Module Information

Cod y Modiwl
TC10320
Teitl y Modiwl
DADANSODDI CYNHYRCHIAD
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol or asesiad, rhaid ail-gyflwnor gwaith hwnnw. Os bydd mwy nag un elfen wedii methu, rhiad ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. 
Asesiad Semester Sylwebaeth ysgrifenedig Unigol yn cynharu gwahanol gynnhyrchiadau (2,500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Sylwebaeth Lafar mewn grwp (15 mund)  20%
Asesiad Semester Sylwebaeth Unigol ysgrifenedig (1,500 o eiriau)  30%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:

  1. arddangos eu dealltwriaeth o adeiladwaith y cynhyrchiad o safbwynt celfyddydol, technegol a chymdeithasol
  2. arddangos gallu i ddadelfenu'r cynhyrchiad, gan amlygu eu dealltwriaeth ohono fel ffenomen gyfansawdd, aml-gyfrwng
  3. arddangos eu gallu i drafod y berthynas rhwng testun dramataidd a chynhyrchiad theatraidd, a'r cyfryw brosesau sydd ynghlwm wrth drosgwlyddo drama ysgrifenedig i'r llwyfan byw
  4. llunio asesiad effeithiol o'u hymateb fel aelodau o'r gynulleidfa trwy gyflwyno adolygiadau ar ffurf sylwebaeth lafar ac ysgrifenedig, yn unigol ac mewn grwp.

Disgrifiad cryno

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

Yn ogystal a chynnig cyflwyniad i'r cynyrchiadau penodol y bydd y myfyrwyr yn ymweld a hwy, bydd y darlithoedd yn gyfle i amlinellu gwahanol swyddogaethau'r gweithwyr yn y theatr:

  1. Y Theatr: safle a sefydliad
  2. Y Dramodydd
  3. Y Cyfarwyddwr
  4. Yr Actor
  5. Cynllunio Goleuo
  6. Cynllunio Sain
  7. Cynllunio Set
  8. Rheoli Llwyfan
  9. Rheoli'r Cynhyrchiad
  10. Y Beirniad

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

Yn ogystal a chynnig cyflwyniad i'r cynyrchiadau penodol y bydd y myfyrwyr yn ymweld a hwy, bydd y darlithoedd yn gyfle i amlinellu gwahanol swyddogaethau'r gweithwyr yn y theatr:

  1. Y Theatr: safle a sefydliad
  2. Y Dramodydd
  3. Y Cyfarwyddwr
  4. Yr Actor
  5. Cynllunio Goleuo
  6. Cynllunio Sain
  7. Cynllunio Set
  8. Rheoli Llwyfan
  9. Rheoli'r Cynhyrchiad
  10. Y Beirniad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd pob elfen o¿r modiwl yn hyrwyddo cyfathrebu rhwng y myfyriwr unigol a¿i gyd-fyfyrwyr ac â¿r staff fydd yn cyflwyno¿r deunydd. Bydd aseiniadau¿r modiwl hefyd yn rhoi cryn bwys ar gyfathrebu effeithiol, boed yn unigol neu mewn gr¿p.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn yngl¿n ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol.
Datrys Problemau Ni fydd y modiwl hwn yn rhoi pwys arbennig ar ddatrys problemau fel y cyfryw, ond fe fydd yn siarsio¿r myfyrwyr i ddatblygu dulliau dadansoddiadol a fydd yn eu galluogi i ddadelfennu cynhyrchiad theatraidd.
Gwaith Tim Fe rydd yr elfen o asesu cyflwyniad gr¿p gyfle i¿r myfyrwyr feithrin a datblygu¿r medrau hynny sy¿n angenrheidiol wrth gydweithio fel tîm: dosrannu gwaith, cyd-drafod, hunan-ddisgyblaeth a chyfraniad i gywaith a.y.b.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y gwahanol elfennau o¿r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi cyfle a chyfrifoldeb ar y myfyrwyr i geisio gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain. Trefnwyd elfennau¿r asesiad fel ag i alluogi¿r myfyrwyr i fanteisio ar y broses o gyflwyno deunydd mewn gr¿p wrth iddynt baratoi eu gwaith unigol eu hunain tua diwedd y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn yngl¿n ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i¿r myfyrwyr gyflawni rhywfaint o ymchwil personol wrth iddynt ddarganfod mwy am gefndir a chyd-destun y cynyrchiadau gosod, ond ni fydd y modiwl hwn yn rhoi pwys arbennig ar ddatblygu medrau ymchwil fel y cyfryw.
Technoleg Gwybodaeth Ni fydd y medrau hyn yn rhan ganolog o¿r modiwl, eithr disgwylir y bydd y myfyrwyr yn datblygu rhywfaint o allu wrth brosesu geiriau wrth gyflwyno aseiniadau ysgrifenedig, a galluoedd i baratoi delweddau pwrpasol ar gyfer cyflwyniad llafar

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4