Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | 10 x Gweithdy 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Asesiad Cynhyrchu Aml Gyfrwng | 50% |
Arholiad Semester | 14 Awr Arholiad Grwp a Dogfennaeth Aml Gamra (2500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad Cynyrchu Aml Gyfrwng | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad Ysgrifenedig (Aml Gamra) Os fethir cyfrannu at y cynhyrchiad terfynol amlgyfryngol am resymau meddygol neu resymau dilys eraill, gofynnir ir myfyriwr gyflwyno traethawd (6000 o eiriau) yn ei le. Bydd natur y dasg yn cael ei benderfynu gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi yn ddibynnol ar ganran y gwaith a gollwyd. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos dealltwriaeth o'r gwahanol elfennau sydd ynglwm a phrosesau cynhyrchu cyfryngol o fewn stiwdio ddigidol
Arddangos meistrolaeth o gyfres o sgiliau allweddol sydd ynglwm a'r prosesau hyn
Ystyried y broses gynhyrchu a'u gwaith creadigol mewn fframwaith gritigol ac atblygol
Nod
Amcan y modiwl hwn sydd yn coleddu cydgyfeiriant yn y cyfryngau yw cynnig cyfle i fyfrwyr weithio mewn grwp ar gynhyrchiad ymarferol amlgyfryngol a fydd yn cwmpasu sawl agwedd ar ymdriniaeth gyfryngol megis sgriptio, gwaith camera sengl, cynhyrchu stiwdio amlgamera, creu llwyfannau gwe a chyfathrebu electronig a chymdeithasol arall perthnasol. Bydd y modiwl yn cynnig cyd-destun ar gyfer ystyriaethau technegol, moesol, aesthetig a chysyniadol sydd ynglwm a chynhyrchu amlgyfryngol. Bydd pwyslais ar feirniadaeth atblygol o fewn y grwp a gan fyfyrwyrs yn unigol ar eu gwaith eu hunain.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr adeiladu ar eu profiad cynhyrchu creadigol ac i ddatblygu gwaith cynhyrchu aml-gyfryngol ac aml-lwyfan mewn cyd-destun atblygol a beirniadol. Bydd cyfle i greu cynhyrchiad a fydd yn ymestyn sgiliau a chymhwyso gwybodaeth o wahanol genres o fewn y cyfryngau yn ogystal ag egwyddorion cydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol. Fe ddysgir y modiwl drwy ddarlithoedd a gweithdai a fydd yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar brosesau cynhyrchu o fewn cyd-destun ehangach o adeiladu prosiect cynhwysfawr a fydd yn cynnwys gwaith sgriptio, camera sengl, cynhyrchu amlgamera a chyfryngau newydd. Bydd y Cydlynydd yn gosod tasgau i'r myfyrwyr o sesiwn i sesiwn ac fe gaiff rhain eu cyflawni mewn grwpiau ac yn unigol.
Cynnwys
Y Stiwdio Ddigidol: Prosiect Cydgyfeiriannol a Chynhyrchiad Aml-gyfryngol ac Aml-lwyfan
Datblygu Syniadau: Gwerthuso a thafoli pynciau, themau, ymdriniaeth, genrau, technoleg ac arddulliau.
Ystyriaethau Cynhyrchu ar gyfer Cynhyrchu 'Ffuglen' a Chynhyrchu 'Ffeithiol'.
Cyd-destun Stiwdio a Chynhyrchu: Gweithio mewn tim a dadansoddi rol unigolion.
Ffurfioli Syniadau a Beirniadaeth Atblygol
Creu cynnwys:
1. Ymchwilio (Pobl, Lleoliadau)
2. Sgriptio
3. Cynnyrch Ffeithiol/Dogfen
4. Cynnyrch ffuglen
5. Defnydd Archifau
6. Cyfryngau Newydd
7. Camera Sengl a Golygu
8. Stiwdio Aml-gamera
Llwyfannu neu gyflwyno'r cynhyrchiad aml-gyfrwng ac aml-lwyfan.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd gweithio yn annibynnol ac mewn grwp yn sgiliau a ddatblygir yn y modiwl hwn ac yn hynny o beth gwelir fod elfen o ddatblygiad personol yn rhan ohono. Bydd hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ystyried gwahanol rolau o fewn timau cynhyrchu yn y diwydiannau creadigol ac felly gall dilyn y modiwl gyfrannu at sgiliau cynllunio gyrfa i unigolion. |
Datrys Problemau | Fe ddatblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu'r problemau a geir wrth gynllunio ac ymgymryd a gwaith cynhyrchu, megis problemau yn ymwneud ag offer, lleoliadau, newid trefniadau ac ati. Yn ogystal wrth weithio mewn grwp caiff y sgiliau hyn eu datblygu ymhellach. |
Gwaith Tim | Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain a gwaith ei gilydd yn gyson, gan ystyried y cyfraniadau ar lefel leol ac i gyfanwaith y prosiect. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modiwl. |
Rhifedd | Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | Gweler ASA, Datganiadau Meincnodau Pynciau, Communication, Media, film and Cultural Studies (2008) |
Sgiliau ymchwil | Fe ddatblygir sgiliau ymchwil penodol ar gyfer y prosiect cynhyrchu. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathregbu ar-lein. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6