Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 1 seminar pob pythefnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG | 60% |
Asesiad Semester | 1 traethawd o 2,500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Meddiannu ac adolygu'n feirniadol y wybodaeth hanesyddol sydd yn trafod y traddodiad Ewropeaidd o fordeithiau darganfod, gan canolbwyntio yn arbennig ar ddarganfyddiad a goresgyniad De America, Canolbarth America, a Mexico, o fewn cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ehangach.
2. Amgyffred y gwahanol ddadleuon a dadansoddiadau hanesyddol o'r testunau dan sylw, o'r Oesoedd Canol hyd heddiw.
3. Meddiannu yr effaith parhaol o ymsefydliad Ewropeaidd yn Ne America, Canolbarth America a Mexico.
4. Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol gan gynnwys tystiolaeth lenyddol.
5. Amgyffred y dadleuon hanesyddol sy'n ymwneud ag effaith ymsefydlu Ewropeaidd ar gymdeithas brodorol America.
6. Mynegi dealltwriaeth yn gynyddol hyderus, a thrafod materion perthnasol yn ysgrifenedig o fewn cyd-destun academaidd.
7. Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp (heb ei asesu'n ffurfiol).
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddarganfod a goresgyn De America a Chanolbarth America, a Mexico, ac yn trafod gyrfaoedd unigolion fel Columbus a Cortes. Bydd felly yn cyflwyno hanes America cyn y goresgyniad tra'r canolbwyntio'r bennaf ar yr Asteciaid, y Maias a'r Incas, ac yn asesu dylanwad y cysylltiadau rhwng y concwistadoriaid a'r sawl a oresgynwyd. Bydd canlyniadau'r asesiad hwn yn cael eu hystyried yn eu cyd-destun ehangach o gysylltiadau rhwng pobl a diwylliannau.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r traddodiad Ewropeaidd o fordeithiau darganfod yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr a'r cyfnod modern cynnar, gan ganolbwyntio ar oresgyniad yr Amerig yn ystod y bymthegfed ganrif hyd yr ail ganrif ar bymtheg. Bydd y modiwl felly yn cwmpasu maes dysgu yn yr adran sydd heb ei gynnig ar hyn o bryd, ac sydd felly yn ehangu'r dewis o gyrsiau, yn ogystal a chyflwyno myfyrwyr i hanes yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar. Bydd y modiwl hefyd yn edrych tu hwnt i gyffiniau'r Byd Cristnogol gan drafod materion sy'n parhau yn berthnasol o hyd, megis ymsefydlu croesddiwylliannol.
Cynnwys
2. Cyflwyniad II: Ewrop yn ystod y bymthegfed ganrif
3. Columbus I: Y fordaith cyntaf
4. Columbus II: Mordeithiau dilynol
5. Yr ymateb yn Ewrop
6. Yr Asteciaid
7. Y Maias
8. Goresgyn Mexico I
9. Goresgyn Mexico II
10. Troedigaethau
11. Caethiwed
12. Yr Incas a'r hynafiaid
13. Goresgyn Peru I: Cajamarca
14. Goresgyn Peru II: Cuzco
15. Goresgyn Peru III: Wedi'r goresgyn
16. Defnyddio adnoddau'r tir: Bolivia - Potosi
17. Brasil wedi ei gwladychu
18. Casgliadau: goresgyniadau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando?n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg gr?p; cyfrannu at osod targedau gr?p; cyfrannu?n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau gr?p; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau gr?p; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau gr?p a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth oddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realisitg; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; aolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun g |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth fanwl o nifer o ffynonellau canoloesol, gan gynnwys croniclau y Maias ac adroddiadau?r goresgyniadau gan Sbaenwyr (gyda chyfieithiadau); datblygu?r gallu o ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4