Module Information

Cod y Modiwl
GW11120
Teitl y Modiwl
CYMRU YN EWROP
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
IP10120

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 Hours. (18 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2,000 o eiriau  30%
Arholiad Semester 2 Awr   [1 x arholiad 2 awr]  70%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol iddynt gwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:

- Gwerthuso datblygiadau cyfoes yng ngwleidyddiaeth Cymru a'u lleoli o fewn i fframwaith eangach gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop.
- Feddu gwybodaeth gyflawn o hanes sylfaenol, sefydliadau, ymarfer gwleidyddiaeth a ffurfio polisiau yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd, a'r cyd-berthnasau rhwng y lefelau hyn.
- Arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o brif faterion damcaniaethol a chysyniadol ar wahanol lefelau llywodraeth a'r rhyngweithiad rhwng y lefelau hyn.
- gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i fyfyrwyr i hanes, sefydliadau allweddol ac ymarfer cyfoes gwleidyddiaeth yng Nghymru, Prydain a'r Undeb Ewropeaidd.

Nod

Prif amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i hanes, sefydliadau a pholisi ac ymarfer gwleidyddiaetrh yng Nghymru a'u lleoli yng nghyd-destun y Wladwriaeth Brydeinig a Gwleidyddiaeth Ewropeaidd. Felly, mae'r modiwl hefyd yn darparu cyflwyniad cyffredinol I'r drefn wleidyddol yn y wladwriaeth Brydeining a'r sefydliadau Ewropeaidd. Y modiwl hwn yw modiwl craidd rhan un ar gyfer y cynlluniau gradd newydd mewn Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru. Felly, mae'n cyfrannu at bortffolio'r adran o fodiwlau ar Wleidyddiaeth Gymreig, tra'n cynnal yn ogystal yr ymrwymiad i ddarparu modiwlau israddedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynnwys

Bydd rhan gyntaf y modiwl yn gosod cyd-destun gwleidyddiaeth yng Nghymru drwy ystyried cyfundrefn wleidyddol y Deyrnas Gyfunol a'r camau at ddatganoli. Yna, bydd yn canolbwyntio ar natur datganoli i Gymru, effaith creu'r Cynulliad Cenedlaethol ar wleidyddiaeth a chreu polisiau yng Nghymru, ac ar y berthynas â'r wladwriaeth Brydeinig. Yna bydd ail ran y modiwl yn canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd. Wedi cyflwyno hanes, strwythurau sefydliadol yr Undeb Ewropeaidd, bydd y modiwl yn bwrw golwg ar rai o'r prif faterion syniadaethol ac ymarfer gwleidyddiaeth ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Yn olaf, bydd y modiwl yn lleoli rôl Cymru yn Ewrop ac yna'n gwerthuso yn feirniadol rôl Cymru yng ngwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, a'r berthynas rhwng Cymru, Prydain ac Ewrop.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4