Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith 1 awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 4 gweithdy 1 awr a thiwtorial termau 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 70% |
Asesiad Semester | Gwaith cwrs: 2 daflen asesiad | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Ailsefyll cydrannau sydd wedi eu methu | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Disgrifio egwyddorion sylfaenol dynameg, osgiliadau a thonnau.
2. Datrys problemau rhifiadol mewn dynameg, osgiliadau a thonnau a dehongli’r canlyniadau yn y cyd-destun ffisegol.
3. Dangos dealltwriaeth o gadwraeth momentwm a chadwraeth egni.
4. Dangos dealltwriaeth o fudiant tonnau a thonnau unfan a sut mae’r cysyniadau yn berthnasol i ffiseg fodern.
5. Deall cysyniad cyseiniant a’i gymhwysiad mewn systemau mecanyddol a thrydanol.
6. Modelu problemau mewn dynameg, osgiliadau a thonnau gyda hafaliadau mathemategol.
Disgrifiad cryno
Nod
Mae'r modiwl yn datblygu dealltwriaeth y myfyriwr o egwyddorion a thechnegau dynameg. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau, a darperir enghreifftiau rhifiadol i'r myfyriwr ymarfer. Mae'r modiwl yn addas fel modiwl craidd blwyddyn-gyntaf cynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg a Mathemateg, ac mae'n paratoi'r myfyriwr ar gyfer defnyddio'r testunau mewn astudiaethau uwch ym modiwlau rhan 2.
Cynnwys
Mesurau fector a sgalar. Fector safle. Fectorau uned orthogonal.
Trin fectorau: adio, cydrannu, lluosymiau sgalar a fector.
Dynameg Sylfaenol
1. Cinemateg gronyn: cyflymiad cyson, mudiant teflyn.
2. Deddfau Mudiant Newton: momentwm, pwysau, grymoedd cyffwrdd ar solidau, ffrithiant, mudiant mewn cylch a grym mewngyrchol, grym gwrthiannol.
3. Gwaith ac Egni: gwaith a wneir gan rym, egni cinetig, pŵer, grym cadwrol, egni potensial (disgyrchol a sbring), cadwraeth egni mecanyddol.
4. Cadwraeth momentwm: craidd màs, gwrthdrawiadau, cyfernod adfer, gwthiad roced.
5. Disgyrchiant: Deddfau Kepler, Deddf Disgyrchiant Newton, egni potensial disgyrchol.
Osgiliadau
1. Mudiant Harmonig Syml: cyfnod, osgled, cyflymder, cyflymiad, egni.
2. Mudiant Harmonig Syml mewn systemau mecanyddol.
3. Osgiliadau gwanychol a gorfodol, cyseiniant.
Tonnau
1. Tonnau teithiol: tonfedd, amledd, cyflymder gwedd.
2. Hafaliad ton.
3. Ffenomenau ton: arosodiad tonnau, tonnau unfan, yr effaith Doppler.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl a chant eu asesu drwy aseiniadau ac arholiad ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir addysgu hunan-gyfeiriedig a gwella perfformiad drwy daflenni enghreifftiau a phecyn gwaith cartref electronig. Darperir datrysiadau i'r taflenni enghreifftiau. Caiff y gwaith cartref electronig ei asesu drwy lyfrau graddau ar-lein. |
Rhifedd | Mae problemau rhifiadol ar daflenni enghreifftiau a phapur arholiad yn datblygu sgiliau rhifedd. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae dynameg yn destun craidd mewn Ffiseg a Mathemateg. |
Sgiliau ymchwil | Bydd darllen cyfeiriedig a'r pecyn gwaith cartref electronig yn galluogi'r myfyriwr i ymchwilio'r testunau a ystyrir yn y modiwl. |
Technoleg Gwybodaeth |
Rhestr Ddarllen
Testun A CyffredinolJewett, John W. (c2010.) Physics for scientists and engineers with modern physics. /John W. Jewett, Raymond A. Serway, with contributions from Vah e Peroomian. 8th ed., International ed. Brooks/Cole Cengage Learning Chwilio Primo Tipler, Paul Allen (c2008.) Physics for scientists and engineers :with modern physics /Paul A. Tipler, Gene Mosca. 6th ed. W.H. Freeman Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4