Module Information

Cod y Modiwl
FTM2460
Teitl y Modiwl
CYNHYRCHIAD HIR
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)
Rhagofynion
Llwyddiant yn rhan 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1. Cyflwyno cynnig ar bapur ac ar lafar ar gyfer rhaglen or genre ffeithiol. Dylid anelur rhaglen naill ai at BBC Radio Cymru neu Radio Wales. Yn ogystal a chyflwyniad ysgrifenedig, bydd disgwyl hefyd ichi gyflwynor syniad ar lafar ich tiwtor. Ar ol gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol, fe fyddwch yn cyflwyno eich syniad gerbron cynrychiolydd or diwydiant ac fe gaiff eich perfformiad ei asesu.  10%
Asesiad Semester 2. Yn seiliedig ar Aseiniad 1, cynhyrchur rhaglen unigol, hyd at 30 o hyd (ac oddi mewn i gyllideb benodedig). Dylid cyflwynor rhaglen derfynol ar CD.  60%
Asesiad Semester 3. Cyflwyno dogfennau atodol ar ffurf portffolio cynhyrchu syn cynnwys y cynnig gwreiddiol, dadansoddiad or dewis o gyflwynydd, manylion am newidiadau yn ystod y broses gynhyrchu ar rhesymau drostynt, y gyllideb, yr amserlen cynhyrchu, y nodiadau ymchwil i gyd ar ffynonellau gwahanol gan gynnwys rhifau cyswllt a chyfeiriadau ebost, manyion pob cyfranwr, brasluniau o strwythur y rhaglen wrth iddi ddatblygu, strwythur y rhaglen derfynol, rhestr a hyd yr effeithiau sain ar gerddoriaeth gan gynnwys hawlfraint cerddoriaeth nad syn dod o dan gytundeb cyffredinol y BBC, pob caniatad arall a gafwyd, tystiolaeth bod y rhaglen yn cadw at ganllawiaur BBC, ffurflen asesu iechyd a diogelwch, trefn derfynol y rhaglen, manylion a chynnwys y cyfarfodydd gydar cyflwynydd ar cyfranwr ac unrhyw gyngor golygyddol a roddwyn, nodiadau recordio a golygu, yr holl waith papur sydd ynglwm a throsglwyddor rhaglen derfynol ir darlledwr.  20%
Asesiad Semester 4. Gwerthusiad Beirniadol : 2000 o eiriau.  10%
Asesiad Ailsefyll Lle bo angen, bydd aseiniad ail-eistedd yn dilyn yr un strwythur ond fe fydd y testun neur strwythur creadigol yn newid. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Cymhathu eu gwybodaeth golygyddol oddi mewn i gyd-destun ymarferol, proffesiynol, penodol gan ddangos eu gallu i gadw at ofynion darlledwr penodol.
2. Weithio'n annibynnol wrth gynllunio, gweithredu a chynhyrchu darn sylweddol o radio ffeithiol sy'n cwrdd a safonau proffesiynol.
3. Dangos bod eu dealltwriaeth o fformatiau radio, pwysigrwydd stori a chynulleidfaodd wedi aeddfedu i'r graddau eu bod yn gallu cynhyrchu rhaglen hir wedi'i thargedu'n briodol, a'u bod yn gallu gwerthuso eu gwaith eu hunain.

Disgrifiad cryno

Bydd myfyrwyr yn datblygu eu syniad trwy bob cam 'r broses gynhyrchu o dan oruchwyliaeth staff tan gytundeb, gan ddiweddu gyda rhaglen radio hyd at 3' o hyd.

Cynnwys

Ni fydd unrhyw ddarlithiau yn y modiwl hwn. Yn hytrach, fe fydd myfyrwyr yn derbyn goruchwyliaeth unigol yn ystod y cyfnodau cyn-cynhyrchu, cynhyrchu ac ol-gynhyrchu

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu yn rhan hanfodol o'r gwaith sydd ynglwm a chynhyrchiad hir.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Erbyn hyn, fe ddylid fod wedi mynd yn eitha pell ar hyd y llwybr cynllunio gyrfa.
Datrys Problemau Anaml iawn y caiff rhaglen radio ei chynhyrchu heb wynebu problemau golygyddol ac ymarferol. Fe fydd yn rhaid ir rhain gael eu datrys cyn cynhyrchu a darlledu'r rhaglen.
Gwaith Tim Ar y cyfan, fe fydd y myfyrwyr yn gweithio fel unigolion ar y cynhyrchiad hir hwn ond fe fydd angen iddynt ddangos dawn wrth ddelio gydag eraill yn ystod y broses gynhyrchu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain yn hanfodol ar gyfer y cynhyrchiad hir yma.
Rhifedd Caiff medrau cyllidebu eu datblygu.
Sgiliau ymchwil Bydd medrau ymchwil yn cael eu gloywi wrth gynhyrchu rhaglen radio 30 munud o hyd.
Technoleg Gwybodaeth Mae hwn yn amlach na heb yn rhan annatod o'r broses gynhyrchu.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Beaman, Jim (2006) Programme Making for Radio Routledge Chwilio Primo McLeish, Robert (2005) Radio Production Focal Press Chwilio Primo Stewart, Peter (2006) Essential Radio Skills: How To Produce and Present Radio Shows¿ A & C Black Publishers Ltd Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7