Module Information

Cod y Modiwl
FGM5860
Teitl y Modiwl
PROSIECT ESTYNEDIG
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Cwblhau Blwyddyn 3 o'r cynllun MPhys yn llwyddiannus, a PHM5010 neu FGM5010
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr
Sesiwn Ymarferol Gwaith prosiect yn ystod oriau gweithio arferol. Cyfarfodydd rheolaidd gyda'r goruchwylydd.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu.  100%
Asesiad Semester Ymarfer ar baratoi ac adolygu prosiect (Gregynog) (drwy'r Saesneg)  15%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol gan gynnwys yr adolygiad llyfryddiaeth (yn Saesneg, ond gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno)  60%
Asesiad Semester Cynnydd (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.)  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (yn Gymraeg)  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:

1. Dangos dealltwriaeth fanwl o'r ffiseg yn eu testun astudio.
2. Adolygu'r datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil dan sylw fel a gofnodir yn y llyfryddiaeth a arfarnwyd.
3. Cynllunio a gweithredu prif brosiect ymchwil y cwrs gradd.
4. Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun.
5. Cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol.
6. Paratoi, cyflwyno ac adolygu ceisiadau ymchwil.

Nod

Hwn yw modiwl prosiect unigol blwyddyn olaf cynllun gradd ffiseg MPhys. Ei ffocws yw prosiect ymchwil byr, gyda'r myfyriwr yn ymchwilio problem dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd.

Gall natur y broblem fod yn arbrofol, damcaniaethol, dadansoddi data neu fodelu cyfrifiadurol. Bydd y prosiect yn darparu cyfle i'r myfyriwr i gymhwyso'r wybodaeth a'r technegau a ddysgwyd yn y cwrs hyd yma. Rhoir pwyslais ar ddeall a chymhwyso egwyddorion sylfaenol ffiseg.

Cynnwys

Mae'r testun ymchwil yn wahanol ar gyfer pob prosiect.

Disgrifiad cryno

Fel arfer, bydd y myfyriwr yn gweithio ar y prif brosiect yn un o grwpiau ymchwil y sefydliad o dan oruchwyliaeth goruchwylydd prosiect. Caiff prosiect ei ddewis a'i glustnodi yn nhymor yr hydref, a bydd angen i'r myfyriwr ysgrifennu cynllun byr yn disgrifio'r prosiect ac yn amlinellu ei amcanion. Caiff y cynllun hwn a ffurflen Cynllunio Prosiect eu cyflwyno yn yr hydref mewn paratoad i'r gwaith prosiect.

Yn dilyn ymchwilio testun y prosiect yn semester 1 fel rhan o'r modiwl Traethawd Prosiect FGM5010 ac ysgrifennu'r adolygiad o'r llenyddiaeth, disgwylir i'r myfyrwyr yn semester 2 i gynllunio a gweithredu y prif brosiect. Mae hwn yn cynnwys prif ran arbrofi a dadansoddi y prosiect a'r dehongli a thrafod y canlyniadau yn nhermau'r wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil. Caiff y gwaith ei gyflwyno yr lafar ac mewn adroddiad ffurfiol.

Mae cwrs preswyl dwys ym mhlasty Gregynog ger y Drenewydd, cyn dechrau semester 2, hefyd yn rhan o'r modiwl. Caiff hwn ei drefnu ar y cyd gan staff ffiseg prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau ar gynllunio prosiect, cyfathrebu, sgiliau hunanreolaeth a gwaith grwp strwythuredig ar gyflwyno ac asesu prosiectau.

Darperir manylion pellach am y modiwl yn llawlyfr y Prosiect Estynedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno adroddiad ysgrifenedig a rhoi cyflwyniad llafar ar eu prosiect.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dylid ystyried trefnu a gweithredu prosiect unigol blwyddyn olaf y cynllun gradd MPhys yn rhan o gynllunio gyrfa a datblygiad personol.
Datrys Problemau Ystyrir pob prosiect wedi'u sylfaenu ar broblem.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau yn ystod y cwrs yng Ngregynog.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd adborth gan staff cwrs Gregynog a'r goruchwylwyr yn galluogi'r myfyrwyr i wella eu dysgu eu hunain.
Rhifedd Drwy gydol y modiwl.
Sgiliau ymchwil Bydd angen i'r myfyrwyr ymgynghori â llyfrau amrywiol, deunydd electronig a chyfnodolion a arfarnwyd. Bydd angen ymchwilio cefndir y prosiect.
Technoleg Gwybodaeth Mae angen deunydd helaeth o'r rhyngrwyd er mwyn chwiliad llenyddiaeth i gefndir y prosiect.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7