Module Information

Cod y Modiwl
TC10200
Teitl y Modiwl
ASTUDIO FFILM A'R CYFRYNGAU
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau Seminar 1 x 1 awr yr wythnos
Darlithoedd Darlith/Sesiwn wylio 1 x 3 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  60%
Asesiad Semester Arholiad 2 awr  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2,500 (dewis o deitlau newydd)  60%
Asesiad Ailsefyll Arholiad 2 awr  40%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth o brif ddamcaniaethau ffilm a'r cyfryngau
2. Dadansoddi testunau cyfryngol gweledol yn feirniadol
3. Trafod testunau cyfryngol gweledol yn eu cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol ehangach
4. Ysgrifennu traethodau academaidd sy'n tystio i feddiant sgiliau beirniadaethol a dehongliadol

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau ac yn rhoi iddynt y seiliau academaidd sydd yn hanfodol ar gyfer astudio ffilm a chyfryngau ar lefel Prifysgol. Mae'n un o bedwar modiwl systematig a fydd yn gosod sylfaen gadarn i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir myfyrwyr i sylfaen astudiaeth academaidd o ffilm a chyfryngau gan gynnwys darlledu a chyfryngau digidol. Fe fydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i ddatblygiad ffilm a'r cyfryngau fel ffenomenonau diwylliannol a chymdeithasol. Cynllunir y modiwl er mwyn cynnig cyflwyniad clira thrylwyr i brif feysydd astudiaeth academaidd o ffilm a'r cyfryngau. Fe fydd y modiwl hwn yn trafod cysyniadau amrywiol trwy gynnig astudiaethau a gor-olwg hanesyddol o fewn cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol. Ymhlith y pynciau a astudir bydd y cysyniad o sinema genedlaethol, ffilm fel celfyddyd, ffilm fel naratif, hanes darlledu, panig moesol a genre.

Cynnwys

Darlith 1: Dehongli'r Gweledol
Darlith 2: Ffilmiau Naratif Hollywood
Darlith 3: Mudiadau Ffilm Ewropeaidd
Darlith 4: Theoriau Bazin ac Eisenstein
Darlith 5: Sinema Genedlaethol
Darlith 6: Prif ddamcaniaethau'r Cyfryngau
Darlith 7: Gwreiddiau Hanes a Cyfryngau
Darlith 8: Genre ar Waith: Newyddion, Opera Sebon, Rhaglenni Plant
Darlith 9: Panig Moesol: Achos Astudio
Darlith 10: Y Gynulleidfa Ddigidol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar ar lafar mewn modd adeiladol a synhwyrol sy'n dangos dealltwriaeth o'r pwnc penodol dan sylw, meithrin y grefft o gyfathrebu barn a safbwynt yn ysgrifenedig mewn modd sy'n hygyrch i ddarllenwyr eraill.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol ym maes cyfathrebu effeithlon ar lafar ac yn ysgrifenedig. Meithrin hyder yn eu gallu i drin a thrafod syniadau a theoriau sylfaenol a.u gallu i ddarllen a dehongli gwahanol gyfryngau celfyddydol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. Bydd disgwyl iddynt ddatblygu barn annibynol a derbyn, deall a pharchu barn unigolion a grwpiau eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol ym maes cyfathrebu effeithlon ar lafar ac yn ysgrifenedig. Meithrin hyder yn eu gallu i drin a thrafod syniadau a theoriau sylfaenol a'u gallu i ddarllen a dehongli gwahanol gyfryngau celfyddydol.
Rhifedd N/A
Sgiliau pwnc penodol Meithrin ac arddangos y gallu i ddadansoddi, deall a chyflwyno dadleuon academaidd.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. Disgwylir iddynt ddarparu tystiolaeth briodol o'r cyfryw waith ymchwil trwy gyfrwng llyfryddiaeth a throednodiadau lle bo hynny'n briodol.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4