Module Information

Cod y Modiwl
BG11500
Teitl y Modiwl
AMRYWIAETH ANIFEILIAID
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 2 x 1 awr darlith, Semester 1
Darlithoedd 1 x 1 awr darlith, Semester 2
Sesiwn Ymarferol 4 x 3 awr Dosbarthiadau ymarferol
Sesiwn Ymarferol 4 x 3 awr Dosbarthiadau ymarferol
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesu dosbarth ymarferol 1  10%
Asesiad Semester Asesu dosbarth ymarferol 2  10%
Asesiad Semester 2 gwis MCQ hanner ffordd drwy’r tymor  20%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad (1.5 awr)  60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r hyn a arweiniodd at fethu'r modiwl 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Disgrifio esblygiad a ffylogenedd sylfaenol fertebrata

2. Cymharu a chyferbynnu morffoleg ac anatomi'r prif grwpiau a medru adnabod cynrychiolwyr y grwpiau

3. Trafod addasiadau ffisiolegol yng nghyd-destun amodau amgylcheddol, gan ddefnyddio amrywiaeth helaeth o enghreifftiau.

4. Disgrifio, cymharu a thrafod ymsymudiad, atgynhyrchu, bwydo a threulio ystod o anifeiliaid sy'n berthnasol i gynlluniau gradd y myfyrwyr

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn disgrifio prif grwpiau fertebraidd ac infertebrata anifeiliaid. Rhoddir cyflwyniad i ffisioleg yr anifeiliaid hyn o ran synhwyro'r amgylchfyd, cyhyrau ac ymsymudiad, maeth, endocrinoleg, systemau anadlu cardiofasgwlaidd, a homeostasis. Defnyddir amrywiaeth eang o enghreifftiau i ddangos egwyddorion allweddol. Ar ôl cwblhau'r darlithoedd cyflwyniadol, gall myfyrwyr ddewis dilyn llwybr sŵoleg neu wyddor anifeiliaid.

Cynnwys

1.Cynnwys a gyflwynir i bob myfyriwr (25 darlith):
Bydd y rhan o'r modiwl a gyflwynir i bob myfyriwr wedi'i seilio ar amrywiaeth eang o enghreifftiau er mwyn darlunio'r egwyddorion allweddol. Bioamrywiaeth anifeiliaid (yn cynnwys gorolwg cryno o grwpiau diflanedig allweddol a grwpiau allweddol sydd wedi goroesi); prif grwpiau anifeiliaid infertebrata a fertebraidd; synhwyro'r amgylchfyd (systemau nerfol infertebrata a fertebraidd, yn cynnwys ffisioleg synhwyro); cyhyrau a symudiad; chwarennau a chwarenlifau anifeiliaid (yn cynnwys cyflwyniad i endocrinoleg); cylchrediad; anadlu; osmoreolaeth; thermoreolaeth; bwydo a threulio (yn cynnwys amrywiaeth strategaethau).

2. Myfyrwyr i ddewis UN o'r canghennau a ganlyn yn ogystal:

3.Cangen 1: Swoleg (yn berthnasol ar gyfer swoleg a graddau cysylltiedig; 10 darlith): Ymsymudiad infertebrata a fertebraidd, strategaethau atgynhyrchu, bwydo a threulio.

4.Cangen 2: Gwyddor Anifeiliaid (yn berthnasol ar gyfer Amaethyddiaeth, Gwyddorau Anifeiliaid a graddau cysylltiedig; 10 darlith): Treulio, llaetha, cyhyrau, ymsymudiad, ac atgynhyrchu a ffrwythlonder, mewn perthynas â gwartheg, defaid, ceffylau ac anifeiliaid dof eraill.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol drwy'r arholiad a'r aseiniad, lle caiff y rhain eu hasesu. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Bydd y dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gynllunio, gweithredu, dehongli data ac ysgrifennu am arbrofion ffisioleg a asesir, gan ddefnyddio modelau anifeiliaid. Bydd myfyrwyr yn datblygu dulliau creadigol o gynllunio arbrofion, yn gwerthuso'n feirniadol eu hatebion arfaethedig ac yn llunio cynigion rhesymegol mewn ymateb i her arbrofion.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn paratu/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ymarferol. Bydd angen iddynt drafod eu cynllunio arbrofol a gweithio'n ymarferol fel tîm bychan mewn dosbarthiadau ymarferol. Ni chaiff hyn ei asesu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad, a hynny y tu allan i oriau cyswllt ffurfiol. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. Asesir rhai o'r rhain drwy'r arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad.
Rhifedd Casglu ac archwilio data ar gyfer ansawdd a maint. Dehongli data. Caiff y rhain eu hasesu yn yr aseiniad a rhoddir adborth ar ei gyfer hefyd.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn gallu disgrifio'r egwyddorion ffisiolegol allweddol sydd wrth wraidd bywyd anifeiliaid. Bydd myfyrwyr yn gallu trafod addasiadau ffisiolegol yng nghyd-destun amodau amgylcheddol sy'n newid. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau allweddol wrth drafod sbesimenau microbiolegol. Asesir y rhain yn yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y darlithoedd ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Trafodir sut i wneud hyn yn ystod y darlithoedd. Asesir sgiliau ymchwil drwy'r arholiad a'r aseiniad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ganfod testunau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Asesir technoleg gwybodaeth yn yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4