Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 darlith wythnosol x 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar (pob pythefnos) x 50 munud |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Papur arholiad amser rhydd Papur arholiad amser rhydd deuddydd dau ateb hyd at 2,000 o eiriau yr un. | 100% |
Arholiad Semester | Papur arholiad amser rhydd Papur arholiad amser rhydd deuddydd dau ateb hyd at 2,000 o eiriau yr un. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos ymwybyddiaeth o ddatblygiadau pwys yn hanesyddiaeth y Gorllewin
gwahaniaethu'n ddeallus rhwng traddodiadau ac agweddau hanesyddiaethol
ystyried yn feirniadol gwaith haneswyr unigol a chymunedau o haneswyr
esbonio datblygiadau hanesyddiaethol yng nghyd-destun symudiadau deallusol a newid sefydliadol, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol
ystyried yn fwy beirniadol ysgrifennu hanesyddol a astudiwyd fel rhan o'r cynllun gradd
datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig drwy waith seminar a'r arholiad.
Disgrifiad cryno
Bu trai a llanw cyson o fewn y ddisgyblaeth hanesyddol, gyda gwahanol syniadaeth, agwedd a methodoleg yn datblygu ymhlith ymchwilwyr ac awduron hanes. O fewn y modiwl hwn, edrychir ar y newidiadau a datblygiadau hyn o fewn y ddisgyblaeth hanesyddol drwy ganolbwyntio ar nifer o enghreifftiau penodol a ddaeth yn amlwg yn ystod y cyfnod y bu hanes yn bwnc academaidd, o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Olrheinir nifer o gymunedau o haneswyr a ddatblygodd yn ddylanwadol ar wahanol adegau, gan rannu agwedd cyffredin a dulliau tebyg, gan ystyried beth oedd eu tarddiad, eu cymhellion a maint eu dylanwad.
Nod
Astudia'r modiwl hwn y modd y digwydd newidiadau o fewn ymchwil ac ysgrifennu hanes. Y mae'n annog myfyrwyr i ystyried sut y mae haneswyr yn mynd ati i astudio ac ysgrifennu hanes, fel sylfaen ar gyfer eu gwaith mewn modiwlau mwy penodol o ran amser ac ardal.
Cynnwys
Introduction: Paradigm Shifts and the Study of History
Namier and Namierism
The Annales `School' and the search for a `total history'
Defending the Revolution: History, Politics and the USSR
Britain: The Rise of Economic and Social History
Social History in Britain since the Second World War
Karl Marx and British 'Marxist' historians: The Emergence of `History from Below'
Women's and Gender History
Cultural History and the Linguistic Turn
The Postmodernist Challenge
Seminarau (pob pythefnos). 5 sesiwn allan o'r pynciau canlynol:
1. Newid patrwm wrth astudio hanes
2. Namier a Namieraeth
3. Ysgol yr Annales a `hanes cyflawn'
4. Amddiffyn y chwyldro: Hanes, gwleidyddiaeth a'r Undeb Sofietaidd
5. Twf hanes cymdeithasol ac economaidd.
6. Hanes cymdeithasol ym Mhyrdain ers yr Ail Ryfel Byd
7.Karl Marx a haneswyr Marcsaidd ym MHrydain: `Hanes o'r gwaelod'
8.Hanes Menywod a Rhywedd
9. Hanes diwylliannol
10. Her ol-foderniaeth
Traddodir y darlithoedd yn Saesneg a chynhelir y seminarau yn Gymraeg .
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu dealltwriaeth o berthynas hanes proffesiynol a disgyblaethau eraill a'r gwahanol ddulliau ac agweddau y gall haneswyr eu mabwysiadu wrth fynd ati i ymchwilio ac ysgrifennu hanes. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6