Module Information

Cod y Modiwl
MT33110
Teitl y Modiwl
RHAGLENNU LLINOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 19 Awr. (19 x 1 darlith awr)
Seminarau / Tiwtorialau 3 Awr. (3 x 1 dosbarth enghreifftiol)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   2 Awr (arholiad ysgrifenedig)  100%
Asesiad Ailsefyll 2 Awr   2 Awr (arholiad ysgrifenedig)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau’r modiwl, dylai’r myfyrwyr allu:
1. disgrifio maes eang rhaglennu llinol;
2. fformwleiddio sefyllfaoedd real fel problemau rhaglennu llinol;
3. datrys problemau o’r fath gan ddefnyddio Dull Simplecs;
4. gweithredu addasiadau addas i’r dechneg sylfaenol.
5. dehongli canlyniadau o ddatrysiadau rhaglennu llinol wedi’w cynhyrchu gan gyfrifiadur.

Disgrifiad cryno

Prif nôd Rhaglennu Llinol yw i facsimeiddio neu minimeiddio ffwythiant llinol sydd â amryw o newidynnau, yn ôl cyfyngiadau wedi eu mynegi ar ffurf anhafaliadau llinol neu hafaliadau. Mae theori Rhaglennu Llinol bellach wedi hen ymsefydlu, i’r graddau iddo gael ei gynnig fel opsiwn o fewn pecynnau cyfrifiadurol megis taenlenni ar gyfer busnesau. Mae’r modiwl hwn yn cyfuno theori a chymwysiadau’r pwnc yn ogystal a chysidro’r dehongliad i ddatrysiadau’r problemau.

Nod

Cyflwyno techneg bwysig mewn Mathemateg sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y byd gwaith.

Cynnwys

1. CYFLWYNIAD I RAGLENNU LLINOL: Fformiwleiddio problemau a defnydd eang y dechneg. Diffiniadau sylfaenol, gan gynnwys amgrymedd, pwyntiau eithafol, datrysiadau dichonadwy, datrysiadau sylfaenol, newidynnau sylfaenol ac ansylfaenol,datrysiad dichonadwy sylfaenol.
2. Y DULL SIMPLECS: Y syniad cyffredinol; nodweddion algebraidd a geometregol. Theorem Sylfaenol Rhaglennu Llinol. Newidynnau artiffisial; dull M-mawr, dull dwy wedd, Dull Simplex Ddeuol. Newidynnau diarwydd. Beth all fynd o’i le.
3. DADANSODDIAD SENSITIFRWYDD: Dehongli’r darlun simplecs, yn cynnwys dehongliad economaidd lle bo’n briodol. Prisiau deuol. Newid ac elw ffiniol.
4. DEUOLRWYDD: Y broblem ddeuol a’i hysgogiad. Theorem Sylfaenol Deuolrwydd. Y berthynas rhwng datrysiadau i’r broblem wreiddiol a’r broblem ddeuol. Llacrwydd cyflenwol. Dehongliadau o’r broblem Ddeuol.
5. PYNCIAU ARBENNIG: Detholiad o’r pynciau: Gemau swm-sero, rhaglennu cyfanrifau, problemau priodoli, problemau trawsgludo.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6