymarfer Cynhyrchu, sef DD33830 a DD33930, gan y bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau dan oruchwyliaeth cyfarwyddwr/hyrwyddwr er mwyn dyfeisio a chreu deunydd ar gyfer cyflwyniad gerbron cynulleidfa theatraidd o fath neilltuol. Fe fydd y prif bwyslais ar greu ac ysgrifennu darn o destun theatraidd. Fe fydd y cyfarwyddwr/hyrwyddwr - a fydd yn theatr-weithredwr profiadol o blith y staff neu yn arbenigwr gwadd - yn gyfrifol am alluogi'r grwp i weithio tuag at gyfres o dargedau yn ystod y cyfnod ymarfer a pherfformio saith-wythnos, ac yn arwain ymarferion a gweithdai a fydd wedi'u dyfeisio er mwyn roi i'r myfyrwyr y galluoedd, yr arbenigedd a'r strategaethau a fydd yn briodol ar gyfer y broses ddyfeisio.

Cynnwys

Fe fydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn y modiwl hwn fel actorion, aelodau o'r tim cynhyrchu, dylunio neu rheoli lwyfan, neu fel cynorthwywyr i'r cyfarwyddwr staff (neu wadd), gan weithio'n ddyfal am saith wythnos ar brosiect Adrannol. Fe fydd y cyfleon gwaith hyn yn cael eu cytuno trwy gyfrwng cyfweliad ffurfiol gyda Chyd-gysylltydd y modiwl a'r Rheolwr Cynhyrchu Uwch yn ystod y tymor blaenorol fel rhan o'r broses AGAPh.

Arweinir y cynhyrchiad gan gyfarwyddwr/aig brofiadol a fydd yn creu methodoleg ymarfer priodol ar gyfer y prosiect. Yn ystod yr ymarferion, fe fydd y myfyrwyr yn cael profiad o gemau theatr, ymarferion byrfyfyrio, ymarferion eraill a gweithdai, a fydd wedi'u cynllunio'n benodol er mwyn hybu dealltwriaeth a gallu'r myfyrwyr i gyflawni anghenion eu swyddogaeth o fewn y prosiect dyfeisiedig.

Fe fydd y prosiectau hyn yn cael eu cyflwyno yn un o leoliadau perfformio'r Adran neu mewn lleoliad safle-penodol priodol. Fe fydd cyfanswm o bum perfformiad o'r cyflwyniad a fydd yn rhoi cyfle i rieni, ffrindiau ac aelodau'r cyhoedd wylio gwaith ymarferol yr Adran.

Yn ystod y broses ymarfer, fe fydd disgwyl i'r myfyrwyr greu a dyfeisio darnau o destun theatraidd mewn grwpiau bychain ac fel unigolion. Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr gadw llawlyfr cofnodion gwaith a fydd yn dogfennu datblygiadau a heriadau penodol a ddigwyddodd yn ystod y broses: fel fydd y llawlyfr hwn yn cael ei asesu ar ddiwedd y modiwl. At hynny wedi cwblhau'r prosiect, fe fydd y myfyrwyr yn sefyll arholiad llafar lle y byddant yn dadansoddi a gwerthuso eu profiadau ar y modiwl.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y myfyrwyr hynny sy'n cymryd y modiwl hwn eisoes wedi ymgyfarwyddo ag amryw egwyddor ar gyfer dyfeisio theatr wrth ymwneud a'r modiwlau Lefel 2 sy'n rhagofynion ar gyfer y modiwl hwn.

