Module Information

Cod y Modiwl
GW11220
Teitl y Modiwl
DEFNYDDIO SYNIADAU GWLEIDYDDOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 Hours. (18 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol i fyfyrwyr gwblhau'r modiwl dylent gallu trafod y canlynol mewn modd ddeallus a beirniadol:

- tarddiad y wladwriaeth a pherthynas y wladwriaeth a syniadau/arferion cysylltiedig megis sofraniaeth a chenedlaetholdeb;
- natur grym mewn gwleidyddiaeth gyfoes ac ymdrechion i ffrwyno a chyfeirio grym trwy ddulliau democrataidd;
- tarddiad cyfalafiaeth a dadleuon cyferbyniol parthed `naturioldeb? a chyfiawnder y gyfundrefn gyfalafol; a,
- y prif ddulliau astudio a ddefnyddir gan y sawl sy'n astudio gwleidyddiaeth.

Yn ogystal, trosgwlyddir nifer o sgiliau sylfaenol i fyfyrwyr er mwyn gwella eu gallu i astudio'r pynciau hyn ac i gyfathrebu ffrwyth eu gwaith.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r astudiaeth o wleidyddiaeth

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw annog myfyrwyr i bwyso a mesur gwahanol ddehongliadau o'r modd y dylai cymdeithas dda gael ei threfnu. Eir ati i wneud hynny trwy gyfrwng astudiaeth o rai o'r prif ideolegau gwleidyddol (rhyddfrydiaeth, sosialaeth, ceidwadaeth a chenedlaetholdeb) a hefyd i rai o'r prif gysyniadau gwleidyddol (e.e. grym, y wladwriaeth, democratiaeth a globaleiddio). Ymhellach, rhoddir sylw manwl i ddadleuon rhai o feddylwyr gwleidyddol pwysicaf y cyfnod modern.

Cynnwys

Ar ôl trafod dehongliadau gwahanol o natur gweithgaredd gwleidyddol, bydd y modiwl yn mynd ati i ystyried arwyddocad y cysyniad o ideoleg. Yna ceir cyfres o ddarlithoedd a seminarau sy'n rhoi sylw i bedwar o’r prif ideolegau - rhyddfrydiaeth, sosialaeth, ceidwadaeth a chenedlaetholdeb. Yn dilyn hynny bydd rhan olaf y cwrs yn mynd ati i drafod cyfres o gysyniadau gwleidyddol allweddol, yn eu plith y wladwriaeth, sofraniaeth a democratiaeth. At ei gilydd, bydd y modiwl yn caniatau trafod cyson ynglyn â sut yn union y dylai cymdeithas dda gael ei threfnu ac yn helpu’r myfyrwyr i ddatblygu safbwyntiau personol mewn perthynas â themau tebyg i'r rhai a nodir yn yr adran Canlyniadau Dysgu.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu I ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Cant eu hannog i ennill gwybodaeth ac i'w gysylltu a thasgau penodol. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd a hunanreoli sylfaenol. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi. Byddant yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.

Rhestr Ddarllen

Testun Ychwanegol Atodol
Almond, Gabriel A. Comparative Politics Today Testunnau eraill/Other texts edition 7n.e.of r.e. Addison-Wesley Educational Publishers Chwilio Primo Annas, Julia Introduction to Plato's Republic Testunnau eraill/Other texts Oxf.U.P. Chwilio Primo Bryson, Valerie Feminist political theory : an introduction Testunnau eraill/Other texts Macmillan Chwilio Primo Crick, Bernard Socialism Testunnau eraill/Other texts Open U.P. Chwilio Primo D. Emrys Evans Y wladwriaeth / Plato Testunnau eraill/Other texts Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Eccleshall, Robert Political Ideologies Testunnau eraill/Other texts edition n.e. Routledge Chwilio Primo Goodwin, Barbara Using Political Ideas Prif destunnau/Key Texts edition 4r.e. Wiley Chwilio Primo Hague, Rod Comparative Government and Politics Prif destunnau/Key Texts edition 5r.e. Palgrave Chwilio Primo Hague, Rod Comparative Government and Politics Testunnau eraill/Other texts edition 5r.e. Palgrave Chwilio Primo Hampsher-Monk, Iain History of Modern Political Thought Testunnau eraill/Other texts Blackwell,U.S. Chwilio Primo Held, David Models of Democracy Testunnau eraill/Other texts edition 2r.e. Polity P. Chwilio Primo Landman, Todd Issues and Methods in Comparative Politics Testunnau eraill/Other texts Routledge Chwilio Primo Locke, John, edited by David Wootton Political writings Testunnau eraill/Other texts Penguin Chwilio Primo Mahler, Gregory S. Comparative Politics Testunnau eraill/Other texts edition 4r.e. Prentice-Hall Chwilio Primo Skinner, Quentin Machiavelli Testunnau eraill/Other texts edition n.e. Oxf.U.P. Chwilio Primo Vincent, Andrew Modern Political Ideologies Prif destunnau/Key Texts edition 2r.e. Blackwell Chwilio Primo Vincent, Andrew Modern Political Ideologies Testunnau eraill/Other texts edition 2r.e. Blackwell Chwilio Primo Williams, H. International Relations in Political Theory Testunnau eraill/Other texts Open U.P. Chwilio Primo Williams, Howard Ll Marx Testunnau eraill/Other texts Gwasg Gee Chwilio Primo Wollstonecraft, Mary Political Writings Testunnau eraill/Other texts edition n.e. Oxf.U.P. Chwilio Primo Democracy and the Capitalist State Testunnau eraill/Other textsYn enwedig Pennod 6 Camb.U.P. Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4