Module Information

Cod y Modiwl
MT14010
Teitl y Modiwl
DYNAMEG A PHERTHNASEDD
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Mathemateg Safon Uwch
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 sesiwn 1-awr o ddarlithoedd MP14010 a dosbarthiadau enghreifftiau (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Gwaith cwrs: 2 daflen asesiad  30%
Asesiad Ailsefyll 2 awr: arholiad ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. disgrifio egwyddorion sylfaenol dynameg a pherthnasedd arbennig.

2. modelu problemau mewn dynameg a pherthnasedd arbennig gyda hafaliadau mathemategol, cymhwyso technegau datrys elfennol i'r hafaliadau hyn a dehongli'r canlyniadau yn y cyd-destun ffisegol.

3. datrys problemau rhifol mewn dynameg a pherthnasedd arbennig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddamcaniaeth glasurol dynameg a damcaniaeth perthnasedd arbennig. Bydd y problemau sy'n cael eu trafod mewn dynameg yn cynnwys cinemateg glasurol, Deddfau Newton, egni a momentwm a mudiant mewn maes disgyrchedd. Bydd goblygiadau egwyddorion perthnasedd arbennig ar gyfer y cysyniadau o ofod ac amser hefyd yn cael eu hastudio.

Nod

Mae'r modiwl yn datblygu egwyddorion a thechnegau dynameg a pherthnasedd. Bydd pwyslais ar ddatrys problemau, a bydd taflenni enghreifftiau yn cynnwys ymarferion rhifol. Mae'r modiwl yn addas fel modiwl craidd ar gyfer cynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg a Ffiseg. Mae'r modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth uwch o'r testunau hyn yn MP21010.

Cynnwys

FECTORAU
Mesurau sgalar a fector, fector lleoliad, cydrannau fector, fector uned, lluoswm sgalar a fector.
DYNAMEG
Cinemateg: cyflymiad cyson, mudiant teflyn.
Deddfau mudiant Newton: momentwm, pwysau, grymoedd cyffwrdd ar solidau, ffrithiant, mudiant mewn cylch a grym mewngyrchol, grym gwrthiannol.
Gwaith ac Egni: gwaith a wneir gan rym, egni cinetig, pwer, grym cadwrol, egni potensial, cadwraeth egni mecanyddol.
Cadwraeth Momentwm: craidd mas, gwrthdrawiadau, cyfernod adfer, gwthiad roced.
Disgyrchiant: Deddfau Kepler, Deddf disgyrchedd Newton, egni potensial disgyrchedd.
PERTHNASEDD
Cyflwyniad a thrafodaeth ar ddiffygion ffiseg cyn perthnasedd, sy'n arwain at gynosodiadau Perthnasedd Arbennig a chanlyniadau pellgyrhaeddol yn ein deall o ofod ac amser. Caiff trawsffurfiadau Lorentz-Einstein eu deillio o'r cynosodiadau, gan arwain at ddeall o helaethiad amser a chyfangiad Lorentz.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl yma a chant eu hasesu drwy aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil
Technoleg Gwybodaeth

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
French, A. P. (1968 [unspecifi) Special relativity /A.P. French. CRC Press Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Tipler, Paul Allen (c2004.) Physics for scientists and engineers /[Paul A. Tipler, Gene Mosca] 5th ed. W.H. Freeman and Co Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4