Module Information

Cod y Modiwl
GQ30120
Teitl y Modiwl
GWLEIDYDDIAETH AR WAITH
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 5 x seminar sgiliau 1 awr
Sesiwn Ymarferol Fel y trafodwyd uchod, bydd y modiwl yn cynnwys lleoliad dysgu yn y gweithle. Fel yr esboniwyd, lleoliad gwaith hollol ymarferol yw hwn gydag asesiadau academaidd perthnasol i'r profiad.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x adroddiad 2,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester n Awr   Cyflwyniad  20%
Asesiad Semester 1 x traethawd 1,5000 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll 1 x adroddiad 2,000 o eiriau (os methodd yr adroddiad)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x aseiniad 500 o eiriau y lle cyflwyniad  20%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 1,500 o eiriau (os methodd y traethawd)  30%

Canlyniadau Dysgu

1. Trafod a gwerthuso natur a threfniadaeth y lleoliad gwaith a'i rôl yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Cymru.
2. Trafod ac asesu strwythurau aml-lefel llywodraethiant Cymru, prosesau polisi a deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. Disgrifio a dadansoddi mewn gwaith ysgrifenedig y cyfleoedd sydd gan wahanol sefydliadau i ymwneud a chyfrannu i brosesau polisi a deddfwriaeth yng Nghymru.
4. Gweld y cysylltiad rhwng eu profiadau eu hunain o wleidyddiaeth Cymru a'u hastudiaethau academaidd o wleidyddiaeth Cymru.
5. Adlewyrchu ar natur safonau proffesiynol ac anghenion sgiliau o fewn y sector gyhoeddus, y sector breifat a'r trydydd sector yng Nghymru.
6. Trafod a gwerthuso eu portffolio sgiliau eu hunain.
7. Ystyried sut mae'r modiwl wedi dylanwadau ar eu sgiliau a'u hymwybyddiaeth o'r anghenion sgiliau yn y gweithle.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru drwy gyfleoedd dysgu yn y gweithle a chryfhau'r sgiliau sydd eu hangen yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Cymru. Ceir dwy agwedd ymarferol i'r modiwl. Yn gyntaf, bydd myfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith 6 wythnos gyda chorff sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus, y sector breifat neu'r trydydd sector. Bydd hwn yn sefydliad sydd yn ymwneud yn uniongyrchol â gwleidyddiaeth Cymru o ddydd i ddydd. Bydd y lleoliad gwaith yn digwydd yn ystod cyfnod gwyliau'r haf (naill ai ar ddiwedd semester 2 neu 6 wythnos cyn dechrau'r Semester 1 nesaf). Yn ail, er mwyn atgyfnerthu'r profiadau a gafwyd yn y lleoliad, bydd myfyrwyr yn ystod y Semester 1 dilynol yn dilyn cyfres o seminarau sgiliau gyda swyddogion sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus, y sector breifat neu'r trydydd sector. Bydd y myfyrwyr yn adeiladu ac yn adlewyrchu ar y profiadau hyn mewn asesiadau pwrpasol.

Nod

Rhesymeg academaidd y cynnig: Bwriad y modiwl hwn yw hyrwyddo cysylltiadau cryfach rhwng astudiaeth academaidd o wleidyddiaeth Cymru a'r sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â gweithio yn y maes hwn.

Cynnwys

1. Cynnig i fyfyrwyr gyfleoedd a phrofiadau gwaith fel rhan achrededig o'u hastudiaethau israddedig.

2. Galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o strwythurau aml-lefel llywodraethiant Cymru, proses bolisi a phroses ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dod yn ymwybodol o'r cyfleoedd i ddylanwadu ac ymwneud a gynigir i wahanol gyrff fel rhan o'r prosesau polisi a deddfwriaethol. Mae'n bosib y bydd rhai cyfleoedd gwaith yn cynnig dealltwriaeth dda o'r berthynas wleidyddol rhwng Cymru a Lloegr, yng nghyd-destun Whitehall, San Steffan neu'n fwy penodol i'r sefydliad lleoliad gwaith.

3. Galluogi myfyrwyr i berthnasu'n well eu hastudiaethau academaidd i'r profiad ymarferol o wleidyddiaeth Cymru. Bydd y modiwl yn cyfrannu at yr agenda gyflogadwyedd drwy roi cyfle i fyfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o'r byd gwaith a datblygu'r math o sgiliau sydd eu hangen yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Cymru.

4. Hybu myfyrwyr i berthnasu eu profiadau a'u cynllun gradd i gyd-destun y gweithle, gan felly bontio rhwng Addysg Uwch a chyflogwyr.

5. Datblygu a pherthnasu sgiliau craidd i'r profiad yn y gweithle. Yn ogystal, bydd y seminarau sgiliau yn ehangu eu portffolio a'u hymwybyddiaeth o sgiliau trosglwyddadwy.

6. Cynnig profiadau i fyfyrwyr a fydd yn debygol o'u cynorthwyo i benderfynu ar lwybr gyrfa yn y dyfodol a chryfhau eu hymwybyddiaeth o safonau a sgiliau proffesiynol o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector.


Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyriwr.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y lleoliadau yn help i ddatblygu sgiliau cyflwyno a llafar y myfyrwyr. Bydd yr ystod o brofiadau a geir, yn ogystal â chwblhau'r gwaith asesedig, cynllunio traethawd, pennu fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau nes eu cwblhau yn y pendraw, yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y modiwl hefyd yn codi ymwybyddiaeth y myfyrwyr o'r cyfleoedd gyrfa sydd ar agor iddynt ac yn eu hannog i werthuso'r math o sgiliau yr hoffent eu datblygu er mwyn gwella eu hamcanion gyrfaol.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl; bydd cyflwyno gwaith asesedig ac aseiniadau yn y gweithlu yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd y rheidrwydd i ymchwilio ac ymgymryd â thasgau yn y gweithle hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Caiff gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau ei ddatblygu a'i asesu trwy ofyn iddynt: fabwysiadu ffyrdd gwahanol o edrych ar bethau, trefnu data a rhagweld ateb i broblem, ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol, ystyried achosion tebyg, edrych am batrymau, dosbarthu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd yn rhaid i fyfyrwyr weithio o fewn timoedd yn y gweithle
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y Cynullydd a'r Rheolwr Llinell yn y gweithle. Wedi'i seilio yn y gweithle, disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig. Bydd y rheidrwydd i gadw at ddyddiadau cau gyda'r gwaith ysgrifenedig yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli amser ac adnoddau yn dda. Mae'r pwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau hefyd yn gymorth i fyfyrwyr ystyried eu perfformiad, yn enwedig rwy asesiad sgiliau megis sgiliau cyflwyno.
Rhifedd Yn dibynnu ar yr aseiniadau fydd y myfyrwyr yn eu cyflawni yn y gweithle, mae'n bosib y byddant yn defnyddio gwybodaeth ystadegol a datblygu profiad ymarferol o ddadansoddi data rhifyddol ac felly datblygu sgiliau dadansoddol sylfaenol.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno gwaith asesedig ac aseiniadau yn y gweithle ac yn yr adran yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil addas a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn annog sgiliau ymchwil. Bydd paratoi'r ymchwil hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6