Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Arddangos gallu i gyflawni anghenion eu rol neilltuol (naill ai fel perfformiwr, is-gyfarwyddwr, rheolwr llwyfan neu ddylunydd) yn ol gofynion celfyddydol, technegol neu/ac ymarferol y cynhyrchiad a ddewiswyd; Arddangos gallu i ddeall amcanion sylfaenol y cynhyrchiad fel y disgrifir hwy gan gyfarwyddwr y prosiect, ac i weithredu'n drwyadl ac yn fanwl wrth gyflawni'r amcanion hynny.
Arddangos gallu i newid ac addasu eu ffordd o weithredu er lles y cynhyrchiad wrth ymateb i gyfarwyddyd gan arweinwyr y prosiect a chan gyd-fyfyrwyr, ac ym mhresenoldeb cynulleidfa fyw; Arddangos gallu i ddatblygu deallusrwydd annibynnol o'r gwaith cynhyrchu, trwy ystyried proses y grwp cyfan fel damcaniaeth ymchwyl-fel-ymarfer.
Arddangos gallu i adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r broses baratoi, ymarfer a chyflwyno mewn traethawd ysgrifenedig.
Brief description
Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o ddeg wythnos. Fe fydd ffrwyth y broses a baratoi ac ymarfer yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd y semester fel rhan o wyl o waith theatr a chyfryngau yn yr Adran. Fe fydd y myfyrwyr yn gweithio fel rhan o dim cynhyrchu sefydlog dan oruchwyliaeth cyfarwyddwr staff profiadol neu arbenigwr gwadd tuag at nod a bennir gan y cyfarwyddwr. Fel aelod o dim cynhyrchu, disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a rol neilltuol a fydd yn cyfrannu'n bwysig at ddatblygiad a chyflwyniad y cynnyrch gorffenedig. Fe fydd natur y roliau hyn yn fater a drafodir rhwng y myfyrwyr a'r cyfarwyddwr ar dechrau'r prosiect, ac fe fydd cyfarwyddyd pendant yn cael ei roi i bob myfyriwr yn unigol ar y pwynt hwnnw ynglyn a natur eu rol a'r hyn a ddisgwylir ohonynt wrt iddynt weithredu a chyflawni'r rol honno.
Content
Fe fydd yna hefyd gyfres o seminarau wythnosol yn ystod y cyfnod ymarfer a pharatoi a fydd (1) yn trafod datblygiad yn ymateb y myfyrwyr i'r cynhyrchiad fel proses o ymarfer-fel-ymchwil; a (2) yn eu cynorthwyo i ddatblygu traethawd ar sail yr ymateb hwnnw.
Fe fydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn y modiwl hwn fel actorion, aelodau o'r tim cynhyrchu, dylunion ne rheoli lwyfan, neu fel cynorthwywyr i'r cyfarwyddwr staff (neu wadd). Fe fydd y cyfleon gwaith hyn yn cael eu cytuno trwy gyfrwng cyfweliad ffurfiol gyda Chyd-gysylltydd y modiwl a'r Rheolwr Cynhyrchu Uwch tua diwedd y tymor blaenorol (ar ol cwblhau'r broses gyn-gofrestru) fel rhan o'r broses AGAPh.
Arweinir y cynhyrchiad gan gyfarwyddwr/aig brofiadol a fydd yn creu methodoleg ymarfer priodol ar gyfer y prosiect. Yn ystod yr ymarferion, fe fydd y myfyrwyr yn cael profiad o gemau theatr, ymarferion byrfyfyrio, ymarferion eraill a gweithdai, a fydd wedi'u cynllunio'n benodol er mwyn hybu dealltwriaeth a gallu'r myfyrwyr i gyflawni anghenion eu swyddogaeth o fewn y cynhyrchiad.
Fe fydd y prosiectau hyn yn un o leoliadau perfformio'r Adran neu mewn lleoliad safle penodol priodol. Fe fydd cyfanswm o bum perfformiad o'r cynhyrchiad a fydd yn rhoi cyfle i rieni, ffrindiau ac aelodau'r cyhoedd wylio gwaith ymarferol yr Adran.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl. |
Communication | Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfwryddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol. |
Improving own Learning and Performance | Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu. |
Information Technology | Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.); ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Personal Development and Career planning | Ni cheir unrhyw ymwrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. |
Problem solving | Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. |
Research skills | Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Subject Specific Skills | Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol ddulliau ymarferol, ac yn datblygu'u dealltwriaeth or theatr fel arf gyfathrebu. |
Team work | Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl. |
Notes
This module is at CQFW Level 6