Module Information

Cod y Modiwl
GW39620
Teitl y Modiwl
GWRAGEDD YN Y TRYDYDD BYD
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 darlith awr
Seminarau / Tiwtorialau 9 seminar awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Gall myfyrwyr gael y cyfle i ail-sefyll y modiwl hwn os bydd y Gyfadran yn cytuno. Am fwy o wybodaeth, cysyllter a Gweinyddydd Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad 2 awr (wedi ei weld o flaen llaw)  50%
Asesiad Semester Adroddiad Archwiliad Rhywedd (2,000 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Cymhwyso damcaniaethau ffeminyddol am gyflwr gwragedd i achosion yn y trydydd byd.
2. Adnabod y gwahanol ffyrdd y mae gwragedd y trydydd byd yn cyfranogi yn yr economi, gwleidyddiaeth a rhyfel.
3 Dadansoddi sut mae rhywedd yn cyfrannu tuag at gysylltiadau grym byd-eang
4. Asesu'n feirniadol roliau rhywedd a stereoteipiau ym mherthynas gwragedd ac Islam a gwragedd a rhywioldeb.
5. Tynnu casgliadau annibynnol ynglyn a'r berthynas rhwng tlodi, gwaharddiad a rhywedd.
6. Asesu'n feirniadol ddefnyddioldeb categoriau megis 'gwragedd' a 'thrydydd byd'.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ychwanegu at ddarpariaeth yr Adran ym maes Gwleidyddiaeth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'r Trydydd Byd. Bydd yn cyflwyno myfyrwyr i agweddau allweddol o fywydau gwragedd yn y Trydydd Byd - yr economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a bywyd personol/cyhoeddus. Tra'n edrych drwy'r amser ar 'wragedd' a'r 'Trydydd Byd' bydd y modiwl yr un pryd yn edrych ar brofiadau sector o'r gymdeithas fyd-eang sy'n cael ei anwybyddu'n aml mewn adroddiadau neu waith ymchwil.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn dechrau trwy gyflwyno gwahanol syniadau am wragedd yn y trydydd byd, ynghyd a ffyrdd damcaniaethol o'u hastudio. Bydd wedyn yn edrych ar wragedd ac economeg, gwragedd a gwleidyddiaeth/dinasyddiaeth, gwragedd a rhyfel, ynghyd a phwyslais ar wragedd a diwylliant, gan edrych ar Islam a rhywioldeb.

Cynnwys

1. Cyflwyniad - pwy yw'r 'gwragedd' yn y 'trydydd byd'?
Seminar: astudiaethau achos o ambell wlad a phersonoliaethau
2. Ffeminyddiaeth a damcaniaeth ol-drefedigaethol
Seminar: damcaniaethu am fywydau gwragedd
3. Mudiadau ffeminyddol a gweithredwyr rhyngwladol
Seminar: tensiynau yn y chwaeroliaeth fyd-eang
4. Gwragedd, economeg a datblygiad
Seminar: a yw gwragedd yn elwa o ddatblygiad?
5. Gwragedd, gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth
Seminar: a yw gwragedd yn trin gwleidyddiaeth yn wahanol?
6. Gwragedd, rhyfel ac adeiladu heddwch
Seminar: a yw gwragedd wrth reddf yn heddychlon?
7. Gwragedd, diwylliant ac Islam
Seminar: a yw diwylliant 'cryf' yn gormesu neu'n rhyddhau?
8. Gwragedd, rhywioldeb a thwristiaeth rhyw
Seminar: gwragedd fel gwrthrychau rhyw ac asiantaethau rhyw
9. Casgliad a bord gron
Seminar: a yw'r dyfodol yn fenywaidd?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol (er mai dim ond y gwaith ysgrifenedig a gaiff ei asesu). Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yn unig yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r rheidrwydd i ysgrifennu adroddiad archwiliad rhywedd (yn hytrach na thraethawd) yn adlewyrchu'n well y gweithgareddau ysgrifennu a ddisgwylir yn y gweithle. Yn ogystal, mae gweld y papur arholiad o flaen llaw yn gofyn i fyfyrwyr baratoi gwaith mewn amser cymharol fyr yn hytrach nag mewn amser brys; mae hyn eto yn debycach i'r hyn a ddisgwylir yn y gweithle anacademaidd.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd yr adroddiad archwiliad rhywedd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol a sgiliau ysgrifennu. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn y seminarau a bydd y cydlynydd yn eu hannog i weithio mewn timoedd tu allan i'r seminarau hefyd. Defnyddir adnoddau Blackboard megis y bwrdd trafod hefyd.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith cwrs a phynciau eu cyflwyniadau. Rhaid cyflwyno gwaith cwrs ar amser, a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau.
Rhifedd Ddim yn berthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd paratoi'r Adroddiad Archwiliad Rhywedd yn gofyn am sgiliau ymchwil annibynnol. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r We yn ogystal a thestunau academaidd mwy traddodiadol. Yn rhannol asesir myfyrwyr ar eu gallu i gasglu deunyddiau ac adnoddau addas a diddorol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC). Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6