Module Information

Cod y Modiwl
GW38020
Teitl y Modiwl
MARCSIAETH AC OL-FODERNIAETH
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 Awr. (11 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 11 Awr. (11 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd o 3000 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   60%
Arholiad Ailsefyll Bydd cyfleoedd i ailsefyll y modiwl hwn yn ystod y cyfnod arholiadau atodol. Cod ailsefyll F: Bydd y myfyriwr yn ailsefyll y modiwl drwy arholiad yn unig, a 40 fydd y marc uchaf y gellir ei gael. Cod ailsefyll H: Bydd y myfyriwr yn cyflwyno elfennau coll o'r gwaith cwrs a/neu yn ailsefyll arholiadau yn y cyfnod arholiadau atodol yn lle arholiad a gollwyd/fethwyd, a hynny am y marc llawn. Gofynnir i fyfyrwyr sy'n ailsefyll elfennau o waith cwrs a fethwyd i ddewis teitl gwahanol ar gyfer y traethawd/aseiniad, ac ni ddylid cyflwyno fersiynau wedi'u hailysgrifennu o'r traethawd/aseiniad gwreiddiol.  

Canlyniadau Dysgu

Amcanion y modiwl hwn yw:
- meithrin mewn myfyrwyr ddealltwriaeth o gryfderau a gwendidau dadleuon meddylwyr gwleidyddol a chymdeithasol cyfoes allweddol
- annog myfyrwyr i gloriannu'n feirniadol eu safbwyntiau eu hunain am wleidyddiaeth yng ngoleuni syniadau'r damcaniaethwyr pwysig hyn
- datblygu dealltwriaeth o brif agweddau Marcsiaeth fel athrawiaeth economaidd a gwleidyddol.

Disgrifiad cryno

Parhad ac astudiaeth o'r materion a gyflwynwyd yn y cwrs Damcaniaeth Wleidyddol ac Athroniaeth Wleidyddol Rhan 1 (Blwyddyn 2 a 3). Mae'r modiwl yn gwerthuso prif agweddau adroddiad Marcsiaeth o gwymp cyfalafiaeth ac yn gofyn pa mor berthnasol mae'r model i'n sefyllfa bresennol.

Nod

Amcanion y modiwl hwn yw astudio ymhellach brif destunau syniadaeth wleidyddol fodern trwy ystyried yn fanwl brif weithiau cymdeithasol a gwleidyddol Marx, Hegel, Foucault a Lyotard, gan ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o gymhlethdodau a phroblemau moderniaeth. Bydd y meddylwyr a astudir yn amrywio o dro i dro. Yn 2009-10 edrychir yn fanwl ar wreiddiau a goblygiadau beirniadaeth Marx o gyfalafiaeth a'r ymateb ol-fodernaidd i'w ddamcaniaethau.

Cynnwys

Bydd y cwrs yn trafod y dadansoddiad o'r economi, cymdeithas sifil a'r wladwriaeth fel y'i ceir yn namcaniaethau gwleidyddol Hegel a Marx. Trafodir eu hathroniaethau gwleidyddol am y cysylltiad rhwng moderniaeth a chyfalafiaeth, cymdeithas a chynnydd, a gwerthusir yn feirniadol ddealltwriaeth Marx o'r berthynas rhwng moderniaeth a chyfalafiaeth. Yn sesiwn 2009-10 bydd y modiwl yn cyferbynnu athroniaethau gwleidyddol Hegel a Marx gydag athroniaethau'r ol-fodernwyr M. Foucault a Jean-Francois Lyotard. Cyferbynnir damcaniaeth Foucault o lywodraetholdeb gyda damcaniaethau Marx a Hegel o ddulliau disgyblu cymdeithas fodern.

Sgiliau trosglwyddadwy

Ceir cyfle yn y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau llafar, deallusol a chyfathrebu. Yn y darlithoedd rhoddir pwyslais ar ddeall, dilyn y trywydd cywir a chrynhoi syniadau. Yn y seminarau rhoddir pwyslais yn arbennig ar ddatblygu dadleuon clir a rhesymol. Ceir y cyfle yn y seminarau hefyd i ddangos annibyniaeth barn a phwyso a mesur aeddfed. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymchwilio ar eu liwt eu hunain a datblygu sgiliau cyflwyno gan ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth. Bydd yr arholiad yn profi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dadansoddi o dan gyfyngiadau amser.

10 Credyd ECTS

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
H Williams/D Sullivan/G Matthews Francis Fukuyama and The End of History Chwilio Primo Immanuel Kant (1999) What is Enlightenment in Kant's Practical Philosophy Cambridge University Press Chwilio Primo Selected Works in One Volume - Karl Marx and Friedrich Engels - Lawrence and Wishart Karl Marx 1818-1883. Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6