Module Information

Cod y Modiwl
GF36030
Teitl y Modiwl
Cyfraith Camwedd
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
GF10110 or LA10110 or GF30110 or LA30110 or LA15710
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr yn Saesneg
Seminarau / Tiwtorialau 8 awr. 4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Arholiad  . Arholiad Llyfr Agored yw hwn. Caiff ymgeiswyr ddod ag unrhyw ddeunydd i mewn i'r arholiad, ac eithrio llyfrau llyfrgell.  100%
Arholiad Semester 3 Awr   Arholiad  ar ddiwedd Semester 2. Arholiad Llyfr Agored yw hwn. Caiff ymgeiswyr ddod ag unrhyw ddeunydd i mewn i'r arholiad, ac eithrio llyfrau llyfrgell.  100%

Canlyniadau Dysgu

Mae cyfraith camwedd yn gyfrwng delfrydol i feithrin sgiliau dadansoddi sy'r rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau dadansoddi rhesymegol, y gallu i gymhwyso gwybodaeth gyfreithiol wrth ddatrys problemau unigol, gwerthfawrogiad o faterion polisi, y gallu i ddefnyddio iaith yn fanwl gywir ac yn effeithiol, a'r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cymhleth.

Disgrifiad cryno

Pwnc dynamig yw cyfraith camwedd sy'n trafod amrywiaeth helaeth o brofiadau dynol. Wrth astudio'r pwnc fe gewch olwg nid yn unig ar gangen hanfodol o'r gyfraith, ond hefyd ar y modd y mae'r gyfraith yn cael effaith ar lawer o weithgareddau cymdeithasol ac economaidd. Nid pwnc sych a haniaethol mo hwn, ond un sy'n dylanwadau ar fywyd beunyddiol y cartref a byd busnes fel ei gilydd. Oherwydd hyn mae cydymwneud bywiog rhwng egwyddorion cyfreithiol a pholisi cymdeithasol ac economaidd. Mae Cyfraith Camwedd yn bwnc gorfodol i fyfyrwyr LLB, ac yn bwnc craidd er mwyn cael eich eithrio o Ran 1 o arholiadau Cymdeithas y Gyfraith.

Disgrifiad cyffredinol
Dechreuwn trwy astudio Cyfraith Tresmasiad, ac yna symudwn at Esgeuluster yn ei holl agweddau. Bydd myfyrwyr yn gweld nid yn unig sut mae polisiau cymdeithasol ac economaidd wedi cael effaith allweddol ar bwnc atebolrwydd am fai ac amrediad posibl yr atebolrwydd hwnnw, ond hefyd sut maent wedi effeithio ar strwythur dadansoddol camwedd Esgeuluster. Rhan fywiog o'r gyfraith yw hon. Mae wedi datblygu llawer yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae'n faes dadleuol o hyd. Mae'r cwrs ynogystal yn delio a chamweddau eraill, yn enwedig y rhai sy'r ymwneud a dyletswyddau perchennog eiddo, megis niwsans. Mae'r cwrs yn ei grynswth yn trafod sut mae'r gyfraith yn gosod safonau ymddygiad personol a masnachol ar osgoi difrod, ac mae'n hanfodol nid yn unig yn ei rinwedd ei hun, ond hefyd yng nghyswllt llawer o feysydd eraill y gyfraith.

Nod

Yn ogystal a rhoi sylfaen gadarn yng nghyfraith camwedd, mae'r cwrs yn cynnig dealltwriaeth hanfodol o'r modd y mae'r gyfraith gyffredin yn gweithredu. Dyma gyfrwng perffaith i feithrin yn arbennig sgiliau dadansoddi sy'n rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Mae'n cynnig hyfforddiant mewn dadansoddi problemau cymhleth a'r gallu i feddwl yn rhesymegol, yn ogystal a deall effeithiau ehangach y gyfraith a sut mae penderfyniadau wedi eu gwneud o blaid neu yn erbyn atebolrwydd. Mae'n bwnc sy'n rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ac o'r herwydd byddwch yn meithrin sgiliau da mewn gwneud ymchwil i achosion, ar bapur a thrwy chwilio drwy amrywiaeth o gronfeydd data. Fe wnewch hyn nid yn unig wrth weld y rheolau cyfreithiol a sefydlwyd gan yr achosion, ond hefyd wrth ddeall sut y datblygir cynsail a sut y mae egwyddorion cyffredinol yn cael eu creu.

