Module Information

Cod y Modiwl
HA11320
Teitl y Modiwl
Rhyfel, Cymdeithas a'r Cyfryngau, 1914 - 2004
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 x 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 5 seminar a dosbarthiadau tiwtorial unigol
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   ARHOLIAD YSGRIFENEDIG  70%
Asesiad Semester 1 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  30%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Meddiannu ac adolygu'n feirniadol y wybodaeth hanesyddol sydd yn trafod digwyddiadau allweddol, cysyniadau a phroblemau yn ymwneud a rhyfel, cymdeithas a'r cyfryngau yn yr ugeinfed ganrif (o'r Rhyfel Byd Cyntaf i'r cyfnod presennol).

Amgyffred y gwahanol ddadleuon a dadansoddiadau hanesyddol o'r testunau dan sylw

Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol.

Gallu dehongli hanes mewn gwahanol ffyrdd a gallu asesu rhagoriaethau ac elfennau gwahanol ddehongliadau.

Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol.

Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp

Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o brif nodweddion rhyfel a chanlyniadau cymdeithasol rhyfel o 1914 hyd y presennol. Bu i natur ac effeithiau rhyfel ddwysau'n ddirfawr yn yr ugeinfed ganrif, gan esgor ar y syniad o ryfel ddiymatal, sef bod aelodau cymdeithas i gyd yn cael eu dwyn i mewn i ymgyrchoedd rhyfelgar. Nodweddwyd hyn nid yn unig yng nghyd-destun y ddau ryfel byd ond yn ogystal yn y rhyfeloedd rhanbarthol a gafwyd ar draws y byd, e.e Corea, Fiet-nam a'r Gwlff, yn y rhyfeloedd cartref megis yn Rwsia, Sieina, gwledydd De America, y Swdan ac yn y blaen a'r ymgyrchoedd terfysgol megis yng Ngogledd Iwerddon, Gwlad y Basg a'r Dwyrain Canol. Ymhlith y pynciau a drafodir fydd dinistr rhyfel, effeithiau seicolegol rhyfel ar filwyr, effaith colli anwyliaid mewn rhyfel, rol propaganda adeg rhyfel ac wrth baratoi am ryfel; rhan y wladwriaeth adeg rhyfel; canlyniadau rhyfel, megis yn wleidyddol, yn gymdeithasol yn achos statws merched a'r difreintiedig; ac ym mherthynas gwledydd a'i gilydd; heddychiaeth a gwrthwynebiadau eraill i ryfel. Rhoddir sylw arbennig i amgylchiadau yng ngwledydd Prydain, Ewrop ac America

Nod

Amcan y modiwl hwn yw ystyried effaith rhyfel ar y gymdeithas. Mae'r modiwl hwn yn edrych ar natur ac effaith rhyfela yn yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Cynnwys

1 Cyflwyniad: Dehongliad Marwick - Rhyfel Diymatal a Newid Cymdeithasol
2 Rhyfel a Dinistr: Vietnam
3 Rhyfel a Chwyldro : Rwsia
4 Profiad Milwyr o'r Rhyfel Byd Cyntaf
5 Rhyfel a Menywod: Gwledydd Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
6 Rhyfel a Menywod: y deunydd gweledol
7 Rhyfel a Menywod: Prydain ac Ewrop 1939-45
8 Y Ffrynt Cartref: y deunydd gweledol
9 Rhyfel a'r Cyfryngau 1914-1945 - Propaganda Prydeinig - Propaganda Natsiaidd
10 Rhyfel a'i effaith: Twf y Wladwriaeth ym Mhrydain
11 Rhyfel a newid cymdeithasol: diwygiadau cymdeithasol ym Mhrydain 1939-51
12 Rhyfel a newid cymdeithasol: Ewrop 1939-51
13 Rhyfel a'i effaith wleidyddol: y Rhyfel Oer
14 Y Cof, y galar ac euogrwydd y sawl a oroesodd
15 Rhyfel o fewn Heddwch: Gogledd Iwerddon - Rhyfel, dinistr a glanhau ethnig er 1945 - Rhyfel, y lluoedd arfog a'r cyfryngau er 1945
16 MudiadauGwrthwynebu rhyfel: Prydain
17 Mudiadau Gwrthwynebu rhyfel: Yr Unol daleithiau
18 Casgliadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth fanwl o nifer o ffynonellau; datblygu'r gallu o ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Best, Geoffrey (1994) War and law since 1945 Clarendon Press Chwilio Primo Coates, A J (1997) The ethics of War Chwilio Primo Hinde, R A & Watson, Helen E. (eds) (1994) War : a cruel necessity? London ; New York : I.B. Tauris New York Chwilio Primo Howard, Michael (1976) War in European history Oxford University Press Chwilio Primo Howard, Michael Eliot (1978) War and the liberal conscience London : Temple Smith Chwilio Primo Keegan, John (1994) A brief history of warfare : past, present, future University of Southampton Chwilio Primo Keegan, John (1991) The face of battle London : Pimlico Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4