Module Information

Cod y Modiwl
TC10640
Teitl y Modiwl
Prosiect Cynhyrchu
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlithoedd/Seminar ar ddyfeisio gwaith mewn grwpiau a sesiynau tiwtorial ar Sgiliau Cyflwyno - 10 x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Os methir yr elfen o waith Portffolio neur Arholiad Llafar uchod, rhaid ail-gyflwynor elfennau hynny. Os methir yr elfen o waith Prosiect Ymarferol, fe ellir gosod traethawd ir myfyrwyr a fydd yn gofyn iddyn nhw adlewyrchu ar enghreifftiau neilltuol o waith amlgyfrwng ar her o gyflwyno gwaith mewn sefyllfa grwp (hyd at 3000 o eiriau)  100%
Asesiad Semester Arholiad Llafar Unigol  20%
Asesiad Semester Prosiect Ymarferol mewn Grwp  40%
Asesiad Semester Portffolio o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, a fydd hefyd yn cynnwys adfyfyriad ar y deunyddiadau hynny (3000 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. arddangos cyfres o sgiliau dyfeisio prosiect ymarferol, gan ddefnyddio technegau ymchwil perthnasol
2. cydweithio gyda myfyrwyr eraill tuag at nod a bennir ganddynt hwy eu hunain, dan gyfarwyddyd aelodau staff perthnasol
3. arddangos gallu sylfaenol i adfyfyrio ar y broses greadigol o ddyfeisio, trefnu, golygu a chyflwyno deunydd trwy gyfrwng portffolio o ddeunyddiau a gasglwyd ac a ystyriwyd ganddynt wrth baratoi'r prosiect yn y broses gynhyrchu
4. arddangos gallu sylfaenol i gymhwyso'r deunydd dogfennol crai yn y portffolio, a'i osod mewn cyd-destun theoretaidd a/neu hanesyddol priodol
5. arddangos gallu sylfaenol i werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyd-fyfyrwyr trwy gyfrwng arholiad llafar

Nod

Bwriad y modiwl hwn fydd rhoi cyfle i'r myfyrwyr arddel a chymhwyso'r sgiliau a'r profiadau ymarferol a theoretig a gyflwynwyd iddynt ac a ddatblygwyd ganddynt yn ystod y modiwlau Semester 1. Fe fydd yn gofyn i'r myfyrwyr ddysgu cydweithio'n greadigol ar brosiect amlgyfrwng a fydd yn dyst i'w gallu i symbylu, strwythuro a saernio gweledigaeth gelfyddydol dan gyfarwyddyd aelod o staff.

Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gosod her i'r myfyrwyr i geisio dygymod a'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfrwng cyfuniad o lwyfannu byw a defnydd o'r cyfryngau: gan hynny, fe fydd yn baratoad pwysig ar gyfer gwaith creadigol pellach yn ystod Rhan 2 o'u cwrs gradd.

Cynnwys

Yn y sesiynau darlith/seminar ar ddyfeisio, fe drafodir gwahanol ddulliau o drin deunydd storiol trwy weithredu byw a thrwy gynrychioli cyfryngol (gan drin materion megis dewis pwnc, datblygu plot, creu delweddau, lledu/canoli sylw'r gynulleidfa, golygu'r deunydd a.y.b.); dangosir nifer o enghreifftiau o waith amlgyfrwng yn y sesiynau gwylio er mwyn helpu sbarduno'r broses ddyfeisio a chynnig cyd-destun iddo (fe all y sesiynau hyn ddangos gwaith ymarferwyr megis Brith Gof, Robert Wilson, Eddie Ladd, Michel Gondry, Robert Lepage a.y.b.).

Fe fydd y deunydd a ddangosir yn cael ei baratoi trwy gyfres o sesiynau gweithdy ymarferol (ymarfer byw a gwaith saethu/golygu fideo a.y.b.) ac yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol (perfformiad byw cyhoeddus, dangosiad fideo cyhoeddus, ei bostio ar youtube.com, sesh.tv a.y.b.).

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i gydweithio'n greadigol wrth ddatblygu a chyflwyno prosiect ymarferol amlgyfrwng. Fe gyflwynir nifer o sesiynau darlith/seminar ar ddechrau'r modiwl er mwyn helpu'r myfyrwyr i ddewis ffyrdd o gydweithio'n greadigol ar draws y gwahanol feysydd disgyblaethol yr ymdrinir a hwy yn yr Adran, ac fe gefnogir y rhain gyda sesiynau gwylio a fydd yn rhoi cyfle iddynt weld enghreifftiau gwahanol o waith amlgyfrwng a gwaith darllen gosodedig a fydd yn sail i drafodaethau pellach.

Disgwylir i'r myfyrwyr weithio mewn grwp, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy'n codi o ganlyniad i gydweithio fel tim. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau a pherfformio byw, ac yn profi eu gallu i addasu eu gweleidgaeth yn ol yr amgylchiadau a'r adnoddau penodol a fydd ar gael iddynt.

Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y grwp yn y prosiect terfynol, (ii) trwy arholiad llafar unigol, a (iii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd datblygu sgiliau cyfathrebu yn hanfodol bwysig ar gyfer llwyddiant y prosiect ymarferol, o ran (i) cyfathrebu'n llwyddiannus a chynulleidfa trwy dduliau creadigol, a (ii) cyfathrebu a chyd-aelodau'r grwp ymarferol wrth ddyfeisio, dosrannu a threfnu'rgwaith. Fe asesir ansawdd y cyfathrebu wrth werthuso pob aseiniad ar gyfer y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gan fod y modiwl hwn yn un Lefel 1, ni fydd yn cynnig unrhyw gyfarwyddyd ffurfiol tuag at gynllunio gyrfa. Fodd bynnag fel pob math waith creadigol ym maes Theatr, Ffilm a Theledu, fe fydd yn cynnig profiadau a her neilltuol i fyfyrwyr a all fod o ddefnydd mawr iddynt wrth ystyried cyfeiriad eu gwaith a'u diddordebau yn y dyfodol.
Datrys Problemau Fe fydd y Prosiect Ymarferol yn gofyn i'r myfyrwyr gydweithio'n agos a'i gilydd tuag at nod a fydd yn cael ei benderfynu ganddyn nhw eu hunain (mewn cydweithrediad ag aelod o staff). Fe fydd hyn yn gofyn iddynt ddatblygu medrau datrys problemau creadigol, trefniadol, a thechnegol er mwyn cyrraedd y nod. Fe fydd y sgiliau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith ymarferol gorffenedig.
Gwaith Tim Fe fydd datblygu'r gallu i weithio fel tim yn gwbl allweddol i'r modiwl hwn. Fe asesir y medrau hyn yn uniongyrchol wrth ddyfarnu marc grwp i'r Prosiect Ymarferol, ac yn anuniongyrchol wrth ystyried trafodaeth y myfyrwyr o'r broses greadigol yn y Portffolio a'r Arholiad Llafar.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y profiadau ymarferol amryfal y bydd aelodau'r grwp wedi'u cael yn ystod Sester 1 o'u blwyddyn gyntaf: felly fe fydd yna elfen bwysig o wella a datblygu eu perfformiad eu hunain yn ystod y modiwl hwn. Fe fydd y modiwl yn gofyn iddynt ddatblygu eu gallu hefyd i adfyfyrio'n ddwysach ar y broses ymarferol nag a wnaed yn y modiwlau 20 credyd blaenorol. Fodd bynnag, nid asesir y myfyrwyr ar sail datblygiad o un asesiad i'r llall yn y modiwl hwn, gan fod pob aseiniad yn canoli ar yr un broses ymarferol.
Rhifedd Ni ddatblygir y medrau hyn yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd y portffolio a gyflwynir fel rhan o'r modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr ddangos y math o waith ymchwil a gyflawnwyd ganddynt wrth ddyfeisio a datblygu eu prosiect. Fe roddir cyfarwyddyd iddynt yn ystod y sesiynau darlith/seminar a'r tiwtorialau ynglyn a ffynonellau a dulliau ymchwil priodol.
Technoleg Gwybodaeth Nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er y gall y defnydd o dechnoleg gwybodaeth fod yn elfen bwysig wrth gyflawni gwaith ymchwil i'r prosiect.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Alfreds, Mike (2008) Different Every Night Nick Hern Books Chwilio Primo Barba, Eugenio (1991) A Dictionary of Theatre Anthropolgy - The Secret Arts of the Performer Routledge/CPR Chwilio Primo Barker, Clive (1989) Theatre Games Methuen Chwilio Primo Bartow, Arthur (ed) (2008) Handbook of Acting Techniques Nick Hern Books Chwilio Primo Boal, Augusto (1992) Games for Actors and Non-Actors Routledge Chwilio Primo Chapple, F, and C. Kattrnbelt (eds) (2007) Intermediality in Theatre and Performance Rodopi Chwilio Primo Counsell, C. (1996) Signs of Performance: An Introduction to Twentieth-Century Theatre Routledge Chwilio Primo Crittenden, Roger (2005) Fine Cuts: The Art of European Film Editing Focal Press Chwilio Primo Elwes, Catherine (2006) Video Art: A Guided Tour Chwilio Primo Etchells, T. (1999) Certain Fragments: Contemporary Performance and Forced Entertainment Chwilio Primo Foster, Gwendolyn Audrey and Wheeler Winston-Dixon (2002) Experimental Cinema: The Film Reader Routledge Chwilio Primo Garner, S. (1994) Bodied Spaces: Phenomenology and Performance in Contemporary Drama Cornell University Press Chwilio Primo Grau, Oliver (2008) MediaArtHistories MIT Press Chwilio Primo Jenkins, H. (2006) Convergence Culture New York Chwilio Primo Jones, A. and A. Stephenson (eds.) (1999) Performing the Body/Performing the Text Chwilio Primo Kaye, N. (2000) Site Specifics: Performance, Place and Documentation Routledge Chwilio Primo Lee, John J. Jr. (2005) The Producer's Business Handbook Focal Press Chwilio Primo Musburger, Robert B. Single-Camera Video Production Chwilio Primo Pearson, M. and M. Shanks (2001) Theatre/Archaeology Routledge Chwilio Primo Proferes, Nicholas (2004) Film Directing Fundementals Focal Press Chwilio Primo Schechner, R. (1973) Environmental Theatre New York: Hawthorn Chwilio Primo Schechner, Richard (2002) Performance Studies: An Introduction Routledge Chwilio Primo Watts, Harris (1992) Directing on Camera: A Checklist of Video and Film Technique Aavo Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4