Module Information

Cod y Modiwl
CC18000
Teitl y Modiwl
DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A PHERSONOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Ar gael i fyfyrwyr lefel 1 yn unig
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 21 x 1 hr
Eraill gwaith maes 16 hr
Darlithoedd 15 Darlith
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester CV a llythyr atodol  25%
Asesiad Semester Hyd at 5 o ymarferion ysgrifenedig un tudalen o hyd ynghyd a chyfraniadau i ddosbarthiadau tiwtorial  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad Unigol  (asesir gan staff a chymhreriaid)  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad Grwp  (asesir gan staff a chymhreriaid)  25%
Asesiad Ailsefyll CV a llythyr atodol  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Unigol  50%

Canlyniadau Dysgu

O gwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyriwr fedru:

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

cynllunio CV priodol

dangos sgiliau sylfaenol rheoli amser a gweithio mewn tim

adolygu'n feirniadol ei b/pherfformiad ei hun

defnyddio deunydd cyfrifiadurol i ategu astudio yn y brifysgol

cynllunio a rhoi cyflwyniad technegol

Nod

Caiff y modiwl hwn ei gymryd gan bob myfyriwr Cyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd yn y flwyddyn gyntaf; mae'n darparu fforwm lle dysgir holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf gyda'i gilydd mewn un grwp.
Mae'r modiwl yn cynnwys deunydd nad yw'n cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o fodiwlau penodol ond sy'n hanfodol er mwyn ennill dealltwriaeth gyflawnach o'r maes yn gyffredinol.
Mae sgiliau trosglwyddadwy personol yn nodwedd bwysig i unrhyw beiriannydd meddalwedd ac mae'n rhan bwysig o'r modiwl hwn.

Gweinyddir y drefn fugeiliol a chyffredinol i fyfyrwyr y rhaglenni gradd hyn trwy gyfrwng y modiwl hwn.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cynnwys deunydd i hyrwyddo datblygiad myfyrwyr fel gweithwyr proffesiynol yn eu maes. Datblygir rhychwant o sgiliau personol trosglwyddadwy o fewn i gyd-destun y diwydiant meddalwedd. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ynghylch cynhyrchu CV er mwyn llwyddo i ennill blwyddyn mewn gwaith.
Mae'r modiwl yn darparu tiwtora bugeiliol a chyffredinol ynghyd a fforwm lle dysgir yr holl fyfyrwyr gyda'i gilydd mewn un grwp.

Bydd dosbarthiadau tiwtorial wythnosol yn darparu'r gefnogaeth fugeiliol am y semester cyntaf ac yn rhoi fforwm i drafod agweddau technegol y deunydd a gyflwynir yn y modiwlau.
Cynlluniwyd y Penwythnos Gweithgareddau i wella sgiliau gwaith tim y myfyrwyr a datblygu ymhellach eu sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu. Trwy gyfrwng cyfres o dasgau amrywiol a gynhelir drwy gydol y penwythnos, a ategir gan waith prosiect pellach, bydd sgiliau'r myfyrwyr wrth ddatrys problemau yn cael eu hymarfer.

Cynnwys


1. Cynllunio Cyflwyniad : 1 ddarlith
Cyflwyniad i bwysigrwydd strwythur, amseru a chynnwys cyflwyniadau.

2. Llunio Curriculum Vitae o safon uchel : 1 ddarlith
Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd.

3. Sut i ysgrifennu Saesneg Da : 2 ddarlith
Cyflwyniad i arddull a thechneg wrth ysgrifennu Saesneg da.

4. Gwneud y mwyaf o'ch profiad yn y brifysgol : 1 ddarlith
Gwneud y mwyaf o ddysgu wedi ei ganoli ar y myfyriwr.

5. Rheoli Amser : 1 ddarlith
Dadansoddi sut orau i reoli amser er mwyn gwneud y mwyaf ohono.

6. Rheoli grwp : 1 ddarlith
Sut i weithio'n effeithiol mewn tim.

7. Cyfeirio a dyfynnu : 1 ddarlith
Defnyddio deunydd sy'n bodoli eisoes. Ffyrdd cywir ac addas o gyfeirio a dyfynnu. Llen-ladrad.

8. Materion Rhyngwyneb Defnyddiwr : 1 ddarlith
Cynllunio wedi ei ganoli ar y defnyddiwr.
Rheolau Schneidermann. Egwyddorion Norman.

9. Techneg Arholiadau : 1 ddarlith
Cyfarwyddiadau safonol. Defnyddio amser, cynllunio. Arddull cwestiynau.

10. Dosbarthiadau Tiwtorial : 21 wythnos
Bydd gofyn i bob myfyriwr baratoi a rhoi cyflwyniadau ac arddangosiadau ar bapurau o'r deunydd darllen technegol ac ar agweddau penodol ar systemau medalwedd yr ymdrinnir a hwy yn y darlithoedd.

11. Sgiliau Cyfathrebu Personol - 1 Penwythnos

Rhannau mewn tim; dull Belbin a hunan asesu. Sgiliau rhyng-bersonol - a feithrinwyd mewn penwythnosau Sgiliau Tim cysylltiedig.

Penwythnos gweithgareddau


Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Cottrell, Stella. (2013.) The study skills handbook /Stella Cottrell. 4th ed. Palgrave Macmillan Chwilio Primo
Testun Ychwanegol Atodol
Cottrell, Stella. (2011.) Critical thinking skills :developing effective analysis and argument /Stella Cottrell. 2nd ed. Palgrave Macmillan Chwilio Primo Davies, John W. (2010.) Communication Skills: A Guide for Engineering and Applied Science Students 3rd ed. Pearson Education Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4