Module Information

Cod y Modiwl
GW35620
Teitl y Modiwl
CUDD-WYBODAETH A DIOGELWCH RHYNGWLADOL
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 15 darlith awr
Seminarau / Tiwtorialau 1 seminar awr a 5 seminar 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   60%
Asesiad Ailsefyll Bydd cyfleoedd i ailsefyll y modiwl hwn yn ystod y cyfnod arholiadau atodol. Cod ailsefyll F: Bydd y myfyriwr yn ailsefyll y modiwl drwy arholiad yn unig, a 40 fydd y marc uchaf y gellir ei gael. Cod ailsefyll H: Bydd y myfyriwr yn cyflwyno elfennau coll o'r gwaith cwrs a/neu yn ailsefyll arholiadau yn y cyfnod arholiadau atodol yn lle arholiad a gollwyd/fethwyd, a hynny am y marc llawn. Gofynnir i fyfyrwyr sy'n ailsefyll elfennau o waith cwrs a fethwyd i ddewis teitl gwahanol ar gyfer y traethawd/aseiniad, ac ni ddylid cyflwyno fersiynau wedi'u hailysgrifennu o'r traethawd/aseiniad gwreiddiol.  

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Dadansoddi rol cudd-wybodaeth mewn agweddau allweddol o lunio polisiau diogelwch cenedlaethol ers 1900
2. Gwerthuso oblygiadau diwedd y Rhyfel Oer i gudd-wybodaeth a gwasanaethau cudd-wybodaeth
3 Gwerthuso rol cudd-wybodaeth yn hanes milwrol y ddau ryfel byd
4. Gwerthuso effeithiolrwydd a moesoldeb 'gweithrediadau dirgel' mewn gwleidyddiaeth ryngwladol
5. Cael mwy o ddealltwriaeth o natur brad
6. Asesu rol ysbio yn y Rhyfel Oer
7. Arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng cudd-wybodaeth a gwrth gudd-wybodaeth
8. Gwerthuso oblygiadau diwedd y Rhyfel Oer i gudd-wybodaeth a gwasanaethau cudd-wybodaeth.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn fodiwl craidd Rhan Dau ar gyfer y Cynllun Gradd Astudiaethau Cudd-wybodaeth.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o'r cysyniadau a'r pynciau sy'n ganolog i astudiaethau academaidd o gudd-wybodaeth. Bydd hefyd yn rhoi'r cefndir hanesyddol i esblygiad cudd-wybodaeth fel ffactor o fewn cysylltiadau rhyngwladol.

Cynnwys

Darlithoedd (awr)
1. Cyflwyniad i gudd-wybodaeth a diogelwch cenedlaethol. Beth yw cudd-wybodaeth? Cysyniadau a phynciau (cudd-wybodaeth tramor; cudd-wybodaeth amddiffyn; cudd-wybodaeth diogelwch; gweithredu dirgel)
2. Cudd-wybodaeth a'r Rhyfel Byd Cyntaf
3. Cudd-wybodaeth a 'Red Scares' yr 1920egau
4. Cudd-wybodaeth arwyddion cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd
5. Cudd-wybodaeth a Rheolaeth y Wladwriaeth yn yr Almaen Natsiaidd a Rwsia Sofietaidd
6. Cudd-wybodaeth ac ymosodiad sydyn: achosion Barbarossa a Pearl Harbour
7. Ysbio Sofietaidd yn erbyn y Gorllewin 1917-91
8. Gweithrediadau cudd-wybodaeth y Gorllewin yn erbyn yr Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer: Ysbio a Masnach
9. Rol cudd-wybodaeth 'dechnegol' ym mrwydrau'r Rhyfel Oer
10. Gweithredu dirgel
11. Gwrthysbio, brad a hela'r gwaddod
12. Achosion o fethiant cudd-wybodaeth
13. Cudd-wybodaeth ar ddiwedd y Rhyfel Oer
14. Medi'r 11eg ymlaen
15. Gorolwg

Seminarau
1. Cysyniadau a phynciau (awr)
2. Cudd-wybodaeth a Diogelwch y Wladwriaeth (2 awr)
3. Cudd-wybodaeth a'r Ail Ryfel byd (2 awr)
4. Gweithredu dirgel (2 awr)
5. Cudd-wybodaeth wedi'r Rhyfel Oer (2 awr)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a siarad a bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Trefnir seminarau mewn grwpiau bychain lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif ddull y dysgu a bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Anogir cyd-fyfyrwyr i holi'r cyflwynydd a beirniadu'r agwedd neu awgrymu sut i ddatblygu'r pwnc; caiff pob un yn ei dro gyfle i drafod cyfraniadau a syniadau'r lleill.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r trafodaethau mewn seminarau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi cyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Gwaith Tim Bydd seminarau'n cynnwys grwp bychan yn trafod a bydd disgwyl i fyfyrwyr drafod fel grwp y materion allweddol sy'n berthnasol i bwnc y seminar. Mae trafodaethau a dadleuon yn y dosbarth yn rhan hanfodol o brofiad dysgu'r modiwl. Mae'r elfen o chwarae rol yn rhai o'r seminarau hefyd yn gofyn i fyfyrwyr gydweithio fel tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd a phynciau eu cyflwyniadau. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau.
Rhifedd Ddim yn berthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6