Module Information

Cod y Modiwl
HAM0210
Teitl y Modiwl
Sgiliau a Ffynonellau'r Hanesydd - Cyflwyniad
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 4 x seminar 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester UN PROSIECT BYR, 2000 O EIRIAU  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod a deall corff o wybodaeth ym maes hanesyddiaeth a methodoleg hanesyddol

Adnabod a defnyddio gwahanol berspectifau ar y defnydd o ffynonellau hanesyddol cynradd

Cymharu a gwerthuso ystod o ffyrdd o ddefnyddio ffynonellau cynradd, yng nghyd-destun cynllunio prosiect ymchwil

Darllen, a gwerthuso llenyddiaeth eilradd sy'n rhoi cyd-destun deallusol a haniaethol gogyfer ag ymchwil hanesyddol

Gweithio'n annibynol a gydag eraill

Disgrifiad cryno

Tra bydd myfyrwyr sydd a diddordeb mewn cyfnodau gwahanol eisiau archwilio nifer o ffynonellau sy'n arbennig o berthnasol i'w ymchwil hwy, mae rhai problemau a chysyniadau, er enghraifft gwerth y fethodoleg gymharol, yn gyffredin i haneswyr o bob cyfnod ac arbenigedd. Dyluniwyd y modiwl craidd 10-credyd yma, felly, i alluogi haneswyr o bob math o gynlluniau gradd Meistr o fewn yr Adran i archwilio'r fath bynciau mewn cyfres fer o seminarau. Bydd y modiwl yn cynorthwyo'r myfyrwyr i addasu o waith is-raddedig i waith ol-raddedig, ac yn cynnig cyfle iddynt i osod eu gwaith o fewn fframwaith deallusol a methodolegol eang o'r cychwyn cyntaf.

Nod

Mae'n rhaid i haneswyr ar lefel Meistr fedru ymdrin a sawl math o ffynhonell graidd, a defnyddio nifer o wahanol sgiliau wrth astudio'u pwnc. Pwrpas y modiwl yma yw cyflwyno myfyrwyr i gwestiynau methodolegol a dadansoddol sy'n codi wrth ddefnyddio gwahanol fathau o ffynonellau.

Cynnwys

Seminarau:
1) Gweithio gyda dogfen
2) Ffynonellau anllenyddol
3) Hanes Cymharol
4) Hanes Diwylliannol Newydd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa
Datrys Problemau Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu ymwybyddiaeth o'r angen i osod ymchwil hanesyddol o fewn fframwaith hanesyddiaethol a methodolegol gadarn.
Sgiliau ymchwil Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7