Module Information

Cod y Modiwl
DA10210
Teitl y Modiwl
Cefn Gwlad a'r Ddinas
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Fel arfer, Daearyddiaeth Safon Uwch/Safon Uwch Atodol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 hours
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   100%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  • gwerthfawrogi'r newid a'r gwrthdaro sydd yn nodweddu ardaloedd gwledig
  • arddangos dealltwriaeth dda o'r materion a'r prosesau sydd yn ymwneud a daearyddiaeth newid yng nghefn gwlad
  • defnyddio amrediad eang o ffynonellau a dulliau ar gyfer astudio'r amgylchfyd gwledig o bersbectif daearyddol.

Cynnwys

Rhan A - Daearyddiaethau Cefn Gwlad
Darlith 1 - Cyflwyniad
Darlith 2 - Newidiadau economaidd a chefn gwlad
Darlith 3 - Newidiadau demograffig ac arferion beunyddiol cefn gwlad
Darlith 4 - Gwrthdaro a gwrthdystio gwledig
Darlith 5 - Cadwraeth wledig

Rhan B - Daearyddiaethau Trefol
Darlith 6 - Globaleiddio a newidiadau economaidd yn y ddinas
Darlith 7 - Treuliant, bonheddigeiddio, a pholareiddio cymdeithasol yn y ddinas
Darlith 8 - Adfywio a brandio'r ddinas: partneriaeth a phreifateiddio
Darlith 9 - Rheoli'r dinas: polisi, grym, a graddfa
Darlith 10 - Casgliadau: oblygiadau polisi ac adolygu

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yma yw cyflwyno myfyrwyr i ddaearyddiaeth wledig trwy gyfrwng arolwg eang o faterion sydd yn ymwneud a phobl a chefn gwlad. Bydd y modiwl yn caniatau myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o gefn gwlad fel amgylchfyd cymhleth a deinamig, gan ddefnyddio ymdriniaethau damcaniaethol ac empirig. Cyflwynir myfyrwyr i nifer o ffynonellau a dulliau ar gyfer astudio ardaloedd gwledig o bersbectif daearyddol.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4