Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 seminar x 2 awr + tiwtorialau traethawd unigol (10-15 munud) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Supplementary Examination | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Supplementary Assessment | 40% |
Asesiad Semester | Semester Assessment 2 draethawd (1,500 o eiriau yr un) | 40% |
Asesiad Semester | Semester Assessment 1 prosiect (5,000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifiad cryno
Sut mae clywed lleisiau’r oesoedd canol? A oes posib cael syniad iawn o sut oedd pobl yn teimlo a sut oeddent yn meddwl? I ba raddau mae’n bosibl cael at y ‘gwirionedd’ wrth edrych ar ffynonellau’r cyfnod? Dyma’r materion y bydd y modiwl hwn yn ymdrin â hwy. Wrth edrych ar ffynonellau llenyddol o’r cyfnod, yn enwedig barddoniaeth, byddwn yn trafod pa mor agos maent yn dod â ni at adnabod y bobl a’r gymdeithas a’u cynhyrchodd. Mae corff mawr o farddoniaeth wedi goroesi o Gymru’r oesoedd canol ac maent yn amrywiol iawn yn eu natur. O’r doniol i’r difrifol, o’r rhywiol i’r crefyddol, o ganmol i wawdio, maent i gyd yn ein dysgu am fywyd y cyfnod ac yn taflu goleuni ar agweddau gwahanol o gymdeithas: cyfoeth, eiddo, rhyfela, gwleidyddiaeth, diwylliant, hunaniaeth, credoau, emosiynau a dioddefaint. Wrth astudio’r ffynonellau, yn eu ffurf gwreiddiol ac ar ffurf diweddariadau, daw myfyrwyr i werthfawrogi pwysigwydd ffynonellau llenyddol a’r modd y gellir eu defnyddio i ddeall hanes a chael golwg ar deimladau a syniadau’r gorffennol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy’r seminarau a’r atborth ynglŷn â’r gwaith ysgrifenedig. Ni asesir y medrau llafar yn ffurfiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau defnyddiol gan y modiwl hwn, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig, sgiliau ymchwil, asesu gwybodaeth, ac ysgrifennu mewn ffordd glir a beirniadol. |
Datrys Problemau | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddod o hyd i ac asesu ffynonellau gwreiddiol. Asesir y medr hwn trwy’r gwaith asesiedig. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd fel grwpiau yn y seminarau ac yn dod i asesu eu cyfraniadau eu hunain i ymdrechion y grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dychwelir y gwaith ysgrifenedig mewn tiwtorialau a rhoddir cyngor ar sut i wella medrau ymchwil a medrau ysgrifennu. Ni asesir y medrau hyn. |
Rhifedd | n/a |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir y gallu i astudio, dadansoddi a thrafod amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol o’r cyfnod. |
Sgiliau ymchwil | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y seminarau ac ar gyfer y gwaith asesiedig. Asesir y medrau hyn trwy’r gwaith ysgrifenedig. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau yng nghatalogau llyfrgell a databasau ar-lein. Anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni asesir y sgiliau hyn |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6