Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 11 Sesiwn 2 awr (Darlith-Seminar) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad a welwyd eisoes | 40% |
Asesiad Semester | Cyfrannu i waith tîm | 15% |
Asesiad Semester | 1 x Traethawd 2,000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | 1 x Portffolio Electronig | 15% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
- Asesu effaith yr economi fyd-eang ar wladwriaethau, cymdeithasau ac economïau'r Trydydd Byd;
- Asesu effaith cysylltiadau gwleidyddol rhyngwladol ar wladwriaethau, cymdeithasau ac economïau'r Trydydd Byd;
- Asesu effaith gwrthdrawiadau ag agweddau diwylliannol ar wladwriaethau, cymdeithasau ac economïau'r Trydydd Byd;
- Ystyried ai ffactorau economaidd, gwleidyddol neu ddiwylliannol sy'n effeithio fwyaf ar gysylltiadau Gogledd-De, a
- Thrafod yn ddeallusol gwestiynau normadol sy'n gofyn a ddylai'r berthynas Gogledd-De gael ei newid neu ei hail-strwythuro.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl yw deall achosion a deinameg y newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd yn y byd sy'n datblygu, ac archwilio lle'r Trydydd Byd o fewn y system ryngwladol gyfoes drwy edrych ar ei gysylltiadau â'r byd datblygedig, a'r modd y mae'r cysylltiadau yma'n dylanwadu a strwythuro gwladwriaethau a chymdeithasau'r Trydydd Byd.
Sgiliau trosglwyddadwy
Bydd y modiwl hwn yn cynnig y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy. Drwy gydol y cwrs, bydd modd ymarfer a gwella sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal â rhifedd sylfaenol a rheoli amser. Mewn darlithoedd, bydd modd ymarfer galluoedd gwrando a chymryd nodiadau yn ogystal â sgiliau dadansoddi. Bydd paratoi at seminarau yn hybu sgiliau ymchwil gan gynnwys yn benodol y defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Mewn seminarau, bydd cyfleoedd i ymarfer sgiliau dadansoddi, gwrando, esbonio, trafod a datrys problemau. Bydd sawl cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a chyflwyno. Bydd paratoi traethawd yn ymarfer sgiliau ymchwil annibynnol, ysgrifennu a defnyddio Technoleg Gwybodaeth, a bydd yr arholiad yn asesu'r sgiliau hyn o dan amodau amser cyfyngedig.
Cynnwys
Sesiwn 2 Damcaniaethau Datblygiad
Sesiwn 3 Datblygiad Ôl-drefedigaethol
Sesiwn 4 Ethno-wleidyddiaeth a Chenedlaetholdeb
Sesiwn 6 Crefydd a Gwleidyddiaeth
Sesiwn 7 Hawliau Dynol a'r Gorchudd Mwslimaidd
Sesiwn 8 Gwladwriaethau sy'n Methu
Sesiwn 9 Masnach Deg
Sesiwn 10 Materion Amgylcheddol
Sesiwn 11 Casgliadau ac Adolygu
Nod
Ceir tair elfen i nodau ac amcanion dysgu'r modiwl hwn. Yn gyntaf, mae'r modiwl yn edrych ar le'r byd sy'n datblygu o fewn yr economi fyd-eang drwy ddadansoddi'r berthynas rhwng gwladwriaethau a marchnadoedd yn sgil gweld masnach rydd neu deg fel cysyniadau hollbwysig i'r Trydydd Byd a'r berthynas Gogledd-De. Yn ail, mae'r modiwl yn astudio agweddau cymdeithasol a diwylliannol y byd sy'n datblygu er mwyn gweld sut mae portreadau diwylliannol y Gorllewin o'r Trydydd Byd yn effeithio ar y berthynas Gogledd-De, ac yn edrych ar wrthdaro diwylliannol, crefyddol ac ethno-genedlaetholgar o fewn y byd sy'n datblygu. Yn drydydd, mae'r modiwl yn canolbwyntio'n fwy uniongyrchol ar faterion byd-eang; e.e. gwladwriaethau sy'n methu a datblygiad cynaliadwy, gan edrych a yw natur newidiol gwleidyddiaeth fyd-eang wedi trawsffurfio gwleidyddiaeth a chymdeithasau'r Trydydd Byd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6