Module Information

Cod y Modiwl
HCM1720
Teitl y Modiwl
Iechyd, Meddygaeth a Chymdeithas yng Nghymru, 1830-1951
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
WHM1730

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau Seminar rhagarweiniol + 6 seminar x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD 3,500 O EIRIAU  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth o themau a dulliau a ddefnyddir o fewn hanes meddygaeth

Deall a gwerthuso datblygiadau diweddar o fewn hanes meddygaeth

Deall y defnydd o dystiolaeth berthnasol wrth greu dadleuon hanesyddol ynglyn a meddygaeth a chymdeithas

Arddangos gallu i ddefnyddio themau methodolegol yn eu gwaith ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw galluogi myfyrwyr i astudio un o brif themau hanes cymdeithasol modern - sef, iechyd a meddygaeth - mewn cyd-destun Cymreig. Yn gyntaf, bydd y modiwl yn astudio canlyniadau newidiadau economaidd a chymdeithasol ar iechyd. Astudir ymatebion i'r newidiadau hyn, yn nhermau syniadau gwyddonol a strategaethau sefydliadol. Ystyrir iechyd meddwl, gan gynnwys agweddau cymdeithasol tuag at wallgofrwydd a datblygiad gwallgofdai, ac wedyn datblygiad ysbytai yng Nghymru. Yn olaf, dadansoddir canlyniadau dirwasgiad economaidd y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd a'r cyfundrefnau meddygol unigryw a geid yn ne Cymru a oedd mor bwysig i ddatblygiad y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol

Nod

Bwriad y modiwl yw galluogi myfyrwyr i astudio un o brif themau hanes cymdeithasol modern - sef, iechyd a meddygaeth - mewn cyd-destun Cymreig. Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud ar hanes meddygaeth yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf; gwaith sydd yn archwilio dylanwad nodweddion cymdeithasol, economaidd a daearyddol nodedig ar iechyd a'r ddarpariaeth gwasanaethau meddygol yng Nghymru. Rhydd y modiwl hwn gyfle i fyfyrwyr ddeall ac astudio'r maes mewn dyfnder.

Cynnwys

1. Seminar rhagarweiniol
2. Diwydianeiddio, trefoli ac argyfwng iechyd cyhoeddus y 1830au
3. Cyfunoliaeth a Diwygiad Glanweithdra
4. Gwallgofrwydd a Chymdeithas
5. Ysbytai a Sefydliadau Eraill
6. Y Gydwybod Gymdeithasol: Iechyd a Meddygaeth rhwng y Ddau Ryfel Byd
7. Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol

Tiwtorial unigol ar gyfer pob traethawd a gyflwynir (2awr)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Dangos a datblygu'r gallu i gyfathrebu syniadau trwy'r seminarau a'r traethodau. Asesir yr olaf yn unig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymryd a gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r yrfa
Datrys Problemau Arddangos sut mae haneswyr wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau methodolegol i ddeall y problemau yn y maes.
Gwaith Tim Trwy waith seminar.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwella'u dysgu a'u perfformiad yn ystod seminarau a thrwy adborth y traethodau.
Rhifedd Dangos perthnasedd ystadegau i hanes meddygaeth.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu deallusrwydd methodolegol o hanes meddygaeth ac ymwybyddiaeth o'r prif ddulliau a'r hanesyddiaeth.
Sgiliau ymchwil Dysgu sut i ddod o hyd i ffynonellau eilradd addas ac wedyn defnyddio'r ffynonellau hyn yn eu gwaith.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7