Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd estynedig o 6000-10000 o eiriau. Os yw myfyriwr yn methu'r asesiad ac yn dymuno ei ail-sefyll, rhaid iddo/iddi ail-gyflwyno'r traethawd ar bwnc sydd o ran sylwedd yn debyg i'r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth ar y traethawd gan y goruchwyliwr gwreiddiol, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan gydlynydd y modiwl. Ni chaniateir goruchwyliaeth ychwanegol na goruchwyliwr. Nid oes yn rhaid cyflwyno cynllun diwygiedig. Caniateir i¿r myfyriwr fynychu unrhyw o¿r darlithoedd sydd yn rhan o¿r modiwl os yw¿n dymuno, a gall godi unrhyw gwestiynau cyffredinol gyda cyd-lynydd y modiwl. | 100% |
Asesiad Semester | Traethawd estynedig o 6000-10000 o eiriau. Bydd angen cyflwyno adroddiad ymchwil yn ystod wythnos 8 y semester perthnasol. Os na chyflwynir adroddiad ymchwil boddhaol, caiff 5 marc eu tynnu o farc terfynol y traethawd estynedig. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
a. datblygu ymwybyddiaeth o botensial testun ar gyfer ymchwil drwy ddewis pwnc addas
b. datblygu sgiliau ymchwilio megis lleoli gwybodaeth berthnasol, yn enwedig drwy lyfryddiaeth a chronfeydd data
c. datblygu sgiliau cynllunio, trefnu ac amserlennu gwaith estynedig dros gyfnod o fisoedd
d. datblygu sgiliau i osod syniadau a gwybodaeth mewn trefn er mwyn cyflwyno'r ddadl a'r wybodaeth yn effeithiol
e. datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn cyflwyno datganiad clir, deallus a darllenadwy o'r pwnc dan sylw ar ffurf sylweddol o 6000-10000 o eiriau.
Disgrifiad cryno
Anelir y modiwl Traethawd Estynedig 1 at fyfyrwyr sydd yn ymgymryd a gwaith ymchwil am y tro cyntaf.
Diben asesu'r adroddiad ymchwil yw cefnogi myfyrwyr yn eu gwaith ymchwil a'r galluogi i wella eu perfformiad yn gyffredinol. Asesir y modiwl drwy iddo gael ei ddarllen gan y goruchwyliwr fel yr arholwr cyntaf, a chan aelod arall o staff fel ail arholwr, a chan arholwr allanol lle bo hynny'r briodol. Asesir y modiwl gan gyfeirio at feini prawf sydd yn ystyried a yw'r ymchwil yn effeithiol a digonol, a hefyd ar gyflwyniad y deunydd a'r dadleuon. Gan hynny, prif nod yr ymchwil yw asesu'r gallu i weithio'r gymharol annibynnol, i ganfod a threfnu deunydd priodol ac i gyfathrebu'r effeithiol yn ysgrifenedig.
Nod
Meithrin sgiliau a gysylltir a darn helaeth o ymchwil, yn enwedig gan fod y sgiliau hyn yn wahanol i'r rhai a ddatblygir drwy'r prosesau dysgu ar gyfer modiwlau a asesir drwy arholiad.
Rhestr Ddarllen
HanfodolFoster, Steve (2009.) How to write better law essays :tools and techniques for success in exams and assignments /Steve Foster. 2nd ed. Pearson Education Ltd Chwilio Primo Hutchinson, Terry C. M. (2006.) Researching and writing in law /by Terry Hutchinson. 2nd ed. Lawbook Co. Chwilio Primo Huxley-Binns, Rebecca. (2008.) Unlocking legal learning /Rebecca Huxley-Binns, Leon Riley, Chris Turner. 2nd ed. Hodder Arnold Chwilio Primo Robson, Colin. (c2007.) How to do a research project :a guide for undergraduate students /Colin Robson. Blackwell Pub. Chwilio Primo Salter, Michael (2007.) Writing law dissertations :an introduction and guide to the conduct of legal research /Michael Salter and Julie Mason. Pearson Chwilio Primo Strong, Stacie I. (c2006.) How to write law essays and exams /S.I. Strong. 2nd ed. Oxford University Press Chwilio Primo Swetnam, Derek. (2000 (various p) Writing your dissertation :how to plan, prepare and present successful work /Derek Swetnam. 3rd ed. How to Books Chwilio Primo Walliman, Nicholas S. R. (2004.) Your undergraduate dissertation :the essential guide for success /Nicholas Walliman. SAGE Chwilio Primo Webley, Lisa. (2005.) Legal writing /Lisa Webley. Cavendish Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6