Module Information

Cod y Modiwl
GF36100
Teitl y Modiwl
CYFRAITH TIR
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Y Gyfundrefn Gyfreithiol (LA10110 neu LA30110 neu GF10110)
Rhagofynion
NEU Foundations of Law (LA15710) A Cyfraith Contractau (LA15830 neu LA35830)
Rhagofynion
NEU Proses Gyfreithiol (LA11010 neu LA31010 neu GF11010)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr. Tair darlith awr o hyd bob wythnos dros y ddau semester.
Seminarau / Tiwtorialau 8 awr. 4 seminar awr o hyd bob semester
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad 2 awr ar ddiwedd Semester 2  67%
Asesiad Ailsefyll Ail-eistedd yr elfen nas pasiwyd 
Asesiad Semester Traethawd asesiedig 2000 o eiriau yn Semester 2  33%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno

Mae tir yn nwydd gwerthfawr. Mae'r rheiny sy'n berchen ar dir yn dymuno cadw'u gafael arno. Mae'r rheiny nad oes tir ganddynt yn dymuno'i gael. Y gyfraith sy'n rheoli'r cysylltiadau hyn yw cyfraith tir. Mae pobl sy'n prynu tai a phobl sy'n berchen arnynt yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ac mae hyn hefyd yn wir am bobl sy'n rhentu tai a fflatiau. Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau megis nwy, trydan a dw^r yn cael eu rheoli gan gyfraith tir. Mae pobl sy'n mynd i'r theatr neu'r rheiny sy'n hoff o fynd i wylio gemau pe^l-droed yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ynghyd a^ banciau a chymdeithasau adeiladu, cyplau priod a di-briod a pherchnogion rheiliau tywelion, ceffylau chwilfrydig a physt gatiau sia^p llew. Mae hyd yn oed gwyrddni parhaus y tir y tu allan i sinema'r Odeon yn Leicester Square yn Llundain yn cael ei reoli gan gyfraith tir. Yng ngoleuni hyn oll, bydd y modiwl hwn yn cynnwys ystyriaethau megis beth yw tir, pa elfennau sydd i gyfraith tir a sut gellir sicrhau, cadw neu golli hawliau a buddiannau sy'n ymwneud a^ thir.

Nod

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r egwyddorion sy'n rheoli'r broses o gaffael hawliau dros dir a chadw'r hawliau hynny. Ei nod felly yw esbonio'r ffordd y mae cytundeb rhwng un unigolyn a'r llall yn troi'n gytundeb sy'n arwain at fantais neu rwymedigaeth nid ar unigolyn ond yn hytrach ar rywun yn rhinwedd ei swyddogaeth fel perchennog ysta^d mewn tir. Yn unol a^ hyn, mae'r hyn sy'n cael ei sicrhau rhwng dau unigolyn dan gyfraith contract yn cael ei ail-greu dan gyfraith tir i greu hawliau a rhwymedigaethau a allai rychwantu cenedlaethau. Felly, nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gysyniad tir a chaffael a ffurfioli hawliau sy'n ymwneud a^ thir unigolyn a thir sy'n eiddo i rywun arall. Ei nod yw rhoi cyfraith tir yng nghyd-destun hanes cyfreithiol Cymru a Lloegr a'r sefyllfa gyfredol o safbwynt cymdeithasol ac economaidd. Ei nod hefyd yw datblygu ffordd o gymhathu a chyflwyno gwybodaeth gyfreithiol, creu dadleuon rhesymegol a phrofedig a datblygu'r gallu i adnabod a chloriannu'r ffordd y mae'r gyfraith yn datrys problemau cymdeithasol gwirioneddol a chanfyddedig. Nod arall y modiwl hwn yw cyflwyno un o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae'n rhaid i bob myfyriwr sy'n dymuno gweithio yn y proffesiynau cyfreithiol eu cael.

Cynnwys

  • Cyflwyniad
  • Beth yw Tir?
  • Pa elfennau sydd i Gyfraith Tir?
  • Perchnogaeth tir
  • Hawliau dros dir sy'n berchen i rywun arall
  • Cydnabod hawliau perchnogaeth ac amherchnogaeth
  • Cydberchnogaeth
  • Prydlesi
  • Morgeisi
  • Hawddfreintiau
  • Cyfamodau
  • Trosglwyddo


Llyfrau a Deunydd Darllen
Nid oes gwerslyfr penodol i'r modiwl hwn. Awgrymir rhai gwerslyfrau yn y darlithoedd sy'n rhan o'r modiwl, gan fod cyhoeddwyr yn aml yn cyhoeddi rhifynnau newydd o werslyfrau yn ystod yr haf. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr fynd a^ llyfr statudau i mewn i'r arholiad, ac mae'r canlynol yn enghreifftiau o destunau rhesymol. Pa werslyfr bynnag y penderfynwch ei brynu, dylech hefyd fwrw golwg dros rai o'r llyfrau eraill ar y rhestr, yn ogystal ag unrhyw ddeunydd darllen arall y gallech fod wedi'i gael ar ffurf achosion, adroddiad ac erthyglau cyfnodolion.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Luther, Peter (Sept. 2009) Core Statutes on Property Law 2009-10 Palgrave Macmillan Limited Chwilio Primo Thomas, Meryl (2009.) Blackstone's statutes on property law /edited by Meryl Thomas. 17th ed., 2009-2010. Oxford University Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6