Cynnwys

Dysgu
Dysgir Cyfraith Camwedd trwy gyfrwng darlithiau a seminarau. Bydd y darlithiau'n cynnig golwg ar strwythur y gyfraith a sut y gellir dadansoddi achosion i greu'r egwyddorion sydd y tu ol i'r pwnc. Gan fod Cyfraith Camwedd yn rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ni fydd y darlithiau'n cynnig datganiad diffiniadol o reolau'r gyfraith ond yn hytrach bydd myfyrwyr yn cael eu harwain i wneud eu hasesiad eu hunain o ystyron yr achosion. Mae darllen yr achosion a argymhellwyd yn hanfodol, a bydd seminarau'n cynnig fforwm i drafod sut mae deall a chymhwyso cyfraith achosion yn gywir. Trwy hynny bydd y myfyrwyr yn magu profiad o egluro syniadau cymhleth. Bydd cyfle hefyd i ysgrifennu dau draethawd yn ystod y flwyddyn, a bydd mynegiant eglur a dadansoddi gramadegol yn angenrheidiol.

Maes Llafur:

1. Egwyddorion Cyffredinol

2. Cyd-destun Cymdeithasol ac Economaidd Cyfraith Camwedd

TRESMASIAD

3. Tresmasiad ar yr Unigolyn
(a) Curo ac ymosod
(b) Peri gofid emosiynol yn fwriadol
(c) Camgarcharu
(ch) Amddiffyniadau i dresmasiad ar yr unigolyn

4. Tresmasiad ar Dir

5. Ymyrraeth Fwriadol a Theclynnau
(a) Tresmasiad ar Nwyddau
(b) Trosiant

6. Tresmasiad ac Esgeuluster

ESGEULUSTER - YR EGWYDDORION SYLFAENOL

7. Dyletswydd Gofal
Ystyr dyletswydd

8. Safon Gofal
(a) Y dyn rhesymol
(b) Sgil y diffynnydd
(c) Ffactorau eraill
(ch) Eithriadau i wir wrthrychedd

9. Prawf o Esgeuluster

10. Achosiaeth a Phellenigrwydd Difrod
(a) Achosiaeth
(b) Pellenigrwydd difrod


ESGEULUSTER - PROBLEMAU DYLETSWYDD PELLACH

12. Atebolrwydd Cyrff Cyhoeddus

13. Sioc Nerfol

14. Camddatganiad Esgeulus

15. Colled Economaidd - Ymyrraeth esgeulus a mantais arfaethedig

16. Atebolrwydd Cynhyrchion
(a) Contract
(b) Esgeuluster
(c) Deddf Gwarchod Defnyddwyr 1987

17. Plant Heb eu Geni

AMDDIFFYNIADAU

18. Esgeuluster Cyfrannol

19. Caniatad
(a) Effaith hysbysiad
(b) Caniatad - volenti non fit injuria

ATEBOLRWYDD DIRPRWYOL

20. Atebolrwydd Dirprwyol
(a) Y theori gyfreithiol
(b) Natur `cyflogaeth?
(c) Cwrs cyflogaeth
(ch) Contractwyr annibynnol/yr hunangyflogedig

CAMWEDDAU PELLACH

21. Tor-ddyletswydd Statudol

22. Atebolrwydd Deiliad
(a) Atebolrwydd i ymwelwyr
(b) Atebolrwydd i dresmaswyr ac eraill nad ydynt yn ymwelwyr

23. Niwsans
(a) Niwsans cyhoeddus
(b) Niwsans preifat

24. Atebolrwydd Caeth: Rylands v Fletcher

25. Atebolrwydd am Danau

26. Atebolrwydd am Anifeiliaid

27. Difenwad

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Kidner, Richard (2010) Casebook on Torts 11th ed. Oxford University Press Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Cooke, John (2009) Law of Tort 9th ed. Longman Chwilio Primo Street, Harry (2007) Street on Torts 12th ed. Oxford University Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6