Module Information

Cod y Modiwl
GF39320
Teitl y Modiwl
CYMRU'R GYFRAITH
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 1 seminar dwy awr yn Gymraeg bob wythnos drwy linc fideo yn semester 1 a semester 2
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Ail-eistedd yr elfen nas pasiwyd  67%
Arholiad Semester 3 Awr   Arholiad Tair Awr  Rhaid i fyfyrwyr ateb Tri chwestiwn.Bydd ar y papur Arholiad chwech cwestiwn, tri yn Adran A a thri yn Adran B. Rhaid i fyfyrwyr ateb o leiaf un cwestiwn o'r ddwy adran. NI chaniateir dod ag unrhyw destunau na nodiadau o unrhyw fath i mewn i'r ystafell arholiad.  67%
Asesiad Ailsefyll Ail-eistedd yr elfen nas pasiwyd  33%
Asesiad Semester Traethawd Asesedig 2500 gair  Mae'r traethawd i'w gyflwyno ar 26 Tachwedd 2009. Bydd y teitl yn cael ei gyhoeddi mewn da bryd cyn hynny.  33%

Canlyniadau Dysgu

Ar derfyn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:

1. Disgrifio, esbonio, dadansoddi a gwerthuso datblygiad y sefydliadau a'r gyfraith yng Nghymru wedi datganoli, gan eu perthynu i'w hachosion a'u heffeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol:

2. Disgrifio, esbonio, dadansoddi a gwerthuso datblygiad y gyfraith yng Nghymru yn ystod y cyfnodau hanesyddol a astudir.

3. Pan gaiff gwestiwn neu ddatganiad medr y myfyriwr wneud y canlynol:

  • dangos gwybodaeth gywir o ddatblygiad y meysydd cyfraith hynny sy berthnasol i werthuso'r gosodiad sydd yn y cwestiwn neu'r datganiad;
  • datgan y dadleuon perthnasol dros ac yn erbyn y cyfryw osodiad er mwyn ei werthuso mewn dull diduedd;
  • dyfynnu'n gywir yr awdurdodau cyfreithiol a'r farn ysgolheigaidd sydd yn cefnogi neu'n gwrthbrofi'r dadleuon hynny;
  • asesu a gwerthuso'n gywir gryfderau a gwendidau'r dadleuon hynny;
  • datgan casgliad rhesymegol am y dadleuon hynny, gan ddefnyddio, lle bo hynny'n briodol, gymhariaeth o'r agwedd gyfoes at y pynciau a godwyd ag agwedd cyfnodau neu gyfundrefnau cyfreithiol eraill y mae'r myfyriwr yn gyfarwydd a^ hwy a pherthynu'r agweddau hynny at yr amgylchiadau penodol - gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol - y datblygasant ynddynt
  • nodi'r ffynhonnell yn gywir a'r rheolau neu'r gweithdrefnau cyfreithiol y cyfeiria atynt;
  • datgan yn gywir y pynciau a roes fod i'r broblem y bwriadwyd y rheol neu'r weithdrefn i'w datrys;
  • asesu a gwerthuso i ba raddau y llwyddodd y rheol neu'r weithdrefn i ddatrys y materion hynny, gan roi dadleuon perthnasol dros ac yn erbyn mewn dull diduedd;
  • datgan yn gywir unrhyw broblemau a ddeilliodd yn sgil hynny o'r rheol neu'r weithdrefn;
  • datgan yn gywir unrhyw ddatblygiad perthnasol dilynol ar y rheol neu'r weithdrefn dan sylw;
  • cymharu a gwrthgyferbynnu agwedd y ffynhonnell at y pwnc gydag agwedd cyfnodau neu gyfundrefnau cyfreithiol eraill y mae'r myfyriwr yn gyfarwydd a^ hwy a pherthynu'r agweddau hynny at yr amgylchiadau penodol - gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol - y datblygasant ynddynt.

