Module Information

Cod y Modiwl
BG21920
Teitl y Modiwl
BWYD, FFERMIO A'R AMGYLCHEDD
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlithiau: 2 x 2 awr yr wythnos
Sesiwn Ymarferol Dosbarthiadau ymarferol: 3 x 3 awr
Eraill 1 x 3 awr ymweliad
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Papur ymchwil gwyddonol gan ddefnyddio data labordy/maes a gasglwyd ar bwnc sy'n berthnasol i'r modiwl.  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad (2 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro'r prosesau ecolegol sy'n digwydd wrth gynhyrchu bwyd.

2. Trafod y pwysau ar y diwydiant cyflenwi bwyd.

3. Adnabod yr effeithiau ar yr amgylchedd oherwydd dwysáu amaethyddol.

4. Arfarnu effeithiau polisi bwyd a globaleiddio marchnadoedd bwyd.

5. Trafod y cysyniad o gynaliadwyedd wrth gynhyrchu bwyd.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn disgrifio'r wybodaeth wyddonol sydd ei hangen ar gyfer deall yr agweddau ecolegol cymhwysol sy'n rhan o gyfansoddiad systemau cynhyrchu amaethyddol. Bydd y modiwl hwn yn rhoi ymwybyddiaeth i'r myfyriwr o effaith amaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Cynlluniwyd y modiwl er mwyn tynnu sylw at bynciau yn y gadwyn fwyd pobl gan gynnwys globaleiddio marchnadoedd bwyd, homogeneiddio systemau cynhyrchu, cynaliadwyedd, effeithiau dwysáu amaethyddol a dyframaethu ar yr amgylchedd, datblygiad polisi amaethyddol, pryderon y cyhoedd ynghylch cynhyrch bwyd ac iechyd, lles anifeiliaid, a galwadau'r cwsmer a'r boblogaeth ar y diwydiant cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.

Cynnwys

Dynameg y boblogaeth
Rheoli poblogaethau
Sut mae cymunedau’n gweithio
Systemau amlgnydio ac âr
Cynefinoedd ffin a chwalu cynefinoedd
Effeithiau oherwydd dwysau amaethyddol – uniongyrchol/anuniongyrchol
Cynlluniau amaeth-amgylchedd
Cyflenwi bwyd yn y DU
Globaleiddio marchnadoedd bwyd
Effaith polisi ar systemau a'r amgylchedd
Pynciau yn y gadwyn fwyd, bwyd ac iechyd y cyhoedd, lles anifeiliaid, biotechnoleg, biodanwyddau
Meini prawf cynaliadwyedd ac aseseu cynaliadwyedd
Defnyddio adnoddau cynaliadwy mewn amaethyddiaeth – dwysáu cynaliadwy

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol. Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Adnabod ffactorau a allai ddylanwadu ar atebion posibl. Gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd Dadansoddi ystadegol a chyflwyno data labordy/maes
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Llunio papur ymchwil gwyddonol/adroddiadau academaidd priodol
Technoleg Gwybodaeth Cyflwyno gwybodaeth a data. Canfod gwybodaeth ar y we.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5