Module Information

Cod y Modiwl
FTM2320
Teitl y Modiwl
CYNHYRCHU RADIO 2
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Cyd-Ofynion
Pob modiwl craidd arall
Rhagofynion
Modiwlau Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Datblygu a chyflwyno syniad (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ar gyfer rhaglen nodwedd 14 wedii hanelu at ricyn penodol ar Radio 4. Rhaid cyflwynor cynnig ar lafar ir tiwtor, ynghyd a dogfen ysgrifenedig syn egluror cysyniad, y fformat, y gynulleidfa, yr arddull, ac nad syn hwy na 2 dudalen o A4.  20%
Asesiad Semester Dylid cyflwynor cynhyrchiad terfynol 14 o hyd ar ffurf wav.  60%
Asesiad Semester Cynhyrchu portffolio terfynol syn cynnwys dogfennau atodol am y y cynhyrchiad ac syn dangos datblygiad y prosiect a chymwysterau wrth gynllunior cynhyrchiad, yn ogystal ag yn tynnu sylw at broblemau a gafwyd ar hyd y ffordd a sut y cafodd rheiny eu datrys. Dylid cynnwys hefyd y cynnig gwreiddiol, y gyllideb, nodiadau ymchwil, ffynonellau, amserlen y cynhyrchiad , strwythur y rhaglen, y sgript a threfn derfynol y rhaglen. (Nid yw cyfrif geiriau yn berthnasol yma)  20%
Asesiad Ailsefyll Bydd unrhyw aseiniadau atodol, lle bo angen, yn dilyn yr un strwythur ond fe fydd y testun/strwythur creadigol yn wahanol. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Defnyddio eu gwybodaeth golygyddol mewn cyd-destun proffesiynol ac ymarferol, gan ddangos dealltwriaeth aeddfed o genre, y broses gynhyrchu, polisi golygyddol, cynhyrchu creadigol a chynulleidfa.
2. Dangos lefel uwch o fedrau cyfathrebu, rhyngbersonol ac ymchwilio.
3. Gweithio'n annibynnol wrth gynllunio, gweithredu a chynhyrchu rhaglen radio ffeithiol sy'n cwrdd a safonau proffesiynol.

Nod

I ganiatau i fyfyrwyr ddatblyu ymhellach y medrau technegol a golygyddol a ddysgwyd yn ystod Semester 1, gan gynnwys cynhyrchu rhaglen nodwedd ar gyfer radio.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar fedrau technegol, medrau golygyddol a medrau rheoli cynhyrchiad y myfyrwyr, yn ogystal a'u dealltwriaeth newydd o gonfensiynau cyffredin, marchnad a chynulleidfa, a hynny trwy ofyn iddyn nhw greu, cyflwyno a chynhyrchu rhaglen nodwedd 14' o hyd wedi'i hanelu at ricyn radio penodol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn gofyn i fyfyrwyr gynhyrchu portffolio o ddogfennau cynhyrchu atodol, er mwyn amlygu eu gallu i reoli prosiect a chynllunio cynhyrchiad.

Cynnwys

Mae 4 darlith/seminar dwys yn y modiwl hwn, yn ogystal a dosbarthiadau tiwtorial atodol.
Sesiynau Tybianol

Cyflwyno Syniad
Wrth ddatblygu syniad ar gyfer rhaglen neu gyfres sydd i'w cyflwyno i gomisynydd neu olygydd, rhaid ystyried nifer o ffactorau. Rhaid i'r syniad fod yn addas ar gyfer y farchnad berthnasol; rhaid iddo fod yn addas ar gyfer ei le yn yr amserlen ac ar gyfer y gynulleidfa sy'n debygol o fod yn gwrando. Rhaid ystyried hefyd y potensial i ddenu gwrandawyr newydd mewn marchnad hynod cystadleuol. Rhaid i'r rhaglen neu'r gyfres gael ei chynhyrchu oddi mewn i gyllideb penodedig, gan gydymffurfio a'r canllawiau golygyddol perthnasol. Mae syniad ag iddo agwedd unigryw wastad yn boblogaidd ond mae ffocws ac eglurdeb y cynhyrchiad, ar bapur ac ar lafar, yn hanfodol. Rhaid datblygu naratif cryf, ac ystyried perthnasedd a phwysigrwydd y cyflwynydd. Rhaid i'r syniad hefyd ystyried amrywiaeth y cyfranwyr, yn ogystal a'i addasrwydd ar gyfer strategaeth hyrwyddo'r orsaf a'i botensial i gael ei ddatblygu ar draws sawl platfform. Mae angen bod yn wreiddiol ac yn greadigol ond mae'n rhaid ystyried yr holl ffactorau uchod er mwyn cyflwyno a gwerthu syniad i orsaf neu rwydwaith radio.