4. cyflwyno yn gywir ac yn gryno mewn rhyddiaith Gymraeg a/neu Saesneg eglur asesiadau a gwerthusiadau hanesyddol gadarn o'r gosodiadau, barn am werth a ffynonellau yn ymwneud a^ datblygu'r sefydliadau a'r meysydd a nodwyd yn y deilliannau pwnc-benodol.

5. Bydd pwyslais y modiwlau hyn, fel yn holl fodiwlau Lefel 3 yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, ar y canlynol:


2.1 y gallu i gael trwy ymchwil unigol, annibynnol, i ddeall a gwerthuso'n feirniadol yr egwyddorion a'r manylion sy'n ymwneud a^'r maes pwnc, a chyfleu'r ddealltwriaeth a'r gwerthuso hwnnw ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn rhyddiaith Gymraeg a/neu Saesneg glir a rhesymegol;
2.2 y gallu i gymhwyso'r wybodaeth a enillwyd ac a ddeallwyd i ddatrys sefyllfaoedd ffeithiol yn ddadansoddol ac yn feirniadol;
2.3 y gallu i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth ar ffurfiau print ac electronig i ennill gwybodaeth am y pwnc trwy ymchwil annibynnol ac unigol;
2.4 y gallu i ddefnyddio sgiliau TG i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig wedi ei airbrosesu;
2.5 y gallu i drafod gydag eraill egwyddorion a manylion y pwnc a'u cymhwyso mewn dull rhesymegol, beirniadol ac effeithlon;
2.6 y gallu i drefnu amser astudio personol i gyrraedd y nod uchod.

Disgrifiad cryno

Mae'r cwrs yn archwilio datblygiad y gyfraith yng Nghymru o'r cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniaid hyd y dydd heddiw. Ceir astudiaeth fanwl o Ddeddfau Llywodraeth Cymru a Deddf yr Iaith Gymraeg, ynghyd a^'r dull y gweithredir darpariaethau'r statudau hynny yng Nghymru wedi datganoli, a barn ysgolheigaidd am hynny. Byddwn hefyd yn ystyried datblygiad y gyfraith yn ymwneud a^ llywodraeth, y teulu, perchenogaeth eiddo, creu oblygiadau ac iawndal a chosb am gamwri, ynghyd a^ mecanweithiau deddfwriaethol a barnwrol i greu a gorfodi rheolau cyfreithiol, gan gynnwys gwaith y proffesiynau cyfraith. Trwy gydol y cwrs, bydd y datblygiadau cyfreithiol yn cael eu perthynu i newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a deallusol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r byd mawr.

Cynnwys

Semester Un

1. Trosolwg o'r Prif Ddatblygiadau Cyfreithiol yng Nghymru ers yr 1880au
2. Deddf yr Iaith Gymraeg
3. Deddf Llywodraeth Cymru 1998 - y Cynulliad a'r Llywodraeth
4. Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - Comisiwn Richard, y Papur Gwyn
5. Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - Trefniadaeth y Cynulliad, prif newidiadau, y dyfodol
6. Canllaw i waith ysgrifenedig Semester 1
7. Deddfwriaeth Gynradd ac Eilaidd yng Nghymru
8. Cymru yn y Deyrnas Unedig a Chymru yn Ewrop
9. Gweinyddu Cyfiawnder yng Nghymru
10. Sesiwn Adolygu

Semester Dau

11. Cyflwyniad i Ran Dau: y Gymru gyn-Rufeinig
12. Cyfnod y Rhufeiniaid a'r cyfnod o^l-Rufeinig
13. Hywel Dda a'r Cyfreithiau
14. Cyfraith Hywel Dda
15. Cyfraith Hywel Dda
16. Cyfraith Hywel Dda - Cyfnod y Normaniaid a'r Angywiaid
17. Wythnos Ddarllen
18. Y Goncwest Edwardaidd a'r Canol Oesoedd diweddar
19. Deddfau Uno'r Tuduriaid
20. Oes y Sesiwn Fawr a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6