Module Information

Cod y Modiwl
AG32810
Teitl y Modiwl
PYNCIAU SEMINAR
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
DIM OND I FYFYRWYR SEFYDLIAD Y GWYDDORAU GWLEDIG Y MAE'R MODIWL HWN AR GAEL, a rhaid iddynt gofrestru ar ei gyfer
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 1 x 3 awr darlith yn yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester SEMINAR 1  40%
Asesiad Semester SEMINAR 2  60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr ailsefyll yr elfen(nau) or asesiad a achosodd iddynt fethur modiwl  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Ymchwilio a chrynhoi pynciau penodol sydd o ddiddordeb iddynt;

Cyflwyno eu crynodebau ar ffurf seminar;

Cyflwyno crynodeb ysgrifenedig o'u hadolygiad o'r pwnc;

Gofyn ac ateb cwestiynau ar ol y seminar.

Nod

Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio a chyflwyno dwy seminar. Bydd Seminar 1 ar bwnc penodol tra bydd yr ail seminar ar bwnc o ddewis y myfyriwr.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys 11 o sesiynau 3 awr o hyd, a phob sesiwn yn cynnwys tair seminar unigol. Bydd myfyrwyr yn cael eu briffio erbyn Wythnos 6 Semester 1, bydd amserlen y seminarau yn cael ei llunio a bydd y pynciau cyntaf yn cael eu dosbarthu. Disgwylir i fyfyrwyr ddewis eu hail bwnc o fewn tair wythnos wedi cychwyn Semester 2, gan ofyn i gydlynydd y grwp ei gymeradwyo. Rhoddir adborth priodol wedi i'r seminar gyntaf gael ei chyflwyno. Dylai pob seminar bara am tuag 20 munud, ac yna ceir trafodaeth gyffredinol. Disgwylir i'r holl fyfyrwyr fod yn bresennol a chyfrannu'n llawn at y drafodaeth ar bob pwnc.

MAE NATUR Y MODIWL HWN YN GOLYGU NAD OES UNRHYW AILSEFYLL ANRHYDEDD YN YSTOD CYFNOD ARHOLIADAU ATODOL MIS AWST. BYDD YR AILASESU'N DIGWYDD Y TRO NESAF Y BYDD Y MODIWL YN CAEL EI GYNNIG, H.Y. YN SEMESTER 2 Y FLWYDDYN ACADEMAIDD GANLYNOL.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd angen i fyfyrwyr baratoi a thraddodi dau gyflwyniad seminar, gyda phapur crynodeb byr a llyfryddiaeth lawn i'w hategu. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu hasesu a darperir adborth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn cael adborth ar eu seminar gyntaf a disgwylir iddynt fyfyrio ar yr adborth hwn a chymryd camau priodol i wella eu perfformiad lle bo angen.
Sgiliau ymchwil Bydd angen i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil i baratoi ar gyfer eu dau gyflwyniad seminar unigol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio PowerPoint ac amrywiaeth o gyfryngau gweledol wrth gyflwyno'r seminarau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6