Module Information

Module Identifier
TC33340
Module Title
YMARFER CREADIGOL ANNIBYNNOL (CYFRYNGAU
Academic Year
2010/2011
Co-ordinator
Semester
Intended for use in future years
Mutually Exclusive
Y modiwlau cynhyrchu annibynnol yn Saesneg
Pre-Requisite
TC30120 a naill ai TC32020 Ymarfer Professiynol:Cyfryngau neu TC31020 Cyfatebol Theatr;TC3xx40 Stiwdio Ddigidol neu TC3xx40 Prosiect Cynhyrchu(Theatr)

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Portffolio Creadigol  40%
Semester Assessment Prosiect Terfynol a thraethawd atblygol (3000 o eiriau)  60%
Supplementary Assessment Portffolio Creadigol  40%
Supplementary Assessment Prosiect Terfynol unigol a thraethawd atblygol (3000)  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dyfeisio a chynllunio prosiect cynhyrchu cyfryngol mewn cyd-destun annibynnol.

2. Ystyried eu gwaith creadigol o fewn cyd-destun beirniadol ac atblygol.

3. Arddangos meistrolaeth o sgiliau cynhyrchu penodol ynghyd a dealltwriaeth o'r berthynas rhyngddynt.

Aims

Amcan y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwr ddatblygu prosiectau cynhyrchu creadigol gan adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a'u cymhwyso i gyd-destun o weithio yn annibynnol. Gall myfyrwyr ganolbwyntio ar um neu fwy o agweddau ar gynnyrch cyfryngol e.e. sgript lawn, ffilm fer, prosiect amlgyfryngol neu amrywiad ar yr elfennau hynny. Bydd hunanwerthusiad a beirniadaeth atblygol yn gwreiddiol i'r modiwl hwn.

Brief description

Yn y modiwl hwn fe fydd myfyrwyr yn gweithio'n annibynnol i greu cynhyrchiad cyfryngol o'u dewis o blith y canlynol: sgript lawn (hyd at 45 munud o hyd), ffilm fer (tua 10 munud o hyd) neu brosiect amlgyfryngol. Dysgir y modiwl mewn gweithdai ble disgwylir i fyfyrwyr dafoli eu gwaith o fewn cyd-destun academaidd a chreadigol ehangach. Ceir sesiynau penodol gydag arbenigwyr o'r diwydiannau creadigol yn ogystal a staff yr Adran.

Content

Dysgir y modiwl hwn mewn cyfres o weithdai a darlithoedd fel a ganlyn:

Darlithoedd/Seminarau:

1. Dyfeisio a Chynllunio Prosiect Cynhyrchu Creadigol.
2. Lleoli Gwaith Cradigol o fewn Traddodiad Critigol ac Atblygol.
3. Cyflwyno a Datblygu Syniadau.
4. Cyflwyno Gwaith Portffolio ac Adolygu Syniadau
5. Cyflwyno Drafft Cyntaf Prosiect Terfynol.

Gweithdai Cynhyrchu (mewnol a gydag arbenigwyr allanol): hyd at 10 x 2 awr i gynnwys ystyriaethau megis:

Triniaeth, genre ac arddull, cynulleidfa, cydymffurfiaeth a materion cyfreithiol, deunydd archif, cydgyfeirirant a chynnyrch aml-blatfform, cyfarwyddo, sain, golygu ac olgynhyrchu.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number
Communication Caiff sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol eu datblygu a'u hymestyn fel rhan allweddol o'r modiwl hwn.
Improving own Learning and Performance Mae'r broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain yn gyson. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modd o ddysgu yn y modiwl hwn.
Information Technology Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathrebu ar-lein.
Personal Development and Career planning Bydd gweithio'n annibynnol yn sgil a ddatblygir yn y modiwl hwn ac yn hynny o beth gwelir fod elfen o ddatblygiad personol yn rhan ohono. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr i ystyried o ddifrif eu cynlluniau gyrfaol yn enwedig wrth iddynt ymwneud ag aelodau o'r diwydiant yn eu dewis feysydd arbenigol.
Problem solving Datblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect cyfryngol.
Research skills Fe ddatblygir medrau ymchwil penodol wrth ddyfeisio ac ymchwilio i'r prosiect cynhyrchu annibynnol.
Subject Specific Skills
Team work Gall prosiect terfynol y myfyrwyr fod yn waith unigol os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at feirniadaeth atblygol o waith ei gilydd hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o'r un prosiect terfynol.

Notes

This module is at CQFW Level 6