Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | Darlithoedd/Seminar ar ddyfeisio gwaith mewn grwpiau a sesiynau tiwtorial ar Sgiliau Cyflwyno - 10 x 2 awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Prosiect Ymarferol mewn Grwp | 40% |
Semester Assessment | Portffolio o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, a fydd hefyd yn cynnwys adfyfyriad ar y deunyddiadau hynny (3000 o eiriau) | 40% |
Semester Assessment | Arholiad Llafar Unigol | 20% |
Supplementary Assessment | Os methir yr elfen o waith Portffolio neur Arholiad Llafar uchod, rhaid ail-gyflwynor elfennau hynny. Os methir yr elfen o waith Prosiect Ymarferol, fe ellir gosod traethawd ir myfyrwyr a fydd yn gofyn iddyn nhw adlewyrchu ar enghreifftiau neilltuol o waith amlgyfrwng ar her o gyflwyno gwaith mewn sefyllfa grwp (hyd at 3000 o eiriau) | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. arddangos cyfres o sgiliau dyfeisio prosiect ymarferol, gan ddefnyddio technegau ymchwil perthnasol
2. cydweithio gyda myfyrwyr eraill tuag at nod a bennir ganddynt hwy eu hunain, dan gyfarwyddyd aelodau staff perthnasol
3. arddangos gallu sylfaenol i adfyfyrio ar y broses greadigol o ddyfeisio, trefnu, golygu a chyflwyno deunydd trwy gyfrwng portffolio o ddeunyddiau a gasglwyd ac a ystyriwyd ganddynt wrth baratoi'r prosiect yn y broses gynhyrchu
4. arddangos gallu sylfaenol i gymhwyso'r deunydd dogfennol crai yn y portffolio, a'i osod mewn cyd-destun theoretaidd a/neu hanesyddol priodol
5. arddangos gallu sylfaenol i werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyd-fyfyrwyr trwy gyfrwng arholiad llafar
Aims
Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gosod her i'r myfyrwyr i geisio dygymod a'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfrwng cyfuniad o lwyfannu byw a defnydd o'r cyfryngau: gan hynny, fe fydd yn baratoad pwysig ar gyfer gwaith creadigol pellach yn ystod Rhan 2 o'u cwrs gradd.
Content
Fe fydd y deunydd a ddangosir yn cael ei baratoi trwy gyfres o sesiynau gweithdy ymarferol (ymarfer byw a gwaith saethu/golygu fideo a.y.b.) ac yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol (perfformiad byw cyhoeddus, dangosiad fideo cyhoeddus, ei bostio ar youtube.com, sesh.tv a.y.b.).
Brief description
Disgwylir i'r myfyrwyr weithio mewn grwp, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy'n codi o ganlyniad i gydweithio fel tim. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau a pherfformio byw, ac yn profi eu gallu i addasu eu gweleidgaeth yn ol yr amgylchiadau a'r adnoddau penodol a fydd ar gael iddynt.
Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y grwp yn y prosiect terfynol, (ii) trwy arholiad llafar unigol, a (iii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Ni ddatblygir y medrau hyn yn y modiwl. |
Communication | Fe fydd datblygu sgiliau cyfathrebu yn hanfodol bwysig ar gyfer llwyddiant y prosiect ymarferol, o ran (i) cyfathrebu'n llwyddiannus a chynulleidfa trwy dduliau creadigol, a (ii) cyfathrebu a chyd-aelodau'r grwp ymarferol wrth ddyfeisio, dosrannu a threfnu'rgwaith. Fe asesir ansawdd y cyfathrebu wrth werthuso pob aseiniad ar gyfer y modiwl. |
Improving own Learning and Performance | Fe fydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y profiadau ymarferol amryfal y bydd aelodau'r grwp wedi'u cael yn ystod Sester 1 o'u blwyddyn gyntaf: felly fe fydd yna elfen bwysig o wella a datblygu eu perfformiad eu hunain yn ystod y modiwl hwn. Fe fydd y modiwl yn gofyn iddynt ddatblygu eu gallu hefyd i adfyfyrio'n ddwysach ar y broses ymarferol nag a wnaed yn y modiwlau 20 credyd blaenorol. Fodd bynnag, nid asesir y myfyrwyr ar sail datblygiad o un asesiad i'r llall yn y modiwl hwn, gan fod pob aseiniad yn canoli ar yr un broses ymarferol. |
