Module Information

Cod y Modiwl
FTM1910
Teitl y Modiwl
CYNHYRCHU RADIO
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Cyd-Ofynion
Pob modiwl craidd arall
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Paratoi dwy sgript radio fer gan ddefnyddio deunydd ymchwil wedii ddarparu gan y tiwtor. Ar gyfer y darn cyntaf, bydd angen ysgrifennu am gyfansoddwr penodol ar gyfer rhaglen o gerddoriaeth glasurol wedii recordio ai darlledu ar orsaf radio fasnachol. Ni ddylai fod yn hwy na 50. Anelir yr ail sgript at strand dyddiol byw ar un o rwydweithiaur BBC. Yr hyd fydd 30. Dylid recordior ddwy sgript ar CD, gyda chopi or sgript ar A4  30%
Asesiad Semester Dangos sgiliau unigol recordio sain a golygu digidol trwy gynhyrchu pecyn syn cynnwys cyfweliadau ar leoliad, sgriptio a lleisio, golygu gydag effeithiau sain neu gerddoriaeth, a darn llais wediu recordio mewn stiwdio neu weithdy sain. Ni ddylair pecyn radio fod yn hwy na 3. Caiff y myfyriwr ddewis yr orsaf radio ar amser darlledu tebygol. Dylid cyflwynor pecyn ar CD.  50%
Asesiad Semester Dadansoddiad beirniadol or pecyn radio, yn cyfiawnhaur strwythur, yr iaith, yr arddull ar lleisio. (2000 o eiriau)  20%
Asesiad Ailsefyll Bydd unrhyw aseiniadau ail-sefyll yn dilyn yr un strwythur. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Defnyddio offer cynhyrchu radio at safon ddarlledu ddisgwyliedig.
2. Defnyddio technegau creadigol y diwydiant radio i ddatblygu eu cynhyrchiadau eu hunain yn effeithlon.
3. Datblygu'r gallu i werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyd-fyfyrwyr.

Nod

I ganiatau i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau technegol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu radio. Adeiladir ar hyn yn ystod yr ail a'r trydydd semester.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr gyrraedd lefel addas o arbenigedd technegol fel eu bod yn gallu cwrdd a'r holl elfennau cynhyrchu craidd sydd eu hangen ar gyfer y cynllun gradd. Bydd hefyd yn cyflwyno i fyfyrwyr y sgiliau ysgrifennu sy'n angenrheidol ar gyfer mynegiant clir ar y radio.

