Module Information

Cod y Modiwl
CY31320
Teitl y Modiwl
MERCHED A LLENYDDIAETH HYD C1500
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810
Rhagofynion
Cymraeg Lefel 1 ( cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 awr
Seminarau / Tiwtorialau 11 awr seminarau
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  100%
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Traethawd: 3000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


1. Byddwch yn gyfarwydd a'r prif ddulliau llenyddol o bortreadu merched a ddefnyddid gan awduron Cymraeg yr Oesoedd Canol; byddwch yn medru gosod y dulliau hyn yn eu cyd-destun diwylliannol a'u cysylltu a'r cefndir Ewropeaidd ehangach.

2. Byddwch a^ gwybodaeth sylfaenol am statws a swyddogaethau'r ferch yng Nghymru'r Oesoedd Canol, ac yn gwybod am natur a gwerth (a chyfyngiadau) y prif ffynonellau a ddefnyddir wrth archwilio'r maes.

3. Byddwch wedi astudio detholiad o destunau allweddol (rhyddiaith a barddoniaeth) naill ai yn y gwreiddiol neu mewn cyfieithiad, a dysgu sut i'w darllen yn feirniadol (e.e. er mwyn dinoethi rhagfarn neu agenda'r awduron).

4. Byddwch wedi cynefino a^ rhai o'r prif ddulliau dadansoddol a ddefnyddir gan feirniaid diweddar yn y maes.

5. Byddwch wedi ennill profiad o gyflwyno eich dadleuon gerbron y dosbarth.


Disgrifiad cryno

Craidd y cwrs yw astudiaeth o destunau llenyddol sy'n rhoi sylw arbennig i ferched. Edrychir ar sut y mae'r testunau hyn yn portreadu merched fel unigolion a'u perthynas ag eraill. Gosodir y testunau yn eu cyd-destun Ewropeaidd.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6