Module Information

Cod y Modiwl
GW37720
Teitl y Modiwl
DAMCANIAETHAU AMLDDIWYLLIANNEDD
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 7 x 1 awr
Darlithoedd 16 x 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   2 Awr (1 x 2 awr arholiad)  50%
Asesiad Semester 1 x 3,000 o eiriau traethawd  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

• Amlinellu gwahanol ffurfiau ar amrywiaeth ddiwylliannol.
• Archwilio sut y mae ffocws athroniaeth wleidyddol normadol wedi symud yn ddiweddar o ailddosbarthu socio-economaidd i gydnabyddiaeth ddiwylliannol.
• Trafod ymateb gwreiddiol athronwyr rhyddfrydol i her amrywiaeth ddiwylliannol.
• Amlinellu prif nodweddion Rhyddfrydiaeth Amlddiwylliannol Will Kymlicka ac egluro sut mae’r safbwynt hwn yn wahanol i drafodaethau rhyddfrydol cynharach.
• Trafod sut mae rhyddfrydwyr megis Kymlicka yn ymateb i alwadau diwylliannol sy’n herio gwerthoedd rhyddfrydol.
• Amlinellu prif nodweddion Dinasyddiaeth Radical Iris Marion Young.
• Amlinellu prif nodweddion Deialog Rhyng-ddiwylliannol Bhikhu Parekh.
• Amlinellu prif nodweddion Beirniadaeth Egalitaraidd Brian Barry.
• Cloriannu beth yw oblygiadau cydnabyddiaeth ddiwylliannol i undod cymdeithasol a gweithrediad democratiaeth.

Nod

Amcan y modiwl hwn fydd cyflwyno myfyrwyr i'r modd y mae cydnabyddiaeth o amrywiaethau diwylliannol wedi datblygu i fod yn bwnc mwyfwy pwysig ym maes athroniaeth wleidyddol normadol dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Fel rhan o hyn, bydd disgwyl i fyfyrwyr ystyried a thrafod rhai o'r cwestiynau normadol pwysig sydd wedi wynebu athronwyr gwleidyddol wrth iddynt gamu i'r maes newydd hwn:

- Sut ddylai gwladwriaethau democrataidd ymateb i amrywiaethau diwylliannol?
- A all gwladwriaethau ymdrin a'r amrywiaethau hyn mewn modd diduedd?
- A ydy estyn cydnabyddiaeth arbennig i aelodau rhai grwpiau lleiafrifol yn golygu nad yw'r wladwriaeth yn trin pawb yn gyfartal?
- A ddylid gwahaniaethu rhwng galwadau gwahanol fathau o grwpiau diwylliannol, er enghraifft grwpiau cenedlaethol a grwpiau mudol?
- Sut mae penderfynu pa fathau o hawliau diwylliannol sy'n dderbyniol a pha rai sy'n mynd yn rhy bell?
- I ba raddau y dylai gwladwriaethau rhyddfrydol barchu arferion diwylliannol lleiafrifol a ystyrir yn orthrymol?

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6