Module Information

Cod y Modiwl
HA32120
Teitl y Modiwl
DWEUD Y GWIR?: CEISIO LLEISIAU’R OESOEDD CANOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
HY32220, HY32320, HY32520, HY32720, HY32820, HY33320, HY33420, HY33520, HY34420, HY34620, HY34720, HY34820
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd
Seminarau / Tiwtorialau 10 seminar x 2 awr + tiwtorialau traethawd unigol (10-15 munud)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Supplementary Examination  60%
Asesiad Ailsefyll Supplementary Assessment  40%
Asesiad Semester Semester Assessment  2 draethawd (1,500 o eiriau yr un)  40%
Asesiad Semester Semester Assessment  1 prosiect (5,000 o eiriau)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno

Sut mae clywed lleisiau’r oesoedd canol? A oes posib cael syniad iawn o sut oedd pobl yn teimlo a sut oeddent yn meddwl? I ba raddau mae’n bosibl cael at y ‘gwirionedd’ wrth edrych ar ffynonellau’r cyfnod? Dyma’r materion y bydd y modiwl hwn yn ymdrin â hwy. Wrth edrych ar ffynonellau llenyddol o’r cyfnod, yn enwedig barddoniaeth, byddwn yn trafod pa mor agos maent yn dod â ni at adnabod y bobl a’r gymdeithas a’u cynhyrchodd. Mae corff mawr o farddoniaeth wedi goroesi o Gymru’r oesoedd canol ac maent yn amrywiol iawn yn eu natur. O’r doniol i’r difrifol, o’r rhywiol i’r crefyddol, o ganmol i wawdio, maent i gyd yn ein dysgu am fywyd y cyfnod ac yn taflu goleuni ar agweddau gwahanol o gymdeithas: cyfoeth, eiddo, rhyfela, gwleidyddiaeth, diwylliant, hunaniaeth, credoau, emosiynau a dioddefaint. Wrth astudio’r ffynonellau, yn eu ffurf gwreiddiol ac ar ffurf diweddariadau, daw myfyrwyr i werthfawrogi pwysigwydd ffynonellau llenyddol a’r modd y gellir eu defnyddio i ddeall hanes a chael golwg ar deimladau a syniadau’r gorffennol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy’r seminarau a’r atborth ynglŷn â’r gwaith ysgrifenedig. Ni asesir y medrau llafar yn ffurfiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau defnyddiol gan y modiwl hwn, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig, sgiliau ymchwil, asesu gwybodaeth, ac ysgrifennu mewn ffordd glir a beirniadol.
Datrys Problemau Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddod o hyd i ac asesu ffynonellau gwreiddiol. Asesir y medr hwn trwy’r gwaith asesiedig.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd fel grwpiau yn y seminarau ac yn dod i asesu eu cyfraniadau eu hunain i ymdrechion y grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dychwelir y gwaith ysgrifenedig mewn tiwtorialau a rhoddir cyngor ar sut i wella medrau ymchwil a medrau ysgrifennu. Ni asesir y medrau hyn.
Rhifedd n/a
Sgiliau pwnc penodol Datblygir y gallu i astudio, dadansoddi a thrafod amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol o’r cyfnod.
Sgiliau ymchwil Bydd disgwyl i’r myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y seminarau ac ar gyfer y gwaith asesiedig. Asesir y medrau hyn trwy’r gwaith ysgrifenedig.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau yng nghatalogau llyfrgell a databasau ar-lein. Anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni asesir y sgiliau hyn

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6