Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 2 AWR | 70% |
Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 2 AWR | 70% |
Asesiad Ailsefyll | A CHYFLWYNO UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG NA CHYFLWYNWYD | 30% |
Asesiad Semester | 1 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos dealltwriaeth feirniadol o gorpws o wybodaeth hanesyddol sy'n ymwneud a hanes gwleidyddol a chymdeithasol Prydain ymerodraethol.
Dangos dealltwriaeth o'r prif effeithiau gafodd y profiad ymerodraethol ar gymdeithas gwledydd Prydain, gan gynnwys ffactorau diwylliannol, ideolegol, a hunaniaethol.
Dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol, gan ganolbwyntio ar ffynonellau eilradd.
Mynegi dealltwriaeth yn gynyddol hyderus a graenus, a thrafod materion perthnasol yn ysgrifenedig o fewn cyd-destun academaidd.
Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp (heb ei asesu'n ffurfiol).
Disgrifiad cryno
Ffocws y modiwl yw profiad Prydain o fod yn un o bwerau mwya'r byd yn ystod yr `Oes Ymerodraethol', a sut yr effeithiodd y profiad yma ar hunaniaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant ei phobl. Gan ddechrau gyda throsolwg ar Brydain a'i safle yn y byd ar ganol y 19eg ganrif, bydd myfyrwyr yn asesu'r rhesymeg gyfoes dros weithgareddau imperialaidd oddi cartref. Wedyn, bydd y modiwl yn defnyddio nifer o argyfyngau neu drobwyntiau yn hanes yr ymerodraeth i asesu dylanwad y profiad ymerodraethol ym Mhrydain. Asesir agweddau tuag at yr ymerodraeth ymhlith dosbarthiadau llywodraethol a'r bobl gyfredin yng nghyd-destun Gwrthryfel y Sepoy, ymgyrchoedd Gladstone ym Midlothian, a'r Ras am Affrica. Astudir cysyniadau ynglyn a hil a Phrydeindod, ac archwilir y modd y'u heriwyd yn y cyfnod oherwydd digwyddiadau megis Argyfwng Ymreolaeth Iwerddon. Astudir mudo i'r trefedigaethau, a phynciau cysylltiedig megis imperialaeth ddiwylliannol. Trafodir Rhyfel y Boer a'i ganlyniadau, yn enwedig yn nhermau'r effaith ar syniadau am rywedd a Darwiniaeth Gymdeithasol. Bydd y modiwl yn cloi trwy asesu rol imperialaeth yn Ewrop wrth ddynesu at y Rhyfel Mawr, a thrafodir sut y dylanwadodd yr Ymerodraeth ar gymdeithas a diwylliant ym Mhrydain yn yr oes Fictoraidd ac Edwardaidd.
Nod
Lleolir y modiwl yn gadarn o fewn y datblygiadau newydd a fu mewn ysgrifennu hanesyddol yngl'n a gorffennol imperialaidd gwledydd Prydain. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae haneswyr wedi defnyddio'r profiad ymerodraethol i astudio themau yn hanes cymdeithasol a diwylliannol Prydain. Bydd y modiwl, felly, yn archwilio effaith y profiad ymerodraethol ar Brydain yn y cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd, gan ganolbwyntio ar hunaniaeth, diwylliant, a syniadau am safle Prydain yn y byd. Bydd y modiwl yn cynnig golwg eang ar y pwnc, a hefyd yn cynnig rhagarweiniad i fyfyrwyr sydd am astudio Prydain ac Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ogystal a hunaniaethau cenedlaethol a gwleidyddiaeth Prydain fodern, ym mlynyddoedd 2 a 3
Cynnwys
1. Cyflwyniad
2. Prydain a'r byd yng nghanol y 19eg ganrif
3. Yr economi ymerodraethol
4. Cenhadon, a'r `genhadaeth wareiddio'.
5. Gwrthryfel y Sepoy a diwedd yr East India Company
6. `Imperialaeth Newydd' a'r Ras am Affrica
7. Midlothian a Khartoum: dadl gyhoeddus am yr Ymerodraeth.
8. Syniadau imperialaidd a diwylliant poblogaidd.
9. Syniadau am hil
10. Seisnigrwydd a Phrydeindod
11. Argyfwng Ymreolaeth Iwerddon
12. Mudo i'r trefedigaethau
13. Chwaraeon, imperialaeth ddiwylliannol, a hunaniaethau newydd
14. Rhyfel y Boer
15. Wedi Rhyfel y Boer. Darwiniaeth Gymdeithasol a diwygio.
16. Imperialaeth a rhywedd
17. Cystadleuaeth rhwng ymerodraethau, a rhyfel yn Ewrop
18. Diweddglo: y profiad ymerodraethol a'r gymdeithas ym Mhrydain.
Seminarau
1. Cenhadaeth wareiddio? Y rhesymeg y tu ol i'r Ymerodraeth.
2. Syniadau imperialaidd a diwylliant poblogaidd
3. Sialens i syniadau o Brydeindod
4. Rhyfel y Boer a dyfodol yr hil
5. Cystadleuaeth ymerodraethol, a'r Rhyfel Mawr
Un dosbarth tiwtorial unigol yn ystod y semester
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o fedrau personol yng nghyswllt safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau sy'n codi o gyd-destun cymdeithasol a hanesyddiaethol Prydain ymerodraethol; nodi tystiolaeth hanesyddol a allai effeithio ar atebion posibl a gwerthuso'u manteision ac anfanteision; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem o ddadansoddiad hanesyddol. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitro cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel y bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau pwnc penodol | Deall a thafoli tystiolaeth hanesyddol ac archwilio cysyniadau craidd yng nghyd-destun hanes Prydain ac Ewrop yn yr Oes Ymerodraethol. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4