Cynnwys

Pump sesiwn ymarferol yn cynnwys ystod o ddarlithoedd, gwersi dangos a sesiynau ymarferol, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
1) Dysgu recordio ar leoliad
mewn egwyddor ac yn ymarferol Awgrym o Gynnwys Sesiwn Y Marantz PMD 670 yw'r prif fath o beiriant recordio digidol sy'n cael ei drafod a'i ddysgu ar y modiwl hwn. Mantais y peiriant hwn yw ei fod yn hawdd dod o hyd i draciau sain, eu sganio a'u hadnabod. Mae'n beiriant recordio disg caled sy'n golygu bod modd trosglwyddo deunydd yn syth i gyfrifiadur i'w olygu gyda'r meddalwedd priodol. Mae dewis y math iawn o feicroffon a'i ddefnyddio'n gywir yn hollol hanfodol. Bydd egwyddorion hyn yn cael eu dysgu ynghyd a'r ochr ymarferol, e.e. wrth recordio ar stryd brysur, rhaid cadw'r meicroffon mor agos ag sy'n bosib at y person sy'n cael ei gyfweld er mwyn sicrhau bod lefel ei llais yn uwch na swn y traffig. Rhaid bod yn ofalus hefyd wrth recordio mewn ystafell fawr gyda nenfwd uchel a lloriau pren. Os oes llenni yn yr ystafell neu unrhywbeth arall fyddai'n lleddfu'r atsain, dylid recordio yn y rhan hon o'r ystafell. Fel arfer, mae gan offer sain meter i ddangos a yw'r sain yn cael ei recordio oddi mewn i gyfyngiadau penodol. Os yw'r lefel yn rhy isel am gyfnod, fe fydd y trosglwyddydd yn chwilio am sain lle gellir codi'r lefel yn artiffisial. Os yw'r lefel yn rhy uchel, fe fydd distortion ar y sain ac fe fydd yn anodd ei ddeall. Cynorthwyo yn unig y mae'r meter - y clustiau yw'r meter pwysicaf. Tra'n recordio ar leoliad, mae angen monitro'r sain trwy glustffonau. P'un ai'n gwisgo clustffonau ai peidio, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r sain o gwmpas, yn enwedig unrhyw synnau allanol a allai darfu ar fwynhad y gwrandawr neu arwain at drafferthion wrth olygu. Rhaid i'r clustiau wrando'n ofalus am synnau cefndir di-angen ac os oes angen, ail-ddechrau cyfweliad neu ofyn cwestiwn eto.
2) Dysgu egwyddorion golygu a'u rhoi ar waith yn ymarferol
Awgrym o Gynnwys Sesiwn
Prif ddiben golygu yw cael gwared ar ddeunydd di-angen, boed yn cwtogi darn 8 munud i 4 munud, yn cael gwared ar saib neu atal-ddweud, neu yn newid trefn darn. Mae gwrando ar y deunydd cyn ei olygu a gwneud nodiadau yn rhan annatod o'r broses. Ni ddylid newid ystyr yr hyn sy'n cael ei ddweud ar unryw gyfrif nac ychwaith ddrysu'r gwrandawr trwy gynnwys cyfeiriadau at rannau sydd wedi'u torri o'r darn terfynol. Ni ddylai'r gwrandawr fod yn ymwybodol o unryw olygu. Mae dilyn patrwm llefaru naturiol yn allweddol ac mae hynny'n golygu bod na le i dawelwch, ochenaid neu anadlu. Mae Sadie, Protools ac Adobe Audition i gyd yn rhaglenni golygu digidol aml-sianel. Mae meddalwedd golygu rhaglenni yn dangos y sain a recordiwyd fel llinell ar y sgrin - y wave form - sy'n dangos sut mae lefel y recordiad yn codi ac yn gostwng. Un o'r camgymeriadau mwyaf cyffredin yw'r tueddiad i ddibynnu ar y llygaid yn lle'r glust. Sain yw hanfod radio ac nid yw'r ffaith bod na fwlch yn y wave form o reidrwydd yn golygu y dylid ei dorri. Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried sut i roi pecyn radio effeithiol at ei gilydd.
3) `Sut i ddefnyddio'r llais' a 'Darllen sgript ysgrifenedig'
Awgrym o Gynnwys Sesiwn
Bydd arbrofi gydag arddull a thempo personol o flaen y meicroffon yn rhan o'r modiwl hwn. Anogir arbrofi gyda'r llais er mwyn newid y goslef, y cyflymdra, y tempo a'r don. . Gall gwaelodi'r llais ychwanegu awdurdod (yn enwedig i fenywod). Y peth pwysicaf yw peidio siarad gyda'r meicroffon ond dychmygu siarad gyda ffrind sy'n eistedd o fewn rhyw 6 troedfedd. Ni ddylai'r gwrandawr fod yn ymwybodol bod cyflwynydd yn darllen sgript. Mae'r gallu i ddarllen mewn modd sgwrslyd heb swn papur yn y cefndir yn allweddol. Fe ddylai'r mynegiant fod yn ystyrlon, heb fod yn rhy araf nac yn rhy gyflym. Ar gyfartaledd, mae pobl yn siarad 3 gair yr eiliad ond wrth ddarlledu y nod yw siarad yn ddigon cyflym i gynnal diddordeb ond yn ddigon araf i sicrhau bod y gwrandawr yn gallu dilyn. Mae angen defnyddio'r llais yn effeithiol a bod yn awdurdodol heb weiddi. W

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu trwy gysylltu gyda chyfranwyr a chyfathrebu gyda'r gwrandawr. Caiff sgiliau ysgrifennu - ac ysgrifennu ar gyfer y glust - eu datblygu a'u hasesu hefyd.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn dysgu syt i ddefnyddio offer technegol ac fe ddaw llwyddiant trwy ddangos eu bod yn gallu datrys problemau yn annibynnol ar leoliad.
Gwaith Tim Bydd angen cydlynu a chydweithio gydag eraill er mwyn cwblhau'r dasg.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae gwella'u dysgu a'u perfformiad yn elfen graidd o'r modiwl hwn. Caiff ei werthuso yn ystod y modiwl a'i asesu yn yr aseiniad ar ddiwedd y semester
Rhifedd Bydd elfen ymarferol y modiwl yn dangos a oes gan fyfyriwr fwy o ddawn ar gyfer ochr dechnegol neu ochr artistig cynhyrchu radio. Bydd elfen ymarferol y modiwl yn dangos a oes gan fyfyriwr fwy o ddawn ar gyfer ochr dechnegol neu ochr artistig cynhyrchu radio.
Technoleg Gwybodaeth Mae hyn yn rhan annatod o'r holl sgiliau technegol a gynigir.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Alled, R /Miller, N (1996) The Post Production Age: New Technologies, New Communities University of Luton Press Chwilio Primo Aspinall, Richard Radio Programme Production: A Manual for Training Chwilio Primo Crisell, A (2002) Understanding Radio 2nd Edition Routledge Chwilio Primo Fleming, Carole (2002) The Radio Handbook Routledge Chwilio Primo McLeish, Robert (2005) The Techniques of Radio production, a Manual for Broadcasters 5th Edition Focal Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7