Dadansoddi confensiynau cyffredinol ar gyfer rhicyn rhaglenni nodwedd R4
Mae'r rhaglenni nodwedd a gaiff eu darlledu yn y slot yma yn rhan bwysig o adeiladwaith amserlen Radio 4. Wrth ddatblygu syniadau ar gyfer y slot hwn, rhaid cofio'r cyd-destun. Daw'r rhaglenni nodwedd yma rhwng y cyfresi trafod am 0902 a'r darlleniadau am 0945, ac maent yn dod a newid cywair a swn newydd, gydag ystod eang o leisiau a chynhyrchu bywiog. Mae fformat syml a chysyniad clir yn gweithio'n dda yn y slot yma. Gellid defnyddio cerddoriaeth er mwyn creu effaith. Mae 'na gyfle yma i gael ychydig o hwyl, ar adeg pan fo gwrandawyr yn mynd a dod - ond rhaid wrth gynnwys da. Mae cyfuniad o gyflwynydd da a naratif cryf yn llwyddo'r adeg yma o'r dydd.

Ymchwil Uwch a Rheoli Cyfranwyr
Mae angen gwaith ymchwil ar bob rhaglen, ac fe ddylai hwn gael ei wneud gan y cynhyrchydd neu'r cynhyrchydd mewn cydweithrediad ag ymchwilydd y rhaglen/gyfres. Nid oes y fath beth a gormod o ymchwil. Mae angen darllen erthyglau a llyfrau, cysylltu a chyfranwyr ar y ffon, pori gwefannau, ymweld a llefydd a phobl berthnasol, gwrando ar raglenni eraill sydd wedi ymdrin a'r un pwnc, meddwl yn greadigol, cadw cofnod o'r hyn a ddysgir a defnyddio'r dychymyg. Wedi gwneud hyn, mae'n bwysig dewis a dethol y ffeithiau mwyaf diddorol a mwyaf perthnasol i'w cynnwys yn y rhaglen. Rhaid dewis yn ofalus a sicrhau mai'r dewis hwnnw sy'n mynd i weithio orau ar y radio. Ymchwil sydd wrth wraidd pob rhaglen radio dda, a defnyddio manylion a gwybodaeth i wau naratif cryf. Y ffeithiau a ddaw yn sgil ymchwil sy'n gosod y fframwaith ar gyfer y rhaglen. Mae hyn yn cynnwys ymchwil i ddod o hyd i gyfranwyr - canfod y siaradwyr a'r arbenigwyr gorau, a'u cyfarwyddo'n effeithlon fel eu bod yn gwybod yn union beth yw'r disgwyl a beth yw eu cyfraniad nhw i'r rhaglen.

Medrau rheoli a thechnegau cynhyrchu uwch
Mae medrau rheoli a thechnegau cynhyrchu uwch yn gofyn am gyfuno gwybodaeth golygyddol ac ymarferol. Fe fydd myfyrwyr yn amlygu hyn drwy drin a thrafod y cymhlethdodau sy'n codi yn ystod y broses gynhyrchu, o'r cysyniad gwreiddiol hyd y cyfnod ol-gynhyrchu. Bydd angen dysgu sut mae troi syniadau creadigol yn gynnig ar gyfer rhaglen gref a chydlynol, gan strwythuro'r naratif a gwneud y defnydd gorau o gerddoriaeth ac effeithiau. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio'u gwybodaeth am natur y gynulleidfa i gynhyrchu rhaglen ddogfen sy'n apelio at y gwrandawr. Rhaid iddynt roi ar waith yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu am adrodd stori mewn modd gafaelgar, am arddull cyflwyno ac am ddefnyddio'r cyflwynydd yn y ffordd fwyaf effeithlon. Rhaid cyfiawnhau rol y cyfranwyr. Rhaid dangos eu bod yn ymwybodol o'r holl ganllawiau golygyddol a'u bod yn gallu rheoli cyllideb yn effeithlon. Y nod yw cynhyrchu rhaglen o'r safon gorau posib.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu'r syniad ar gyfer rhaglen a thrafod anghenion y cynhyrchiad gyda chyfranwyr yn hanfodol i'r modiwl hwn. Fe'u hasesir yn yr aseiniad.
Gwaith Tim Er mwyn cyflawni'r dasg hwn yn llwyddiannus, fe fydd yn rhaid dibynnu ar gydweithrediad eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain yn elfen graidd o'r modiwl hwn, ynghyd a hunan-werthuso. Caiff y datblygiad hwn ei werthuso yn ystod y modiwl a'i asesu yn yr aseiniad ar ddiwedd y semester.
Sgiliau ymchwil Caiff medrau ymchwil eu datblygu ymhellach wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad lle caiff y medrau hyn eu hasesu.
Technoleg Gwybodaeth Mae hwn yn rhan annatod o'r medrau technegol a gynigir.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Alled, R/Miller, N (1996) The Post Production Age: New Technologies, New Communities University of Luton Press Chwilio Primo Aspinall, Richard Radio Programme Production: A Manual for Training Chwilio Primo Crisell, A (1994) Understanding Radio 2nd Edition Routledge Chwilio Primo Dimbelby etc (1994) Practical Media: A Guide to Production Techniques Hodder and Stoughton Chwilio Primo Donovam, Paul (1991) The Radio Companion Harper Collins Chwilio Primo Fleming, Carole (2002) The Radio Handbook Routledge Chwilio Primo Hoffer, Jay Radio Production Techniques Chwilio Primo McLeish, Robert (2005) The Techniques of Radio production, a Manual for Broadcasters 5th Edition Focal Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7