Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Asesiad Atodol Arholiad caeëdig 2 awr, ac unrhyw waith ysgrifenedig sydd ar goll. | 70% |
Arholiad Semester | 2 Awr Asesiad Semester 1 arholiad 2 awr | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad Atodol Dylid cyflwyno traethodau ar gyfer ailsefyll ar wahanol destun i’r rhai a fethwyd. | 30% |
Asesiad Semester | 2 Awr Asesiad Semester 1 traethawd 2,500 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth gref o natur a hanes gwladychiad ac imperialaeth yn eu cyd-destun hanesyddol Ewropeaidd ynghyd ag effaith y datblygiadau hyn ar gymdeithas Ewrop
asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a’u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod imperialaidd yr 19eg ganrif
datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol
casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain (ac yng Nghymru yn benodol). Byddwn yn ystyried sut dreiddiodd syniadau ymerodraethol trwy gydol diwylliant y gwledydd hyn, gan edrych er enghraifft ar sut oedd pobloedd ‘eraill’ yn cael eu portreadu mewn cyhoeddiadau Cymraeg. Yna byddwn yn archwilio’r cyfnod wedi’i Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau, er bod rhai o’r syniadau a ddaeth yn eu sgîl yn parhau. Felly byddwn yn olrhain tranc poenus yr Ymerodraeth Ffrengig yn Indo-China ac Algeria.
Bydd Dr Matthews yn ymweld ag Aberystwyth i gyfarfod â’r myfyrwyr ar ddechrau’r semester cyn cynnal y seminarau wyneb yn wyneb dros y fideo. Disgwylir i’r myfyrwyr wylio’r darlithoedd yn eu hamser eu hunain ond yn ystod yr wythnos y byddant yn cael eu rhyddhau ar Y Porth. Bydd angen elfen o oruchwyliaeth i sicrhau bod y myfyrwyr yn dilyn y cwrs darlithoedd a phenodir aelod o staff yn yr Adran yn Aberystwyth fel cyswllt ychwanegol ar gyfer y myfyrwyr. Gan fod y modiwl yn wahanol iawn i’r arfer, byddwn yn ceisio asesu effeithlonrwydd y dulliau dysgu ar ddiwedd y semester i weld a oes angen unrhyw addasu ar y ddarpariaeth.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi. |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deal sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud ag imperialiaeth a gwladychiad. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6