Module Information

Cod y Modiwl
GW10420
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 Hours. (20 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x 2,500 o eiriau traethawd  40%
Arholiad Semester ( 1 x 2 awr arholiad)  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl bydd y myfyrwyr yn gallu:

Asesu'n feirniadol y dulliau canolog sy'n rhan o astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.
a
Gwerthuso dulliau sy'n cystadlu a'i gilydd o fynd ynglyn a diwygio'r system ryngwladol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i ddadleuon y gorffennol a'r presennol ynglyn a'r rhagolygon ar gyfer cynnydd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

Nod

Bwriad y cynllun hwn yw egluro cymwysiadau cyfoes traddodiadau canolog syniadaeth ryngwladol a dadleuon parhaus ynglyn a natur gwleidyddiaeth y byd a'rr posibilrwydd o'ii ddiwygio.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cychwyn trwy ystyried sut mae pwnc Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi datblygu trwy gydol yr ugeinfed ganrif. Mae'n symud ymlaen i ystyried tri dull sy'n ganolog i wleidyddiaeth y byd ac sy'n trafod i ba raddau y gellir diwygio'r system ryngwladol. Y tri dull yma yw rhyngwladoldeb rhyddfrydol, realaeth a'r Ysgol Seisnig neu safbwynt y 'gymdeithas ryngwladol'. Bydd y modiwl yn archwilio gwaith awduron allweddol sy'n cynrychioli pob un o'r dulliau hyn.

Bydd yr ail grw^p o ddarlithoedd yn archwilio rhai problemau dadansoddol sylfaenol sy'n codi dro ar ol tro mewn gwleidyddiaeth ryngwladol. Dadansoddiad ar ba lefel sy'n addas - lefel yr unigolyn, y wladwriaeth neu'r system ryngwladol? Pwy yw'r prif gymeriadau, ac a yw eu natur yn newid yn awr? Pan geir digwyddiadau yng ngwleidyddiaeth y byd, a ddylem eu trafod fel canlyniadau penderfyniadau ac, os felly, pwy sy'n gwneud y penderfyniadau hynny?

Mae'r trydydd grw^p o ddarlithoedd wedi'u trefnu o gylch thema materion cyfoes yng ngwleidyddiaeth y byd. Byddwn yn ystyried, ymhlith pethau eraill, syniadau am foesoldeb rhyfel, hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol, arwyddocad globaleiddio i'r rhagolygon o allu byw bywyd boddhaol mewn gwahanol rannau o'r byd, a phwnc gwahaniaethau diwylliannol yng ngwleidyddiaeth y byd. Yna byddwn yn troi at ddau ddigwyddiad penodol: diwedd y Rhyfel Oer ac ymosodiadau terfysgol Medi'r 11eg. Byddwn yn defnyddio dulliau a themau a ystyriwyd yn gynharach yn y modiwl i ddadansoddi'r materion penodol hyn, sydd oll wedi codi cwestiynau mawr am ddyfodol gwleidyddiaeth y byd a'r rhagolygon o ran gwella neu ddiwygio'r byd.

Darlithoedd

1. Cyflwyniad i'r Modiwl

2. Pam Astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

3. Hanes ac Esblygiad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

4. Rhyngwladoldeb Rhyddfrydol: i) Cyflwyniad

5. Rhyngwladoldeb Rhyddfrydol: ii) Wilson, y Neo-Sefydliadwyr a'r Heddwch Democrataidd

6. Realaeth: i) Cyflwyniad

7. Realaeth: ii) Morgenthau a Realaeth Glasurol, Waltz a Neo-realaeth

8. Yr Ysgol Seisnig neu Ddull y 'Gymdeithas Ryngwladol' i) Cyflwyniad

9. Y Gymdeithas Ryngwladol: ii) Bull

10. Lefelau Dadansoddi

11. Cymeriadau

12. Penderfyniadau

13. Sesiwn Drafod

14. Materion Moesol yng Ngwleidyddiaeth y Byd

15. Rhyfel a Moesoldeb

16. Hawliau Dynol ac Ymyrraeth Ddyngarol

17. Globaleiddio a'i Oblygiadau

18. Diwedd y Rhyfel Oer

19. '9/11' a'i Ganlyniadau

20. Casgliadau (Trafodir ffurf yr arholiad yn y ddarlith hon hefyd. Yn ogystal a hyn ceir trafodaeth ar 'dechneg arholiad')

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i feithrin sgiliau beirniadol drwy werthuso gwahanol berspectifau ar wleidyddiaeth y byd. Bydd sgiliau asesu gwahanol safbwyntiau athronyddol a diwylliannol yn cael eu datblygu ynghyd ag ymwybyddiaeth o ddimensiynau moesegol llunio polisiau a bywyd cyhoeddus. Yn ogystal, bydd sgiliau trosglwyddadwy dadansoddi persbectifau gwahanol a'u cymhwyso at ddadansoddiad astudiaethau achos arbennig yn cael eu datblygu.

Drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau gall myfyrwyr feithrin sgiliau mwy penodol o ddehongli testun a deall cysyniadau. Bydd seminarau yn rhoi'r cyfle i gydweithio mewn grwpiau bychain ac i draddodi cyflwyniadau. Bydd y traethawd yn datblygu sgiliau ymchwilio annibynnol, dadleuon strwythuredig a chytbwys ynghyd a mynegiant eglur. Bydd yr arholiadau yn datblygu sgiliau cynllunio ymlaen llaw ac yn datblygu'r gallu i asesu gwahanol bersbectifau a dadleuon mewn amser cyfyngedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4