Module Information

Cod y Modiwl
TC10820
Teitl y Modiwl
Prosiect Cynhyrchu (Theatr)
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 2 sesiwn x 3 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i gydweithio'n greadigol wrth ddatblygu a chyflwyno prosiect ymarferol.

Disgwylir i'r myfyrwyr weithio mewn grŵp, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy'n codi o ganlyniad i gydweithio fel tîm. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau a pherfformio byw, ac yn profi eu gallu i addasu eu gweleidgaeth yn ôl yr amgylchiadau a'r adnoddau penodol a fydd ar gael iddynt.

Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y grŵp yn y prosiect terfynol, a (ii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.

Nod

Bwriad y modiwl hwn fydd rhoi cyfle i'r myfyrwyr arddel a chymhwyso'r sgiliau a'r profiadau ymarferol a theoretig a gyflwynwyd iddynt ac a ddatblygwyd ganddynt yn ystod y modiwlau Semester 1. Fe fydd yn gofyn i'r myfyrwyr ddysgu cydweithio'n greadigol ar brosiect a fydd yn dyst i'w gallu i symbylu, strwythuro a saernïo gweledigaeth gelfyddydol dan gyfarwyddyd aelod o staff.

Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i'r myfyrwyr i geisio dygymod â'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfrwng cyfuniad o lwyfannu byw a dyfeisiadau eraill megis gwaith fideo ayyb. Fe fydd yn baratoad pwysig ar gyfer gwaith creadigol pellach yn ystod Rhan 2 o'u cwrs gradd.

Cynnwys

Seilir cynnwys y modiwl ar gyfle neilltuol i weithio fel grwp tuag at gynyrch terfynol a fydd yn waith theatraidd sydd o bosib wedi ei gyd-ddyfeisio gyda’r grwp prosiect cynyrchu Cyfryngau ond nid o reidrwydd. Gan bod y modiwl yn cynnig cyfle posib i gyda-weithio ar brosiect aml-gyfrwng fe fydd y deunydd yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol (perfformiad byw cyhoeddus, dangosiad fideo cyhoeddus, ei bostio ar youtube.com, sesh.tv a.y.b.). At hynny fydd y sesiynnau ymarferol a’r gwaith tuag at yr adfyfyriad ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriadau a thrafodaethau ar waith ymarferwyr allweddol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd datblygu sgiliau cyfathrebu yn hanfodol bwysig ar gyer llwyddiant y prosiect ymarferol, o ran (i) cyfathrebu’n llwyddiannus â chynulleidfa trwy ddulliau creadigol, a (ii) cyfathrebu â chyd-aelodau’r grŵp ymarferol wrth ddyfeisio, dosrannu a threfnu’r gwaith. Fe asesir ansawdd y cyfathrebu wrth werthuso pob aseiniad ar gyfer y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gan fod y modiwl hwn yn un Lefel 1, ni fydd yn cynnig unrhyw gyfarwyddyd ffurfiol tuag at gynllunio gyrfa. Fodd bynnag fel pob math waith creadigol ym maes Theatr, ffilm a theledu, fe fydd yn cynnig profiadau a her neilltuol i fyfyrwyr a all fod o ddefnydd mawr iddynt wrth ystyried cyfeiriad eu gwaith a’u diddordebau yn y dyfodol.
Datrys Problemau Fe fydd y Prosiect Ymarferol yn gofyn i’r myfyrwyr gydweithio’n agos â’i gilydd tuag at nod a fydd yn cael ei benderfynu ganddyn nhw eu hunain (mewn cydweithrediad ag aelod o staff). Fe fydd hyn gofyn iddynt ddatblygu medrau datrys problemau creadigol, trefniadol, a thechnegol er mwyn cyrraedd y nod. Fe fydd y sgiliau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith ymarferol gorffenedig.
Gwaith Tim Fe fydd datblygu’r gallu i weithio fel tîm yn gwbl allweddol i’r modiwl hwn, Fe asesir y medrau hyn yn uniongyrchol wrth ddyfarnu marc grŵp i’r Prosiect Ymarferol, ac yn anuniongyrchol wrth ystyried trafodaeth y myfyrwyr o’r broses greadigol yn y Portffolio a’r Arholiad Llafar.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y profiadau ymarferol amryfal y bydd aelodau’r grŵp wedi’u cael yn ystod Semester 1 o’u blwyddyn gyntaf: felly fe fydd yna elfen bwysig o wella a dtablygu eu perfformiad eu hunain yn ystod y modiwl hwn. Fe fydd y modiwl yn gofyn iddynt ddatblygu eu gallu hefyd i adfyfyrio’n ddwysach ar y broses ymarferol nag a wnaed yn y modiwlau 20 vcredyd blaenorol. Fodd bynnag, nid asesir y myfyrwyr ar sail datblygiad o un asesiad i’r llall yn y modiwl hwn,gan fod pob aseiniad yn canoli ar yr un broses ymarferol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd y portffolio a gyflwynir fel rhan o’r modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr ddangos y math o waith ymchwil a gyflawnwyd ganddynt wrth ddyfeisio a datblygu eu prosiect. Fe roddir cyfarwyddyd iddynt yn ystod y sesiynau darlith/seminar a’r tiwtorialau ynglŷn â ffynonellau a dulliau ymchwil priodol.
Technoleg Gwybodaeth Nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er y gall y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn elfen bwysig wrth gyflawni gwaith ymchwil i’r prosiect.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4