Yn y modiwl hwn, fe fydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bychain er mwyn dyfeisio darn o theatr ar gyfer grwp neu gynulleidfa o fath penodol. Fe all hyn fod yn brosiect Theatr-mewn-Addysg ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd neu uwchradd; prosiect theatr gymunedol ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, theatr mewn carchardai neu ar gyfer troseddwyr ifainc, neu ar gyfer yr henoed, y di-waith a.y.b.; neu fe all fod yn brosiect theatr-destun dyfeisiedig yn seiliedig ar thema, ddelwedd neu gysyniad neilltuol. Fe fydd gallu'r myfyrwyr i weithio fel tim dan oruchwyliaeth arbenigwr yn ganolog i lwyddiant y modiwl hwn. Yn ystod yr ymarferio a'r gweithdai ar gyfer y modiwl, fe fydd arweinydd y prosiect yn hwyluso datblygiad cysyniad, strategaeth a methodoleg waith a fydd yn briodol ar gyfer dyfeisio testunau byw. Fe fyddant hefyd yn gyfrifol am osod prosiectau ymchwil ac amcanion a chanllawiau clir er mwyn sicrhau bod yna fframwaith realaidd ar gyfer creu'r darn theatr yn llwyddiannus ymysg aelodau'r grwp.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfwryddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni cheir unrhyw ymwrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol.
Datrys Problemau Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol.
Gwaith Tim Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wirth iddo ddatblygu.
Rhifedd Fe all fod medrau monitro cyllid prosiect yn berthnasol yma, ond ni ddatblygir y sgiliau hyn yn ffurfiol, ac nid asesir hwy, yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol ddulliau ymarferol, ac yn datblygu'u dealltwriaeth o'r theatr fel arf gyfathrebu.
Sgiliau ymchwil Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.
Technoleg Gwybodaeth Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chyflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.); ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
Goat Island: School Book 2 Chwilio Primo (1987.) Six theatre-in-education programmes /selected and edited by Christine Redington. Methuen Chwilio Primo Baugh, Christopher. (2005.) Theatre performance and technology :the development of scenography in the twentieth century /Christopher Baugh. Palgrave Macmillan Chwilio Primo Bogart, Anne (2001.) A director prepares :seven essays on art and theatre /Anne Bogart. Routledge Chwilio Primo Clements, Paul (1983) The Improvised Play:The Work of Mike Leigh Methuen & Company, Limited Chwilio Primo Davies, David (ed) (2005) Edward Bond and the Dramatic Child Trenthon Books Chwilio Primo Edwards, Betty. (1982 (1990 prin) Drawing on the right side of the brain /Betty Edwards. Fontana Chwilio Primo Edwards, David (1998) The Shakespeare Factory, Moon River, The Deal Seren Drama Chwilio Primo Etchells, Tim (1999 (various p) Certain fragments :contemporary performance and forced entertainment /Tim Etchells ; photographs by Hugo Glendinning. Routledge Chwilio Primo Fleming, Michael (2003.) Starting drama teaching /Michael Fleming. David Fulton Chwilio Primo Greig, Noel (Jan. 2005) Playwriting:A Practical Guide Routledge Chwilio Primo Johnstone, Chris (1993) House of Games: Making Theatre for Everyday Life Nick Hern Books Chwilio Primo Linklater, Kristin. (2006.) Freeing the natural voice :imagery and art in the practice of voice and language /by Kristin Linklater ; illustrations by Andre Slob. Nick Hern Chwilio Primo Menear, Pauline. (1988.) Stage management and theatre administration /Pauline Menear and Terry Hawkins. Phaidon Chwilio Primo O'Toole, J (1976) Theatre in Education: New Objectives for Theatre - New Techniques in Education Hodder and Stoughton Chwilio Primo O'Toole, John (1992.) The process of drama :negotiating art and meaning /John O'Toole. Routledge Chwilio Primo Oddey, Alison (Oct. 1996) Devising Theatre:A Practical and Theoretical Handbook Taylor & Francis Group Chwilio Primo Oddey, Alison (1996 (various p) Devising theatre :a practical and theoretical handbook /Alison Oddey. Routledge Chwilio Primo Pallin, Gail (Aug. 2004) Stage Management:The Essential Handbook Nick Hern Books, Limited Chwilio Primo Palmer, Scott (April 2000) Essential Guide to Stage Management, Lighting, and Sound Hodder Education Chwilio Primo Pisk, Litz. (1998.) The actor and his body /by Litz Pisk. Methuen Drama Chwilio Primo Reid, Francis (2001.) The staging handbook /Francis Reid. A & C Black Chwilio Primo Robinson, K (1980) Exploring Theatre in Education H.E.B. Chwilio Primo Rossol, Monona (2001) Health and Safety for Film, TV and Theater Allworth Press Chwilio Primo

Spolin, Viola. (1999.) Improvisation for the theatre :a handbook of teaching and directing techniques /[by] Viola Spolin. Northwestern University Chwilio Primo Taylor, Anna-Marie. (1997.) Staging Wales /Anna-Marie Taylor. University of Wales Press Chwilio Primo Zinder, David (2002.) Body--voice--imagination :a training for the actor / c David Zinder. Routledge Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6