Module Information

Cod y Modiwl
GW10620
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL Y TRYDYDD BYD
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 Hours. (18 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   arholiad 2 awr  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (arholiad 2 awr)  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol iddynt gwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:

- asesu'n feirniadol ddefnyddioldeb y term y Trydydd Byd
- egluro rhai o'r ffyrdd y mae cysylltiadau Gogledd-De yn cael effaith ar faterion y Trydydd Byd
- amlinellu a dadansoddi amryfal effeithiau gwladychiaeth
- esbonio rhai o'r sialensiau gwleidyddol ac economaidd allweddol sy'n wynebu cymdeithasau'r Trydydd Byd
- trafod yn feirniadol ystyr datblygiad ac egluro rhai sialensiau datblygu cyfoes
- trafod yn feirniadol ystyr diogelwch yn y Trydydd Byd ac egluro rhai sialensiau diogelwch
- gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Nod y cwrs hwn yw cyflwyno myfyrwyr i bynciau gwleidyddol a chymdeithasol allweddol sy’n pennu safle’r ‘Trydydd Byd’ mewn gwleidyddiaeth. Yn dilyn cyflwyniad i’r hanfodion theoretig, fe fydd y modiwl yn trafod tair thema allweddol – trefedigaethrwydd, datblygiad, a democratiaeth – drwy gyfres o ddarlleniadau ac ymarferion a fydd yn herio stereoteipiau cydnabyddedig a rhagdybiaethau deallusol, gyda’r nod o annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ynghylch eu hastudiaethau a’u gweithredoedd.

Cynnwys

arlithoedd a seminarau:

Damcaniaethu'r 'Trydydd Byd'
1. Beth yw'r 'Trydydd Byd', beth bynnag?
2. Meddwl am y 'Trydydd Byd' – gwybodaeth pwy?

Seminar 1: pobl go-iawn mewn lleoedd go-iawn
3. Meddwl am Hil
4. Meddwl am Rhywogaeth

Seminar 2: Hil, Rhyw a Rhywogaeth Trefedigaethrwydd
5. Trefedigaethrwydd yn America Ladin
6. Trefedigaethrwydd yn Affrica

Seminar 3: Profiadau Trefedigaethol
7. Trefedigaethrwydd ac Ewrop
8. Datrefedigaethu (?)

Seminar 4: Gwaddol Drefedigaethol Datblygiad
9. Y syniad o ddatblygiad
10. Y 'diwydiant' datblygu

Seminar 5: Cymorth byw, cymorth marw?
11. Cynaliadwyedd – Datblygiad a'r Amgylchedd
12. A oes angen datblygiad arnom?

Seminar 6: Cenhadon Modern? Cyrff Anllywodraethol (NGO) Datblygiad Rhyngwladol Democratiaeth
13. Model Democratiaeth Ryddfrydol
14. Yr Anhawster â Llygredd

Seminar 7: Democratiaethau Dymunol
15. Grym Pobl: mudiadau cymdeithasol a chymryd rhan
16. Grym Pobl: mudiadau cymdeithasol ar waith

Seminar 8: Mudiadau'r werin a democratiaeth Casgliad
17. Beth ddylem ni ei wneud ynghylch anghydraddoldeb byd-eang? Darlith gyfranogol
18. Gwybodaeth, rhagdybiaethau a'r frwydr oddi isod.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd sgiliau astudio yn cael eu dysgu I'r myfyrwyr drwy gyfrwng cymryd rhan weithredol mewn seminarau, a bydd hynny'n cael ei ategu gan gwricwlwm seiliedig ar y we a'r y fewnrwyd Adrannol (Adnodd Sgiliau Mewnrwyd). Bydd pedwar prif faes yn cael eu cynnwys: ffynonellau (argraffedig a rhai seiliedig ar y we; seminarau a gweithio mewn grwp bychan; traethodau; arholiadau. Bydd yr addysgu sgiliau yn ymarferol ac yn addas I'r tasgau y bydd y myfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod eu hastudiaethau, ac fel y cyfryw byddant yn cael eu cysylltu a chynnwys academaidd y modiwl ac ag asesiad y myfyrwyr. Bydd tiwtoriaid seminarau fel y cyfryw yn ymgymryd ag addysgu sgiliau fel y bo hynny'n addas I'r grwp arbennig hwnnw, yn hytrach na dilyn trefn anhyblyg. Felly gallai trafodaethau yn ymwneud a gwaith grwp ddigwydd yn gynnar yn y modiwl, gallai trafodaethau yn ymwneud a ffynonellau ddigwydd drwy gydol y modiwl tra byddai mater ysgrifennu traethodau yn cael sylw yn nes at amser cyflwyno'r gwaith. Bydd y dull llai strwythuredig o fynd ynglyn ag addysgu sgiliau yn cael ei ategu gan yr Adnodd Sgiliau Mewnrwyd a fydd yn cynnwys nodiadau ar amryfal faterion yn ymwneud a sgiliau, rhestr darllen ynghyd a chysylltau ag adnoddau eraill y Coleg (megis y Gwasanaethau Gwybodaeth) ac a safleoedd sgiliau sydd eisoes ar gael ar y we. Dylid nodi bod yr Adran wedi rhoi cynnig ar lawer o strategaethau addysgu sgiliau, ond mai siomedig fu'r canlyniadau, a gobeithir y bydd ymgorffori'r rhain yn rhan o drefn academaidd ddyddiol y myfyrwyr yn profi'n effeithiol

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd sylfaenol a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4