Module Information

Cod y Modiwl
RG23420
Teitl y Modiwl
SYSTEMAU CYNHYRCHU ANIFEILIAID
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlith 2 x 1 awr y wythnos
Eraill 5 x ymweliad 4 awr
Sesiwn Ymarferol 3 Dosbarth ymarferol x 3 awr
Darlithoedd Darlith 2 x 1 awr y wythnos
Eraill 5 x ymweliad 4 awr
Sesiwn Ymarferol 3 Dosbarth ymarferol x 3 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad godro  25%
Asesiad Semester Aseiniad cynhyrchu cig  25%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad semester 2 awr  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r hyn a arweiniodd at fethu'r modiwl  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Roi disgrifiad meintiol o systemau cynhyrchu anifeiliaid ac adnabod y rhyngweithio rhwng elfennau'r system

2. Adnabod prif rwystrau cynhyrchiant

3. Adnabod rôl ymchwil yn natblygiad systemau cynhyrchu anifeiliaid

4. Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw er mwyn adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant anifeiliaid, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.

Cynnwys

Strwythur diwydiannau cynhyrchu eidion, defaid, llaeth a moch y DU.
Rheoli bwyd gwartheg godro, sgôr cyflwr, defnyddio porfa ac anoddau bwyd eraill
Datblygiad, strwythur a swyddogaeth cadeiriau, trin cyfansoddiad llaeth
Bridio gwartheg godro
Magu heffrod a ffrwythlondeb y fuches
Iechyd gwartheg godro yn cynnwys anwylderau metabolig, cloffni, TB, Clwy'r Traed a'r Genau a Thafod Glas
Systemau cynhyrchu ar gyfer defaid mynydd, tiroedd uchel a thiroedd isel
Rheoli atgynhyrchu'r famog a'r hwrdd
Bridio defaid
Strategaethau bwydo'r famog yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod llaetha
Iechyd y famog feichiog a'r famog sy'n llaetha ac ŵyn sy'n tyfu
Systemau cynhyrchu lloi sugno, strategaethau bwydo a rheoli atgynhyrchu
Magu lloi
Systemau cynhyrchu cig eidion llaeth dwys, lled ddwys a helaeth
Systemau cynhyrchu moch
Rheoli'r hwch gyfnewid
Strategaethau bwydo ar gyfer perfformiad oes gorau'r hwch sy'n bridio
Rheoli'r hwch drwy'r cyfnod bridio, beichiogrwydd, esgor, llaetha a'r cyfnod sych.
Rheoli'r mochyn newyddanedig, wedi'i ddiddyfnu, sy'n tyfu ac sy'n gorffen.
Iechyd a lles moch.
Sicrhau'r ansawdd cynnyrch gorau.
Cynlluniau yswiriant ffermydd a'u lles.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol.
Datrys Problemau Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu.
Rhifedd Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5