Module Information

Cod y Modiwl
BG12410
Teitl y Modiwl
Sgiliau Astudio a Chyfathrebu
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 9 x darlith 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 6 x dosbarth tiwtorial 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd ffurfiannol.  10%
Asesiad Semester Adroddiad prosiect (1500 gair).  70%
Asesiad Semester Cyflwyniad (5 munud).  20%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.

2. Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.

3. Llunio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil a chyflwyno dadleuon academaidd.

4. Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.

5. Datblygu ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi ymddwyn yn annheg).

6. Dehongli a defnyddio data.

7. Arddangos hyfedredd sylfaenol wrth ddefnyddio cyfrifiadur

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cyflwyno'r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig ar y modiwl fydd cyflwyno ystod o bynciau ymchwil megis gwerthuso tsetunau, asesu data ansoddol a mesurol a chyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn weledol. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy ystod o ffurfiau gan gynnwys darlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial ac e-ddysgu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn cael profiad o gyfathrebu ysgrifenedig a llafar, yn enwedig wrth ysgrifennu traethodau mewn sesiynau tiwtorial.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu sgiliau dadansoddi a deallusol, yn gwella eu sgiliau astudio ac yn yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y Brifysgol ac mewn gyrfa yn y dyfodol. Bydd Adolygu Cynnydd Academaidd a Phersonol yn rhan o'r modiwl hwn.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn defnyddio dulliau a ddysgwyd mewn darlithoedd a dosbarthiadau tiwtorial i ddatrys problemau dadansoddi data a dehongli canlyniadau.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau yn ystod y dosbarthiadau tiwtorial ac yn cael eu hannog i wella eu sgiliau o weithio mewn tîm. Er nad asesir hyn yn ffurfiol, rhoddir adborth i bob myfyriwr.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy gydol y modiwl, anogir myfyrwyr i adnabod eu cryfderau a'u gwendidau personol o ran sgiliau astudio ac ymchwil a bydd deunyddiau ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sy'n dymuno gwella gwendidau penodol ymhellach. Rhoddir adborth prydlon a manwl er mwyn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio i wella eu perfformiad personol. Er nad asesir hyn yn ffurfiol, rhoddir adborth am eu datblygiad i bob myfyriwr.
Rhifedd Bydd y modiwl yn cynnwys dosbarthiadau tiwtorial ar reoli data a dadansoddi a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar ddefnyddio gwybodaeth rifyddol a dehongli canlyniadau.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau ymchwilio testunau yn rhan o'r darlithoedd a'r dosbarthiadau tiwtorial ar gasglu a gwerthuso gwybodaeth. Byddant yn ymarfer y sgiliau hyn drwy asesiad ysgrifenedig. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael profiad o resymu anwythol a chasgliadol, ffurfio damcaniaeth a dehongli data sylfaenol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd technoleg gwybodaeth yn adnodd hanfodol ar gyfer holl agweddau'r cwrs ac erbyn diwedd y modiwl, bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn gyfarwydd â meddalwedd geirbrosesu, rheoli data a chyflwyno sylfaenol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4