Information Technology | Nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er y gall y defnydd o dechnoleg gwybodaeth fod yn elfen bwysig wrth gyflawni gwaith ymchwil i'r prosiect. |
Personal Development and Career planning | Gan fod y modiwl hwn yn un Lefel 1, ni fydd yn cynnig unrhyw gyfarwyddyd ffurfiol tuag at gynllunio gyrfa. Fodd bynnag fel pob math waith creadigol ym maes Theatr, Ffilm a Theledu, fe fydd yn cynnig profiadau a her neilltuol i fyfyrwyr a all fod o ddefnydd mawr iddynt wrth ystyried cyfeiriad eu gwaith a'u diddordebau yn y dyfodol. |
Problem solving | Fe fydd y Prosiect Ymarferol yn gofyn i'r myfyrwyr gydweithio'n agos a'i gilydd tuag at nod a fydd yn cael ei benderfynu ganddyn nhw eu hunain (mewn cydweithrediad ag aelod o staff). Fe fydd hyn yn gofyn iddynt ddatblygu medrau datrys problemau creadigol, trefniadol, a thechnegol er mwyn cyrraedd y nod. Fe fydd y sgiliau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith ymarferol gorffenedig. |
Research skills | Fe fydd y portffolio a gyflwynir fel rhan o'r modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr ddangos y math o waith ymchwil a gyflawnwyd ganddynt wrth ddyfeisio a datblygu eu prosiect. Fe roddir cyfarwyddyd iddynt yn ystod y sesiynau darlith/seminar a'r tiwtorialau ynglyn a ffynonellau a dulliau ymchwil priodol. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Fe fydd datblygu'r gallu i weithio fel tim yn gwbl allweddol i'r modiwl hwn. Fe asesir y medrau hyn yn uniongyrchol wrth ddyfarnu marc grwp i'r Prosiect Ymarferol, ac yn anuniongyrchol wrth ystyried trafodaeth y myfyrwyr o'r broses greadigol yn y Portffolio a'r Arholiad Llafar. |
Reading List
Recommended TextAlfreds, Mike (2008) Different Every Night Nick Hern Books Primo search Barba, Eugenio (1991) A Dictionary of Theatre Anthropolgy - The Secret Arts of the Performer Routledge/CPR Primo search Barker, Clive (1989) Theatre Games Methuen Primo search Bartow, Arthur (ed) (2008) Handbook of Acting Techniques Nick Hern Books Primo search Boal, Augusto (1992) Games for Actors and Non-Actors Routledge Primo search Chapple, F, and C. Kattrnbelt (eds) (2007) Intermediality in Theatre and Performance Rodopi Primo search Counsell, C. (1996) Signs of Performance: An Introduction to Twentieth-Century Theatre Routledge Primo search Crittenden, Roger (2005) Fine Cuts: The Art of European Film Editing Focal Press Primo search Elwes, Catherine (2006) Video Art: A Guided Tour Primo search Etchells, T. (1999) Certain Fragments: Contemporary Performance and Forced Entertainment Primo search Foster, Gwendolyn Audrey and Wheeler Winston-Dixon (2002) Experimental Cinema: The Film Reader Routledge Primo search Garner, S. (1994) Bodied Spaces: Phenomenology and Performance in Contemporary Drama Cornell University Press Primo search Grau, Oliver (2008) MediaArtHistories MIT Press Primo search Jenkins, H. (2006) Convergence Culture New York Primo search Jones, A. and A. Stephenson (eds.) (1999) Performing the Body/Performing the Text Primo search Kaye, N. (2000) Site Specifics: Performance, Place and Documentation Routledge Primo search Lee, John J. Jr. (2005) The Producer's Business Handbook Focal Press Primo search Musburger, Robert B. Single-Camera Video Production Primo search Pearson, M. and M. Shanks (2001) Theatre/Archaeology Routledge Primo search Proferes, Nicholas (2004) Film Directing Fundementals Focal Press Primo search Schechner, R. (1973) Environmental Theatre New York: Hawthorn Primo search Schechner, Richard (2002) Performance Studies: An Introduction Routledge Primo search Watts, Harris (1992) Directing on Camera: A Checklist of Video and Film Technique Aavo Primo search
Notes
This module is at CQFW Level 4